Strategaeth Moderneiddio Addysg
Yn yr adran hon
- Trosolwg o'r Rhaglen
- Alinio Strategol (Yr Edau Euraidd)
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Adolygiad o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg
Adolygiad o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg
Yn 2010 penderfynodd y Cyngor fod y RhMA yn cael ei hadolygu bob dwy flynedd neu fel y bo'n ofynnol, fel arall, er mwyn sicrhau'i bod yn cyd-fynd â therfynau amser rhaglen genedlaethol Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif (a ailenwyd yn Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy).
Ers ei sefydlu mae cynnal adolygiad rheolaidd yn nodwedd ganolog o'r RhMA er mwyn gallu cadw hyblygrwydd wrth wraidd y rhaglen i sicrhau ei bod yn gyfredol ac yn ymatebol i newidiadau yn y fframwaith polisi addysg a'i bod yn gallu diwallu anghenion cymdeithas sy'n datblygu'n gyson. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach yn yr hinsawdd bresennol/y cyfnod ar ôl y pandemig.
Mae meini prawf sydd wedi hen ymsefydlu, a ddatblygwyd ac a fabwysiadwyd yn lleol drwy ymgynghori ag arweinwyr ysgolion cynrychioliadol, wedi'u cytuno a'u mabwysiadu fel dangosyddion priodol hyfywedd ac angen am fuddsoddi. Mabwysiadwyd y rhain yn ffurfiol yn 2008 ac maent wedi llywio strwythur y Rhaglen Moderneiddio Addysg ers hynny. Mae'r meini prawf wedi cael eu hadolygu yn unol â newidiadau i strategaethau a pholisïau, yn ogystal â newidiadau i ffactorau allanol megis: pwysau/cyllidebau ariannol, ôl troed ysgolion, maint dosbarthiadau, recriwtio, cyflwr adeiladau yn dirywio a newidiadau demograffig i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â dyheadau presennol ac yn y dyfodol.
Bob tro y caiff y RhMA ei hadolygu, caiff pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin ei gwerthuso yn erbyn cyfres o feini prawf seiliedig ar dystiolaeth, sy'n caniatáu gwneud asesiad o hyfywedd gweithredol yr ysgol, a gwneud penderfyniadau ar sail angen buddsoddi cymharol pob ysgol.
Mae hyn yn galluogi'r Awdurdod i bennu rhaglen yn wrthrychol ar gyfer yr adolygiad strategol o'r rhwydwaith ysgolion a buddsoddi mewn moderneiddio yr ystad ysgolion mewn modd sy'n dryloyw ac yn amlwg yn deg.
O ganlyniad, mae pob ysgol yn cael ei rhoi mewn categori o fewn continwwm hyfywedd, i gadarnhau'r prognosis ar gyfer yr ysgol honno. Mae'r crynodeb o'r asesiad hyfywedd yn sail ar gyfer nodi prosiectau moderneiddio a chynigion rhesymoli o fewn y rhaglen gyffredinol.
Dylid nodi bod yr asesiad hyfywedd a'r casgliad ar gyfer pob ysgol yn seiliedig ar ddarpariaeth prif ffrwd a bydd dulliau eraill o ddarpariaeth megis y blynyddoedd cynnar, anghenion dysgu ychwanegol, ymddygiad ac ôl-16 yn cael eu llywio gan strategaethau ar wahân. Gellir gweld manylion y meini prawf hyfywedd a'r continwwm hyfywedd yn y tabl ar y dudalen nesaf.
