Yn yr adran hon
- Rhageiriau
- Ein gweledigaeth ar gyfer Sir Gaerfyrddin
- Beth yw Strategaeth Ddigidol?
- Sut y gwneir cynlluniau: Cysoni Lleol, Rhanbarthol a Chenedlaethol
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
- Amcanion Llesiant Sir Gaerfyrddin
- Nodau Llesiant Cymru
- Ymgysylltu a Chynnwys
- Partneriaethau a Chydweithio
- Llywodraethu: Ein Rhaglen Drawsnewid
Yr hyn a gyflawnir gennym
Mae ein Strategaeth Ddigidol yn cynnwys 5 maes blaenoriaeth.
Byddwn yn cyflawni’r gwaith canlynol dros y 3 blynedd nesaf, o dan bob un o’r 5 maes blaenoriaeth allweddol, y mae pob un ohonynt yn cyd-fynd â’n nodau llesiant lleol a chenedlaethol.
I sicrhau hyblygrwydd a chysoni parhaus, mae pob blaenoriaeth yn sefydlog am y flwyddyn gyntaf ac mae adolygiad blynyddol yn cael ei gynnal drwy gydol oes y strategaeth ar gyfer y blynyddoedd sydd ar ôl.
Maes Blaenoriaeth 1: Gwasanaethau Digidol
Maes Blaenoriaeth 2: Pobl a Sgiliau
Maes Blaenoriaeth 3: Data a Gwneud Penderfyniadau
Maes Blaenoriaeth 4: Technoleg ac Arloesi
Maes Blaenoriaeth 5: Cymunedau Digidol a'r Economi
Maes Blaenoriaeth 1: Gwasanaethau Digidol
Beth mae'n ei olygu?
- Gwasanaethau a gwybodaeth ar-lein hawdd eu defnyddio ac o ansawdd uchel i drigolion, cydweithwyr a phartneriaid.
- Mwy o fynediad at wasanaethau digidol sy’n ddwyieithog ac yn canolbwyntio ar y defnyddiwr.
- Darparu gwasanaethau digidol personol wedi'u cynllunio o amgylch anghenion parhaus cwsmeriaid.
- Canolbwyntio ar hygyrchedd a chynhwysiant digidol i gefnogi anghenion pob defnyddiwr.
Pam bod hyn yn bwysig?
- Sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau a gwybodaeth arlein rhagorol i'r cwsmer.
- Bodloni'r galw gan gwsmeriaid ac ymateb i ddisgwyliadau cwsmeriaid, sy'n cynyddu ac yn esblygu.
- Gwella ymgysylltiad cwsmeriaid drwy gynnig mynediad at wybodaeth a gwasanaethau wedi'u personoli.
- Sicrhau bod modd cael mynediad at wasanaethau ar-lein ar adeg a thrwy ddull cyfleus; 'unrhyw bryd, yn unrhyw le' o unrhyw ddyfais.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn?
- Drwy wella'r modd rydym yn dylunio ac yn adeiladu systemau a phrosesau ar-lein yn barhaus, gan roi anghenion a phrofiadau defnyddwyr wrth graidd ein gwaith.
- Drwy foderneiddio darpariaeth gwasanaeth digidol, gan ddefnyddio technoleg briodol ac arloesol.
- Drwy sicrhau gwybodaeth a gwasanaethau hygyrch ar bob dyfais symudol.
- Drwy barhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o'r sianeli digidol a ffafrir gan gwsmeriaid er mwyn cyfathrebu a rhyngweithio.
- Drwy sicrhau trefniadau cadarn i ddiogelu gwybodaeth er mwyn gwarchod data a hunaniaeth ein cwsmeriaid.
- Drwy sicrhau ein bod yn bodloni ac yn rhagori ar y canllawiau a'r safonau hygyrchedd cyfredol.
- Drwy fabwysiadu, a chadw at, Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru, lle bynnag y bo modd.
