Polisi Diogelu Corfforaethol
Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Tachwedd 2023
Yn yr adran hon
- Cydnabod pryderon ac ymateb iddynt
- Delio â phryder diogelu
- Rhoi gwybod am bryder
- Monitro ac Adolygu
- Atodiad 1 - Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth ac esgeulustod - Plant
- Atodiad 1 parhad - Categorïau ac arwyddion o gamdriniaeth - Oedolion mewn Perygl
- Atodiad 2 - Offeryn Archwilio - Hunanasesiad Diogelu Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin
Delio â phryder diogelu
- Peidiwch â chynhyrfu a gwrandewch yn ofalus, rhowch dawelwch meddwl i'r plentyn, y person ifanc neu'r oedolyn.
- Defnyddiwch wrando adfyfyriol a gofynnwch gwestiynau anfeirniadol agored – (beth, pwy, ble, pryd).
- Peidiwch ag addo i'r plentyn neu oedolyn y byddwch yn cadw'r mater yn gyfrinachol.
- Cofnodwch (yng ngeiriau'r person).
- Gofynnwch am gyngor pellach gan eich Arweinydd Diogelu Dynodedig neu'ch gwasanaethau cymdeithasol os oes angen.
- Esboniwch wrth y rhieni/unigolyn/gofalwr/teulu eich bod yn atgyfeirio'ch pryder ac yn cael caniatâd i wneud hynny, oni bai eich bod yn credu y byddwch trwy wneud hynny yn rhoi'r plentyn neu'r oedolyn mewn mwy o berygl o niwed.