Meini Prawf Hyfywedd |
Ansawdd a Safonau mewn Addysg: ystyried mesurau allweddol a pherfformiad fel yr aseswyd drwy arolygiadau Estyn. Bydd pennu mesurau arbennig ar gyfer ysgol yn sbarduno adolygiad. Arweinyddiaeth: sicrhau arweinyddiaeth gynaliadwy, gydag arweinwyr sy'n meddu ar gymwysterau addas sy'n rhydd i arwain a rheoli'r ysgol, lle na fydd gan yr un pennaeth ymrwymiad addysgu parhaol. Nifer y Disgyblion: nifer y disgyblion sy’n mynd i’r ysgol, gyda niferoedd isel o ddisgyblion yn ddangosydd allweddol ar gyfer adolygu. Nifer y disgyblion yw'r prif ffactor mewn cyllid ysgolion a gall niferoedd isel o ddisgyblion ddylanwadu'n sylweddol ar ddarpariaeth gynaliadwy a strwythurau staffio. Tueddiadau o ran Disgyblion: patrwm niferoedd disgyblion yn yr ysgol yn ystod y blynyddoedd blaenorol, gyda chofrestr sy’n lleihau yn ddangosydd allweddol ar gyfer adolygu. Rhagamcaniad o Nifer y Disgyblion: asesiad o’r amcangyfrifon o nifer y disgyblion y disgwylir iddynt fynd i’r ysgol o fewn y dalgylch dynodedig a’r ystod oed berthnasol yn ystod y pum mlynedd nesaf, gyda gostyngiad neu gynnydd a ragwelir yn ddangosydd allweddol ar gyfer adolygu. Lleoedd Gwag: nifer y lleoedd gwag yn yr ysgol, lle mae mwy na 10% o leoedd gwag mewn ardal yn gyffredinol yn ddangosydd ar gyfer adolygu i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y ddarpariaeth fel y'i diffinnir gan Lywodraeth Cymru yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018). Hyfywedd Ariannol:sefyllfa ariannol bresennol yr ysgol a’r hyn a ragwelir o dan Reoliadau Cyllido Ysgolion Cymru 2010, gyda diffyg yn y gyllideb yn ddangosydd allweddol ar gyfer adolygu. Cyflwr Adeiladau'r Ysgol: cyflwr asedau ffisegol yr ysgol a chost gwella’u cyflwr i gyrraedd safon dderbyniol, a asesir ar sail cost adnewyddu fel ffactor o werth yr ased ac yng nghyswllt nifer y lleoedd i ddisgyblion (yn ôl y lleoedd swyddogol sydd ar gael yn yr ysgol). Addasrwydd Adeiladau'r Ysgol: priodoldeb adeiladau a safle'r ysgol i gyflwyno’r cwricwlwm modern/Cwricwlwm newydd i Gymru yn effeithiol a sicrhau bod yr ased ar gael at ddefnydd y gymuned, ac amcan o gost unrhyw waith addasu neu helaethu i sicrhau bod y safle’n ddigonol. Cyfleoedd Cyllido/Adfywio Cydweithredol: pe bai cyfleoedd ar gael ar gyfer cyllid a/neu gydweithio drwy fentrau adfywio, gan gynnwys gydag asiantaethau eraill e.e. Awdurdodau Esgobaethol. |
Asesiad Hyfywedd | Caiff pob ysgol ei hasesu ar sail y meini prawf hyfywedd ac yna eu grwpio yn un o'r ddau gategori yn y continwwm hyfywedd. |
Continwwm Hyfywedd |
Cadw'r ysgol Cynnal adolygiad strategol o'r ysgol neu'r ardal |
Ar ôl i'r asesiadau hyfywedd gael eu cwblhau, mae pob prosiect yn cael ei osod mewn trefn yn seiliedig ar y meini prawf blaenoriaethu canlynol i ddarparu rhaglen gyffredinol hirdymor ar gyfer buddsoddi.
Angen | Mewn mannau lle mae darparu rhagor o le neu adnewyddu'r lle presennol yn hanfodol er mwyn darparu ar gyfer disgyblion yn sgil rhesymoli ysgolion eraill neu mae'r galw am leoedd yn cynyddu'n naturiol trwy newidiadau demograffig, ar yr amod, yn yr achos olaf, bod ysgolion yn cydymffurfio â Pholisi Derbyn y Cyngor.. |
Nifer y Disgyblion | Mewn mannau sydd â niferoedd cynyddol neu sefydlog o ddisgyblion neu'r ysgolion hynny y bernir gan yr Awdurdod eu bod yn angenrheidiol er mwyn darparu gwasanaethau addysg yn effeithiol yn y tymor hir. |
Lleoedd Gwag | Mewn mannau lle bydd hynny, ochr yn ochr â chynigion rhesymoli, yn hwyluso'r gostyngiad mwyaf yn nifer y lleoedd gwag yn yr ysgol. |
Cyflwr Adeiladau'r Ysgol | Mewn mannau lle bydd modd cyflawni'r cynnydd mwyaf tuag at sicrhau amcanion ar gyfer safleoedd o ansawdd uchel ar gyfer y nifer mwyaf o ddisgyblion |
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg | Mewn prosiectau sy'n hyrwyddo ehangu addysg cyfrwng Cymraeg neu ddatblygu addysg ddwyieithog, i gefnogi'r amcanion a bennwyd yn y Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg sydd gan y Cyngor Sir. Darparu'r nifer cywir o leoedd i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog. |
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) | Mewn mannau i gyflawni model o addysg gynhwysol a theg i bawb drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. |
Gofal Plant - y Blynyddoedd Cynnar | Mewn mannau i ddarparu'r math a'r swm cywir o ofal plant hygyrch o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion rhieni/gofalwyr. |
Carbon Sero Net a Chynaliadwyedd | Mewn mannau i weithio tuag at fod yn Garbon Sero Net a gwella adeiladau sy'n aneffeithlon o ran adnoddau ac sy'n cael effaith fawr ar yr amgylchedd. |
Hygyrchedd | Mewn mannau nad ydynt ar hyn o bryd yn diwallu anghenion pob defnyddiwr o ran adeiladau a hyrwyddo cynhwysiant. |
Cyfleusterau Cymunedol | Mewn mannau nad ydynt yn gallu hyrwyddo defnydd diogel gan y gymuned y tu allan i oriau ysgol traddodiadol ar hyn o bryd. |
Mae'r RhMA yn cael ei harwain gan nifer o baramedrau cenedlaethol a lleol sy'n dylanwadu ar yr ymyriadau sydd ar gael i ddatblygu'r rhaglen a'i rhoi ar waith.