Teitl | Yr hyn a gyflawnir gennym | Canlyniadau | 24/25 | 25/26 | 26/27 |
---|---|---|---|---|---|
Y wefan a Fy Nghyfrif Hwb | Parhau i ddatblygu Gwefan y Cyngor a Fy Nghyfrif Hwb ar gyfer ein cwsmeriaid. | Darparu gwasanaethau cyngor drwy un pwynt mynediad canolog, sydd ar gael 24/7 ac yn syml i'w ddefnyddio, yn hygyrch ac yn gynhwysol. | ![]() |
||
Gwasanaethau Digidol Trafodiadol | Parhau i ddylunio a datblygu gwasanaethau digidol trafodiadol ar-lein i gwsmeriaid. | Cynyddu darpariaeth gwasanaethau ar-lein i gwsmeriaid, gyda rhagor o integreiddio ac awtomeiddio o'r naill ben i'r llall. | ![]() |
![]() |
![]() |
Porth Aelodau Etholedig | Gweithredu a datblygu Porth Aelodau Etholedig ar-lein ymhellach. | Mynediad hunanwasanaeth 24/7 i aelodau etholedig at ystod o wasanaethau digidol, er mwyn cynorthwyo ein haelodau a'n trigolion. | ![]() |
||
Map Ffordd Digidol Gwasanaethau Cwsmeriaid | Adolygu, datblygu a gweithredu map ffordd digidol ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid a chanolfan gyswllt. | Profiad digidol hygyrch drwy ein gwasanaethau cwsmeriaid, sydd wedi'i ddiogelu i'r dyfodol ac sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid. | ![]() |
||
Etholiadau a Democratiaeth | Cefnogaeth ddigidol gynhwysfawr ar gyfer etholiadau a democratiaeth drwy dechnolegau cydnerth ac arloesol a seiberddiogelwch cadarn. | Etholiadau diogel, tryloyw ac effeithlon, wedi'u hwyluso gan y technolegau mwyaf priodol, arloesol a diogel. | ![]() |
![]() |
![]() |
Gwasanaeth Cymorth Digidol | Gwasanaeth cymorth digidol cynhwysfawr a desg gymorth ar gyfer pob cwsmer corfforaethol, ysgol a phartner. | Gwasanaeth cymorth digidol rhagweithiol, effeithlon ac effeithiol sy’n gallu cynnal darpariaeth gwasanaeth cyhoeddus yn yr unfed ganrif ar hugain. | ![]() |
![]() |
![]() |
Llesiant Delta | Pecyn cymorth a datblygu digidol cynhwysfawr, drwy CLG ffurfiol, ar gyfer Llesiant Delta | Darpariaeth technoleg gydnerth a dibynadwy, cyngor, arweiniad a phecyn cymorth y tu allan i oriau ar gyfer Llesiant Delta. | ![]() |
||
Cefnogaeth Ddigidol i Ysgolion | Pecyn cymorth cynhwysfawr drwy CLG ffurfiol ar gyfer pob Ysgol Gynradd ac Uwchradd | Darparu cymorth digidol o'r unfed ganrif ar hugain i bobl ifanc, staff ac ysgolion Sir Gaerfyrddin. | ![]() |
||
Ymgysylltu Strategol | Rhaglen gynhwysfawr i ymgysylltu'n strategol ar draws yr holl adrannau corfforaethol, ysgolion, aelodau etholedig a phartneriaid. | Dealltwriaeth gref o anghenion a dyheadau digidol ein harweinwyr, ein cydweithwyr a'n partneriaid, gan weithredu atebion priodol i sicrhau gwasanaethau cyhoeddus effeithiol | ![]() |
![]() |
![]() |
Maes Blaenoriaeth 2: Pobl a Sgiliau
Beth mae'n ei olygu?
- Blaenoriaethu ein cydweithwyr drwy fuddsoddi yn eu sgiliau a’u gallu digidol.
- Gwerthfawrogi, cydnabod a buddsoddi yn y doniau a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i lwyddo.
- Cael y gorau o'n gweithlu drwy feithrin arferion gwaith modern.
- Bod yn ymatebol i anghenion ein pobl a'n gwasanaethau, gan alluogi ffyrdd newydd o weithio.
- Datblygu sgiliau a chapasiti'r Cyngor o ran casglu a dadansoddi data.
Pam bod hyn yn bwysig?
- Sgiliau a gallu priodol i gyflawni nodau ac amcanion sefydliadol allweddol.
- Sgiliau a chapasiti priodol i weithredu'n effeithiol fel sefydliad sy'n cael ei yrru gan ddata.
- Cynyddu hyder, diwylliant ac arweinyddiaeth ddigidol ar draws y sefydliad.
- Sicrhau gwelliant parhaus yng nghynhyrchiant a gallu'r gweithle.
- Cefnogi arbedion effeithlonrwydd a chynnydd mewn cynhyrchiant drwy wella ffyrdd o weithio.
- Helpu i sicrhau cydbwysedd bywyd gwaith iach a chydfuddiannol i'n gweithlu.
- Denu’r dalent angenrheidiol i gynnal a gwella ein gweithlu.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn?
