Monitro Buddion

Mae trefniadau gwerthuso cryf ar waith i ddeall effaith y Strategaeth Ddigidol hon, i fonitro gwerth am arian, ac i asesu a gafodd buddion eu gwireddu.

Byddwn yn cwblhau adroddiad blynyddol yn rhan o'r trefniadau llywodraethu cyffredinol ar gyfer ein rhaglen trawsnewid corfforaethol. Bydd hyn yn cynnwys trosolwg o gynnydd wrth weithredu blaenoriaethau a phrosiectau, ôl-werthusiad o'r broses gyflawni a'r canlyniadau a sicrhawyd, gan ddefnyddio data a mesurau lle bo'n briodol; gan gynnwys gwersi a ddysgwyd.

Byddwn yn defnyddio meini prawf a chwestiynau adolygiad thematig Digidol Archwilio Cymru 2023 i lywio ein dull strategol, i fesur ac i asesu ein hunain, ac i ddeall "sut mae ‘da’ yn edrych".

Byddwn yn meincnodi ac yn olrhain ac yn dadansoddi ystod o fetrigau yn rheolaidd ac yn adrodd arnynt yn flynyddol yn rhan o'n hadroddiad blynyddol ar ein Strategaeth Ddigidol. Bydd hynny'n helpu Sir Gaerfyrddin i wneud penderfyniadau deallus, i wella gwasanaethau digidol yn barhaus, a dangos effaith mentrau digidol. Dyma rai mesurau ansoddol a meintiol allweddol y byddwn yn eu defnyddio i fonitro a dadansoddi tueddiadau drwy gydol y broses o ddatblygu'r strategaeth 3 blynedd hon:

Cynhwysiant Digidol

Argaeledd cysylltedd: Mesur argaeledd ac ansawdd cysylltedd digidol (band eang a symudol) ar draws ein Sir.

Sgiliau Digidol: Asesu sgiliau a chymwyseddau digidol ein gweithlu a’r boblogaeth ehangach.

 

Darpariaeth Gwasanaeth

Bodlonrwydd Cwsmeriaid: Mesur bodlonrwydd cwsmeriaid mewnol ac allanol â'n gwasanaethau digidol drwy arolygon a mecanweithiau adborth.

Hygyrchedd Gwasanaethau: Gwerthuso pa mor hygyrch yw ein gwasanaethau digidol, yn unol â safonau hygyrchedd y diwydiant.

Metrigau'r Cyfryngau Cymdeithasol: Monitro’r defnydd o’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Gwefan y Cyngor: Olrhain y defnydd o wefan y cyngor; cyfrif nifer yr ymwelwyr unigryw, ymweliadau â thudalennau, a'r amser a dreulir ar y wefan.

Cylchlythyrau e-bost: Monitro twf y rhestr tanysgrifwyr e-bost; olrhain cyfraddau agor, cyfraddau clicio drwodd, a chyfraddau cadw tanysgrifwyr.

 

Mesurau Seiberddiogelwch a Diogelu Data

Olrhain effeithiolrwydd ein mesurau seiberddiogelwch.

Mesur effeithiolrwydd ein rhaglenni hyfforddiant ymwybyddiaeth seiber a GDPR.

Olrhain nifer a natur y digwyddiadau diogelwch dros amser.

Olrhain nifer a natur y digwyddiadau llywodraethu gwybodaeth dros amser.

Mesur digwyddiadau'n ymwneud â diogelwch sy'n targedu systemau ein cyngor dros amser.

Mesur ein cydymffurfiaeth â safonau'r diwydiant yn flynyddol.

 

Effeithlonrwydd ac Arbedion

Byddwn yn cynnal gwerthusiadau ôl-weithredol a gwireddu buddion ar gyfer prosiectau allweddol. Bydd y rhain yn cynnwys nodi'r costau a gaiff eu harbed drwy weithredu prosesau a gwasanaethau digidol, yr enillion ar fuddsoddiad am fentrau digidol a/neu fuddion eraill fel y capasiti o ran adnoddau neu'r amser a gaiff ei ryddhau yn sgil cyflwyno gwasanaethau digidol mwy effeithiol ac effeithlon.

 

Mabwysiadu Technoleg

Dyfeisiau: Monitro’r nifer a’r math o ddyfeisiau sy’n defnyddio ein gwasanaethau digidol ar-lein hy, ffonau symudol, llechi, ffonau clyfar, gliniaduron ac ati.

Cyfraddau Mabwysiadu Gwasanaethau Ar-lein: Mesur cyfraddau mabwysiadu gwasanaethau ar-lein a gynigir gan y cyngor a'u cymharu â metrigau sianeli traddodiadol hy, ffôn ac wyneb yn wyneb.

 

Cyfathrebu a Chydweithio

Mewnol: Mesur effeithiolrwydd ein hoffer digidol er mwyn cyfathrebu a chydweithio'n fewnol â'n gweithlu.

Allanol: Mesur effeithiolrwydd ein hoffer digidol er mwyn cyfathrebu a chydweithio'n allanol â'n trigolion a busnesau.

Ymgysylltu â Dinasyddion: Byddwn yn gwerthuso ymgysylltiad dinasyddion drwy fforymau ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol, a sianeli eraill.

 

Arloesi

Mabwysiadu Technoleg Newydd: Monitro'r graddau y caiff technolegau newydd eu mabwysiadu er mwyn arloesi (deallusrwydd artiffisial, awtomeiddio prosesau robotig ac ati)

Cynnydd Trawsnewid Digidol: Byddwn yn asesu cynnydd mentrau trawsnewid digidol.

Mentrau Di-bapur: Olrhain y gostyngiad yn y defnydd o bapur yn sgil prosesau digidol.

Awtomeiddo a Deallusrwydd Artiffisial: Mesur y graddau y caiff prosesau eu hawtomeiddio i wella effeithlonrwydd.

Y gallu i newid: Cynnal hunanasesiadau aeddfedrwydd digidol rheolaidd ar bob adran a maes gwasanaeth, gan nodi rhannau o'r sefydliad sydd angen cymorth i wella darpariaeth gwasanaeth ac ysgogi arbedion effeithlonrwydd drwy ddulliau digidol.

 

 

Mae 9 o bob 10 busnes sy'n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn dweud ei fod wedi gwella awtomeiddio ac effeithlonrwydd, ac mae 79% wedi arbed costau a 64% wedi cael mwy o refeniw.