Yn yr adran hon
- Rhageiriau
- Ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Beth yw Strategaeth Ddigidol?
- Sut y gwneir cynlluniau: Cysoni Lleol, Rhanbarthol a Chenedlaethol
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
- Amcanion Llesiant Sir Gaerfyrddin
- Nodau Llesiant Cymru
- Ymgysylltu a Chynnwys
- Partneriaethau a Chydweithio
- Llywodraethu: Ein Rhaglen Drawsnewid
Y Gymraeg
Mae data'r Cyfrifiad diweddaraf ar gyfer 2021 yn dangos bod Sir Gaerfyrddin yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg. Mae hyn yn cyfateb i 39.9% o gyfanswm poblogaeth y sir. Yn 2001 a 2011, Sir Gaerfyrddin oedd â'r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg o blith holl awdurdodau lleol Cymru, gydag 84,196 yn y naill flwyddyn a 78,048 yn y llall. Mae'r Sir ar hyn o bryd yn cynnwys y nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg o blith holl awdurdodau lleol Cymru ond un, ac yn dal i fod yn bedwaredd uchaf o ran canran y boblogaeth sy'n gallu siarad Cymraeg.
Mae’n hanfodol pwysleisio ac ymgorffori’r Gymraeg yn y Strategaeth Ddigidol hon er mwyn sicrhau cysondeb ag ystyriaethau diwylliannol, cyfreithiol, economaidd, addysgol a chymdeithasol. Mae'r Gymraeg yn rhan annatod o ddatblygiad a llesiant cyfannol Sir Gaerfyrddin yn yr oes ddigidol. Byddwn yn sicrhau bod ein holl wasanaethau ar-lein a digidol yn cael eu darparu’n ddwyieithog a’u hyrwyddo i’n trigolion a’r economi leol yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru), 2011.
Mae Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn nodi'n glir fod yn rhaid i'r Gymraeg fod yn rhan o'r chwyldro digidol, sy'n rhychwantu pob un o'r 5 maes â blaenoriaeth yn y strategaeth hon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y Gymraeg yn cael lle creiddiol wrth arloesi mewn technoleg ddigidol, fel bo modd defnyddio'r Gymraeg ym mhob cyd-destun digidol, ac fel Cyngor, byddwn yn cefnogi ac yn cyflawni'n unol â hyn. Mae ein nod yn gyson â'r nod yng 'Nghynllun Gweithredu Technoleg y Gymraeg', sy'n deillio o Cymraeg 2050, a byddwn yn sicrhau ein bod yn cynllunio datblygiadau technolegol fel bo modd defnyddio'r Gymraeg mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau, boed hynny drwy ddefnyddio llais, bysellfwrdd neu fath arall o ryngweithio rhwng dyn a chyfrifiadur.
Mae Sir Gaerfyrddin yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg 39.9% o gyfanswm poblogaeth y sir (Cyfrifiad 2021)