- Cydnabod bod a wnelo gwasanaethau a darpariaeth ddigidol o ansawdd yn bennaf â phobl.
- Cyfleu pwysigrwydd sgiliau a gallu digidol yn gyson ac yn glir.
- Annog a chefnogi ein pobl i feithrin eu sgiliau, eu gallu a'u hyder yn barhaus.
- Rhoi ystyriaeth gyson i'r sgiliau a'r gallu digidol sydd eu hangen wrth ddylunio a darparu gwasanaethau.
- Integreiddio polisïau a strategaethau allweddol ag uchelgeisiau digidol.
- Sicrhau bod gan ein pobl fynediad at dechnoleg, systemau, data a gwybodaeth briodol.
Teitl | Yr hyn a gyflawnir gennym | Canlyniadau | 24/25 | 25/26 | 26/27 |
---|---|---|---|---|---|
Archwiliad Sgiliau Digidol | Archwiliad sgiliau digidol er mwyn nodi anghenion cyfredol ein gweithlu, a'i anghenion i'r dyfodol, o ran gwybodaeth a sgiliau. | Gwella'r gallu i ddenu, recriwtio a chadw talent. Dangos i'n pobl ein bod yn eu gwerthfawrogi drwy roi cefnogaeth iddynt feithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer swyddi'r dyfodol. | ![]() |
||
Dysgu a Datblygu Digidol | Cynnig gwell i'n staff o ran dysgu a datblygu digidol, gan sicrhau y gellir cyrchu cyfleoedd dysgu priodol o ystod o ddyfeisiau a lleoliadau. | Cynnig sgiliau gwell i'n pobl a fydd yn ein helpu i drawsnewid, moderneiddio ac adfywio gwasanaethau. | ![]() |
![]() |
![]() |
Rhannu Adnoddau Dysgu | Adnoddau dysgu wedi'u datblygu'n dda a'u rhannu i gefnogi cynhwysiant digidol ar draws ein gweithlu. | Ymgysylltu'n well â'r gweithlu, a gweithlu sy'n fwy cynhwysol ac sy'n ddigidol hyderus. | ![]() |
||
Fframwaith Sgiliau Digidol | Rhoi ein Fframwaith Sgiliau Digidol newydd ar waith. | Diwylliant o berfformiad uchel, o arloesi ac o gyflawni. Gweithwyr sydd â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r feddylfryd i ddefnyddio technoleg yn effeithiol ac yn effeithlon wrth eu gwaith. | ![]() |
![]() |
![]() |
System Rheoli Dysgu (LMS) | Gweithredu, datblygu a manteisio ar System Rheoli Dysgu (LMS). | Ecosystem dysgu well sy'n darparu cynnwys dysgu diddorol wedi'i bersonoli i'n pobl, a llwybrau sy'n cefnogi gwaith i gynllunio'r gweithlu. | ![]() |
![]() |
|
Mentoriaid Digidol | Nodi, hyfforddi a chefnogi mentoriaid digidol ar draws yr awdurdod yn barhaus, a fydd yn chwarae rhan hanfodol er mwyn hyrwyddo llythrennedd digidol a meithrin amgylchedd digidol-gynhwysol. | Cymorth gan gyfoedion i'n pobl mewn gweithle digidol. Gwell sgiliau digidol. Canllawiau i sicrhau bod cydweithwyr yn teimlo'n hyderus ac wedi'u grymuso. Trefniadau gwell i rannu gwybodaeth | ![]() |
||
Cynllun Gweithlu'r Gwasanaethau Digidol | Cyflwyno cynllun gweithlu blynyddol cynhwysfawr i ddatblygu a gwella sgiliau technegol ac annhechnegol ein gweithlu Gwasanaethau Digidol. | Sicrhau bod gan y Gwasanaethau Digidol y gallu technegol ac annhechnegol i gyflawni amcanion strategol y Cyngor mewn cyd-destun sy'n esblygu o hyd. | ![]() |
Maes Blaenoriaeth 3: Data a Gwneud Penderfyniadau
Beth mae'n ei olygu?
- Ymwreiddio diwylliant lle caiff data eu gwerthfawrogi'n wirioneddol ar bob lefel o fewn y sefydliad, ac ar draws pob adran.
- Sicrhau bod yr ehangder amrywiol o wybodaeth a data sydd ar gael inni fel sefydliad yn cael ei ystyried mewn modd cyfannol yn sail ar gyfer penderfyniadau.
- Rhannu gwybodaeth a data yn well yn fewnol ar draws y sefydliad, ac yn allanol â phartneriaid a rhanddeiliaid.
