Polisi Diogelu Corfforaethol

Diogelu Pobl yn Sir Gaerfyrddin | Diweddarwyd fis Tachwedd 2023

Pwrpas

Pwrpas y polisi yw nodi rolau a chyfrifoldebau gweithlu'r Cyngor gan gynnwys aelodau etholedig, a sicrhau bod pawb yn glir ynghylch eu rhwymedigaethau i hyrwyddo diogelwch a lles plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl.

Bydd y polisi yn darparu fframwaith i atal, canfod a rhoi gwybod am esgeulustod a chamdriniaeth mewn perthynas â phlant, pobl ifanc, ac oedolion sydd mewn perygl. Bydd y wybodaeth o fewn y polisi yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd, defnyddwyr gwasanaeth, cynghorwyr, gweithwyr, gwirfoddolwyr a phobl sy’n gweithio ar ran y Cyngor bod yna drefniadau cadarn ar waith i ddiogelu ac amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl.

Bydd y polisi yn rhoi canllawiau clir i weithwyr a chynghorwyr y Cyngor i adnabod pryd y gallai plentyn neu oedolyn fod mewn perygl o niwed a sut i ymateb. At ddiben y polisi, diffinnir 'gweithlu' fel y rheiny sy'n gwneud gwaith i'r Cyngor, gan gynnwys gweithwyr parhaol a dros dro, myfyrwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr a gyflogir gan asiantaethau cyflogaeth, contractwyr ac ymgynghorwyr.

Mae'r Polisi yn cwmpasu'r gweithlu cyfan ac aelodau etholedig, ac er y bydd gan bawb lefelau amrywiol o gyswllt â phlant, pobl ifanc ac oedolion mewn perygl, dylai pawb fod yn ymwybodol o arwyddion posibl o esgeulustod a chamdriniaeth a bod yn glir ynghylch beth i'w wneud os oes ganddynt bryderon.

Nid yw'r polisi yn gofyn i weithlu'r Cyngor ysgwyddo'r cyfrifoldeb o benderfynu a oes camdriniaeth/esgeulustod yn digwydd; fodd bynnag, mae'n angenrheidiol i unrhyw un sydd â lle rhesymol dros bryderu y gallai plentyn, person ifanc neu oedolyn fod yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso roi gwybod am y pryder hwnnw.