- Archwilio ymarferoldeb rhannu 'data ffynhonnell agored' i gefnogi tryloywder.
- Defnydd arloesol a thrawsnewidiol o ddata trwy ddysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial.
Pam bod hyn yn bwysig?
- Mae'n sicrhau bod data a gwybodaeth yn cael eu casglu, eu dadansoddi a'u darlunio mewn modd sy'n creu'r potensial mwyaf am fudd i'r sefydliad ac i'r Sir yn ei chyfanrwydd.
- Mae'n sicrhau bod yr wybodaeth a’r data sydd ar gael inni yn gadarn, yn berthnasol, ac yn amserol, fel bo modd gwneud penderfyniadau'n seiliedig ar dystiolaeth.
- Mae'n symleiddio'r ffordd yr ydym yn rhannu data gyda phartneriaid a sefydliadau eraill gan sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn rhan o un tîm sy'n gweithio ar amcanion cyffredin.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn?
- Drwy reoli gwybodaeth yn effeithiol a sicrhau bod trefniadau rhannu data priodol ar waith â phob sefydliad a phartner.
- Drwy fanteisio'n llawn ar dechnolegau newydd a ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys atebion data agored / ffynhonnell agored.
- Datblygu cysondeb corfforaethol yn y modd rydym yn casglu ac yn cofnodi data, gan leihau sefyllfaoedd lle ceir amryw o setiau data ar wahân a ffafrio cael fersiwn gyfun o'r gwirionedd y gall defnyddwyr fod yn hyderus yn ei gylch.
- Drwy ddefnyddio technoleg ddatblygol a thechnoleg arloesol i gasglu, storio, dadansoddi a darlunio data er mwyn gwneud penderfyniadau gwell.
- Sicrhau bod data, systemau a gwasanaethau'n cael eu cynnal a'u rheoli'n effeithlon ar blatfformau priodol.
Teitl | Yr hyn a gyflawnir gennym | Canlyniadau | 24/25 | 25/26 | 26/27 |
---|---|---|---|---|---|
Llywodraethu Gwybodaeth | Rhaglen waith flynyddol gadarn a chynhwysfawr ar gyfer Llywodraethu Gwybodaeth, gan gynnwys cyflawni ein rhwymedigaethau statudol o dan y Ddeddf Diogelu Data a sicrhau ein bod yn gyson â diwygiadau sy'n cael eu cyflwyno i'r gyfraith yn y DU. | Byddwn yn sicrhau bod asedau data a gwybodaeth y Cyngor yn cael eu rheoli'n effeithiol, eu diogelu, a'u defnyddio i gyflawni nodau strategol a grymuso penderfyniadau a gaiff eu gyrru gan ddata. | ![]() |
![]() |
![]() |
Cyfres Ddata Gorfforaethol | Datblygu ac ymwreiddio Cyfres Ddata Gorfforaethol gynhwysfawr. | Darparu cyfres ddata gynhwysfawr i benderfynwyr ar lefel uwch, a mynediad at gyfoeth o setiau data canolog, gan gynnwys offer dadansoddi ac adrodd cadarn. | ![]() |
![]() |
|
Gwybodaeth a Data Cwsmeriaid | Archwilio dull integredig o drin gwybodaeth a data cwsmeriaid | Creu 'un pwynt gwirionedd' ar gyfer data cwsmeriaid, fel bo modd ymholi'n ddi-dor. | ![]() |
![]() |
|
Deallusrwydd Busnes PowerBI | Mabwysiadu a manteisio ymhellach ar blatfform Deallusrwydd Busnes PowerBI ar draws y sefydliad. | Galluogi'r cyngor ac adrannau gwasanaeth i ddeall a dadansoddi ein data yn well er mwyn helpu i wneud penderfyniadau gwell. | ![]() |
![]() |
![]() |
Platfform Storio Data a Chydweithio | Defnyddio, datblygu a manteisio ar SharePoint ar draws pob maes gwasanaeth. | Platfform cyson ar gyfer rhannu gwybodaeth a chydweithio, gyda chyfleuster datblygedig i reoli cofnodion, cadw data a dosbarthu. | ![]() |
![]() |
|
Hunanasesiadau Aeddfedrwydd Digidol | Hunanasesiadau aeddfedrwydd digidol drwy broses yr hunanasesiad corfforaethol blynyddol ar gyfer pob adran a maes gwasanaeth. | Data a thystiolaeth er mwyn helpu i ganfod rhannau o'r sefydliad sydd angen cefnogaeth a newid er mwyn gwella darpariaeth gwasanaeth ac ysgogi arbedion effeithlonrwydd, drwy ddulliau digidol, data a thechnoleg. | ![]() |
Maes Blaenoriaeth 4: Technoleg ac Arloesi
Beth mae'n ei olygu?
- Buddsoddi mewn dyfeisiau, seilwaith a systemau arloesol, cydnerth ac ystwyth.
- Ysgogi a hwyluso effeithlonrwydd drwy dechnoleg ac arloesi.
- Cefnogi cydweithio â phartneriaid a rhanddeiliaid.
- Sicrhau cydnerthedd seiber cadarn drwy’r systemau mwyaf datblygedig sydd ar gael.
- Croesawu deallusrwydd artiffisial, awtomeiddio a thechnolegau datblygol mewn modd cyfrifol a moesegol.
- Defnyddio technoleg arloesol a phriodol i ategu darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd.
Pam bod hyn yn bwysig?
- Mae'n defnyddio atebion arloesol i wella profiadau cwsmeriaid a swyddogaethau swyddfa gefn.
- Mae'n defnyddio datblygiadau arloesol fel catalydd i ganolbwyntio ar gwsmeriaid mewn adrannau.
- Mae'n cynnig hyblygrwydd, y gallu i weithredu'n gyflym a gwasanaethau effeithlon y gellir eu cynyddu/lleihau i gyd-fynd ag anghenion.
- Mae'n cefnogi gwaith diogel o bell, gan alluogi staff i weithio o blatfformau a lleoliadau amrywiol.
- Mae cysylltedd rhwydweithiau data a llais yn hollbwysig wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern.
- Mae'n cydnabod gwerth strategol ein seilwaith, ein systemau a'n cysylltedd, a pha mor dyngedfennol ydynt.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn?
- Amnewid a diweddaru systemau, seilwaith a dyfeisiau etifeddol sydd wedi dyddio.
- Cydgrynhoi gweinyddwyr, storfeydd a rhaglenni meddalwedd er mwyn gwella perfformiad.
- Manteisio ar ddull cwmwl yn gyntaf, lle gall wella cydnerthedd, effeithlonrwydd a gwerth.
- Troi systemau llais yn rhithwir a'u cydgyfnerthu er mwyn cynyddu eu swyddogaethau ac arbed costau.
- Cael y gorau o gydweithio a rhannu gwasanaethau drwy gysylltiadau â Rhwydweithiau'r Sector Cyhoeddus.
- Sicrhau cysylltedd cyflym, diogel a chydnerth â'r rhyngrwyd i'r ochr gorfforaethol, i ysgolion ac i bartneriaid.
- Integreiddio data cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth i leihau achosion o ail-wneud gwaith a symleiddio cofnodion.
- Buddsoddi mewn technolegau seiberddiogelwch i atal ymosodiadau ar wybodaeth y Cyngor.
- Cynnal profion trylwyr ar weithdrefnau parhad busnes ac adfer ar ôl trychineb.
Teitl | Yr hyn a gyflawnir gennym | Canlyniadau | 24/25 | 25/26 | 26/27 |
---|---|---|---|---|---|
Strategaeth Deallusrwydd Artiffisial | Strategaeth a chynllun gweithredu cynhwysfawr ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial. | Ymagwedd glir ac ystyriol at fabwysiadu galluogrwydd Deallusrwydd Artiffisial mewn modd diogel a chyfrifol, lle bo hynny'n briodol ac yn werthfawr. | ![]() |
||
Awtomeiddio Prosesau Robotig (RPA) | Datblygu a gweithredu RPA ar draws gwasanaethau allweddol, fel y nodir ac a flaenoriaethir drwy ein rhaglen drawsnewid. | Prosesau symlach a phrofiad llawer gwell i gwsmeriaid drwy leihau'r gofynion amser ac adnoddau ar gyfer tasgau ailadroddus sy'n feichus o ran adnoddau. | ![]() |
![]() |
|
Systemau a Gynhelir yn y Cwmwl | Cydgysylltu a hwyluso'r broses o fudo rhaglenni a systemau hanfodol i fusnes i amgylcheddau a gynhelir yn y cwmwl (lle bo'n briodol). | Gwell cydnerthedd, hygyrchedd, perfformiad a threfniadau i integreiddio systemau a rhaglenni adrannol a chorfforaethol allweddol. | ![]() |
![]() |
![]() |
Seibergadernid ac Ymateb | Rhaglen seibergadernid ac ymateb flynyddol gynhwysfawr a chadarn. | Safonau, mesurau, polisïau, gweithdrefnau a thechnolegau cryf o ran seiberddiogelwch, gan fynd ati'n barhaus i gryfhau ein hymagwedd at ddiogelu'r sefydliad. | ![]() |
![]() |
![]() |
Parhad Busnes ac Adfer ar ôl Trychineb | Rhaglen waith gynhwysfawr i sicrhau cynlluniau parhad busnes ac adfer ar ôl trychineb, a phrofion cadarn a mynych a ffugymarferion ar yr holl seilwaith, systemau a gwasanaethau sy'n hanfodol i fusnes. | Cynlluniau parhad busnes ac adfer ar ôl trychineb sy'n gwella'n barhaus. Cynyddu'r gallu i gynnal darpariaeth gwasanaeth hanfodol os bydd systemau'n methu, ac adfer yn effeithiol ac effeithlon. | ![]() |
![]() |
![]() |
Seilwaith, Systemau a Gwasanaethau Corfforaethol | Cynllun cynhwysfawr i ddisodli a gwella seilwaith, systemau a gwasanaethau gweithredol y sefydliad, gan gynnwys gweinyddwyr, storio, cyfrifiadura, systemau wrth gefn a'r holl systemau rheoli perthnasol. | Seilwaith, systemau a gwasanaethau dibynadwy a diogel y gellir eu graddoli i fodloni gofynion cynyddol sefydliad modern a medrus sy'n ddigidol-soffistigedig. | ![]() |
![]() |
![]() |
Seilwaith a Thechnoleg Ysgolion | Buddsoddi yn seilwaith a thechnoleg ein hysgolion, gan gynnwys goruchwylio a darparu Grant Hwb ar gyfer Seilwaith mewn Ysgolion a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chynllun Cynaliadwyedd Hwb. | Seilwaith a thechnoleg ddigidol yr unfed ganrif ar hugain i danategu darpariaeth addysg i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin. | ![]() |
![]() |
![]() |
Rhwydweithiau a Chysylltedd | Rhaglen gynhwysfawr i wella a datblygu ein galluoedd rhwydwaith data a llais ar draws ein hamgylcheddau corfforaethol ac ysgol. | Mae cysylltedd eithriadol yn darparu'r sylfaen ar gyfer cyfathrebu, cydweithio, mynediad at wybodaeth, arloesi a mabwysiadu technoleg. | ![]() |
![]() |
![]() |
Dyfeisiau Defnyddiwr Terfynol | Cefnogi, cynnal ac uwchraddio ein casgliad sylweddol o liniaduron, cyfrifiaduron desg, llechi a ffonau clyfar yn barhaus. | Gweithlu a chanddo'r dyfeisiau mwyaf priodol ac effeithiol, ynghyd â mynediad effeithlon at ddata a systemau swyddfa gefn, a mwy o allu i weithio mewn modd hybrid. | ![]() |
![]() |
![]() |
Technoleg Llais | Datblygu a buddsoddi ymhellach yn ein technoleg llais, gan barhau i symud oddi wrth deleffoni traddodiadol i amgylchedd ‘ffôn meddal’ integredig sy’n ffafriol i weithlu ystwyth yr unfed ganrif ar hugain. | Platfformau cyfathrebu llais cydnerth ac ystwyth sy'n hwyluso cydweithio a gweithio hybrid. | ![]() |
![]() |
![]() |
Rhesymoli Adeiladau | Darparu adnoddau a chefnogaeth lawn ar gyfer raglen rhesymoli adeiladau'r cyngor. | Darparu technoleg gynhwysfawr wedi'i hadlinio ar safleoedd presennol, a datgomisiynu safleoedd sy'n cael eu gwagio yn ddiogel a thrwyadl. | ![]() |
||
Rhaglen Moderneiddio Addysg | Mae ffabrig digidol o'r radd flaenaf ym mhob ysgol newydd yn adeiladu ac adnewyddu gan gynnwys cysylltedd, seilwaith, systemau a gwasanaethau. | Ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd sydd â'r holl offer i ddiwallu anghenion addysg nawr ac yn y dyfodol. | ![]() |
![]() |
![]() |
Maes Blaenoriaeth 5: Cymunedau Digidol a'r Economi
Beth mae'n ei olygu?
- Gwella cysylltedd ffeibr a symudol ein Sir.
- Helpu i hybu ymwybyddiaeth, dealltwriaeth â chyfraddau mabwysiadu band eang cyflym a rhwydweithiau symudol.
- Cefnogi sgiliau digidol a chynnwys ein trigolion a busnesau.
- Cydweithio â'r sector preifat a'r sector cyhoeddus er budd ein trigolion a busnesau.
- Cynorthwyo trigolion i fanteisio ar y dechnoleg ddigidol ddiweddaraf i wella'u bywydau.
- Annog busnesau i fanteisio ar dechnolegau datblygol i gyflymu cynhyrchiant.
Pam bod hyn yn bwysig?
- Mae ein plant yn haeddu byw mewn cymunedau gwybodus sydd wedi’u galluogi’n ddigidol, a chael y technolegau diweddaraf sydd ar gael er mwyn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd.
- Dylai holl drigolion Sir Gaerfyrddin allu cyrchu gwasanaethau ar-lein y gellir eu defnyddio i wella'u llesiant.
- Dylid annog a chefnogi busnesau i fuddsoddi yn y Sir, gan gefnogi'r economi leol a denu cyflogaeth gynaliadwy.
- Dylai busnesau gael y cyfle a’r gefnogaeth i arloesi a manteisio ar gyfleoedd newydd.
- Dylai fod gan ein hadeiladau a’n hasedau masnachol y seilwaith, y cyfleusterau a’r galluoedd angenrheidiol ar gyfer y dyfodol er mwyn ffynnu.
Sut y byddwn yn cyflawni hyn?
- Meithrin perthnasoedd effeithiol â phartneriaid allweddol yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, a chydweithio â nhw ar dechnoleg ddigidol ledled Sir Gaerfyrddin.
- Ystyried anghenion digidol trigolion, busnesau, prosiectau, a phartneriaid ar draws ein holl weithgarwch adfywio a datblygu economaidd sylweddol.
- Cydnabod a throsoli ein dylanwad a’n gallu sylweddol fel awdurdod lleol yn gyson i gyfrannu at seilwaith, sgiliau a buddsoddiad digidol ein Sir.
- Cael cyllid i ddatblygu gweithgareddau digidol cynaliadwy yn Sir Gaerfyrddin, lle bynnag y bo modd.
Teitl | Yr hyn a gyflawnir gennym | Canlyniadau | 24/25 | 25/26 | 26/27 |
---|---|---|---|---|---|
Pentre Awel | Ffabrig digidol o'r radd flaenaf ym Mhentre Awel gan gynnwys yr holl gysylltedd, seilwaith, systemau a gwasanaethau perthnasol. | Datblygiad o safon fyd-eang gyda'r galluoedd digidol priodol i gyflawni ei amcanion yn llawn. | ![]() |
![]() |
![]() |
Hwb Caerfyrddin | Ffabrig digidol o'r radd flaenaf yn Hwb newydd Caerfyrddin gan gynnwys yr holl gysylltedd, seilwaith, systemau a gwasanaethau perthnasol. | Cyfleuster canol tref â'r galluoedd digidol priodol i sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion. | ![]() |
![]() |
|
Ffyniant Bro Canol Tref Llanelli | Cefnogaeth, cyngor ac adnoddau i sicrhau bod yr holl dechnoleg berthnasol ac angenrheidiol yn cael ei defnyddio a'i gweithredu yn ei prosiect i fuddsoddi yng Nghanol Tref Llanelli. | Cynllun adfywio canol tref â'r galluoedd digidol angenrheidiol, sydd wedi'u diogelu i'r dyfodol, er mwyn sicrhau ei lwyddiant. | ![]() |
||
Llwybr Dyffryn Tywi | Cefnogaeth, cyngor ac adnoddau i sicrhau bod yr holl dechnoleg berthnasol ac angenrheidiol yn cael ei defnyddio a'i gweithredu ar Lwybr newydd Dyffryn Tywi. | Atyniad yr unfed ganrif ar hugain yng nghanol Dyffryn Tywi, sy'n barod ac yn gallu croesawu datblygiadau digidol er mwyn gwella profiadau ymwelwyr. | ![]() |
||
Asedau masnachol | Cefnogaeth ddigidol a buddsoddiad yn ein hasedau masnachol blaenllaw, gan gynnwys Parc Gwledig Pen-bre, Prosiect Denu Ymwelwyr Pentywyn, Neuadd y Farchnad Llandeilo, Marchnadoedd Canol Tref, a Chanolfan Fenter y Goleudy. | Asedau masnachol sydd â'r holl gyfarpar angenrheidiol i fodloni anghenion ein tenantiaid busnes, partneriaid, cwsmeriaid ac ymwelwyr. | ![]() |
![]() |
![]() |
Cronfa Ffyniant Gyffredin | Thema ddigidol drawsbynciol o fewn prosiectau a ariennir o'r Gronfa Ffyniant Cyffredin ar draws Sir Gaerfyrddin, gan gynnig cefnogaeth ac arbenigedd lle bo angen. | Cyllid grant a phrosiectau sy'n mynd ati'n weithredol i ystyried ac ymwreiddio anghenion a meddylfryd digidol yn eu cynlluniau, er budd Sir Gaerfyrddin. | ![]() |
![]() |
|
Trefi Clyfar | Gweithio gyda’r holl bartneriaid, rhanddeiliaid, a busnesau sydd â diddordeb mewn defnyddio atebion clyfar a chasglu a rhannu data yn sail ar gyfer creu lleoedd o fewn ein 10 tref farchnad a'n 3 prif dref. | Trefi sydd â'r hyder a'r gallu i fanteisio ar ddulliau digidol a data er mwyn cefnogi ffyniant economaidd a chymdeithasol. | ![]() |
||
Cynnig sgiliau digidol trydydd sector, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. | Gweithio i nodi cynnig llawn y 3ydd sector, y sector cyhoeddus a'r sector preifat o ran sgiliau digidol ar draws Sir Gaerfyrddin, a hybu, cefnogi a hwyluso lle bynnag y o modd. | Sir wybodus ag ymwybyddiaeth o ystod o sgiliau digidol a chynhwysiant, a mynediad at y sgiliau hynny. | ![]() |
||
Rhaglen Sgiliau a Thalentau Ranbarthol | Arwain a chyflwyno Rhaglen Sgiliau a Thalentau Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar draws y rhanbarth ar ran yr holl bartneriaid a rhanddeiliaid. | Atebion addysg a hyfforddiant pwrpasol sy’n cyd-fynd ag anghenion diwydiant a themâu lleol a rhanbarthol allweddol, gan gynnwys digidol. | ![]() |
![]() |
![]() |
Rhaglen Seilwaith Digidol Ranbarthol | Arwain a chyflwyno’r rhaglen Seilwaith Digidol gwerth £55 miliwn ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe ar ran ein holl bartneriaid a rhanddeiliaid. | Band eang gwell i drigolion a busnesau. Rhanbarth clyfar sy'n barod ac yn gallu arloesi a mabwysiadu technoleg ddatblygol. Tirlun digidol cynhwysol sy'n bodloni ein hanghenion. | ![]() |
![]() |
|
Cysylltu Sir Gâr (Band Eang) | Gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i gynyddu darpariaeth band eang ffeibr llawn a lleihau safleoedd heb gysylltiad cyflym iawn ledled Sir Gaerfyrddin. | Gwell cysylltedd ag eiddo preswyl a busnes. Cynyddu cydraddoldeb o ran mynediad at wasanaethau ac adnoddau arlein. Lleihau allgáu digidol. | ![]() |
![]() |
|
Cysylltu Sir Gâr (Symudol) | Gweithio gyda phartneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat i gynyddu darpariaeth cysylltedd symudol 4/5G a chynyddu'r dewis o gysylltedd symudol ledled Caerfyrddin. | Gwell capasiti a chwmpas i ddarparu gwasanaethau digidol i bawb, ym mhobman. Mwy o ddewis a chystadleuaeth i drigolion a busnesau o ran cysylltedd symudol. | ![]() |
![]() |
|
Adnoddau cymorth i drigolion a busnesau | Datblygu adnoddau cymorth ar y we ar gyfer trigolion a busnesau, gan eu helpu i sicrhau gwell cysylltedd drwy gyllid, cynlluniau a gweithredwyr perthnasol. | Lleoliad ar-lein i rannu adnoddau, cyfeirio, helpu a hysbysu. Rhannu a hyrwyddo defnydd o astudiaethau achos o fanteision a'r defnydd o Gysylltedd Digidol gan godi ymwybyddiaeth ynghylch pam bod gwella cysylltedd mor bwysig, a'r modd y gellir defnyddio hynny i helpu cwsmeriaid a busnesau ledled Sir Gaerfyrddin. | ![]() |
||
Diffodd y Rhwydwaith Ffôn Cyhoeddus Analog (PSTN) | Ymgyrch gyfathrebu addysgiadol ar gyfer trigolion a busnesau ynghylch mudo’r DU o’r hen rwydwaith ffôn analog cyhoeddus (PSTN) i rwydwaith cwbl ddigidol erbyn 2025. | Poblogaeth fwy gwybodus sy'n deall beth sy'n digwydd, pam, ac unrhyw gamau y mae angen iddynt eu cymryd i baratoi. | ![]() |
![]() |