Paramedrau
Mae unrhyw newid trawsnewidiol i'r ystad ysgolion yn dibynnu ar y canlynol:
- Cod Trefniadaeth Ysgolion – canllawiau statudol sy'n nodi cyfrifoldebau'r Awdurdod Lleol mewn perthynas ag ad-drefnu ysgolion a newidiadau a reoleiddir i wneud newidiadau sylweddol.
- Proses Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir yng Nghymru – canllawiau statudol ar gyfer sefydlu ffederasiynau ysgolion.
- Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru – mae rhaglen fuddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru yn darparu cyfleoedd cyllido cydweithredol i Awdurdodau Lleol trwy ei phroses cymeradwyo achosion busnes.
- Rhaglen Gyfalaf – Mae'n amlinellu cyllid Cyfalaf yr Awdurdod Lleol sydd ar gael ar gyfer yr Adran Addysg dros gyfnod o bum mlynedd.
- Y Broses Ddemocrataidd o Wneud Penderfyniadau – Proses a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir ar gyfer penderfynu ynghylch cynigion trefniadaeth ysgolion. Y Cyngor Sir yw'r corff penderfynu terfynol.
Ymyriadau (Opsiynau ar gyfer Newid)
Defnyddir ymyriadau i hwyluso newid i'r rhwydwaith ysgolion a gellir eu rhannu'n ddau fath, sef Statudol a Pholisi a Buddsoddi mewn Seilwaith.
Defnyddir Ymyriadau Statudol a Pholisi i ddatblygu rhwydwaith strategol a gweithredol effeithiol o ysgolion, sy'n diwallu'r angen am addysg ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Nodir cynigion drwy'r Adolygiad o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg ac maent yn ymateb i anghenion ardaloedd ar adegau penodol. Maent yn cynnwys:
- Recriwtio
- Polisi Derbyn
- Dalgylchoedd
- Ffederasiynau (Rheoliadau)
- Cynigion o ran y Cod Trefniadaeth Ysgolion:
- Ad-drefnu (Agor / Cau)
- Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (Newid natur y ddarpariaeth)
- Ystod Oedran
- ADY
- Cynyddu / Lleihau Nifer y Lleoedd
- Symud Ysgol (dros filltir)
- Chweched Dosbarth
Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r Awdurdod Derbyn ar gyfer ei holl ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd a gynhelir ac eithrio ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir lle mai Corff Llywodraethu yr ysgol yw'r Awdurdod Derbyn.
O fis Medi 2025, fel arfer, caiff disgyblion eu derbyn yn llawn amser i ysgol gynradd ar ddechrau tymor eu pen-blwydd yn 4 oed.
Mae rhai ysgolion hefyd yn cynnig darpariaeth feithrin ran-amser ac mae disgyblion fel arfer yn cael eu derbyn ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed.
Yn unol â'r gyfraith mae'n rhaid i rieni drefnu bod eu plant yn derbyn addysg amser llawn ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 5 oed.
Mae'n rhaid i ddisgyblion ysgolion cynradd ddechrau'r ysgol uwchradd yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed.
Caiff pob plentyn ei dderbyn i ysgol yn unol â Pholisi Derbyn i Ysgolion Cyngor Sir Caerfyrddin.
Mae dalgylch yn cyfeirio at ardal ddaearyddol lle mae angen i ddisgyblion fynychu ysgol benodol fel rheol.
Defnyddir dalgylchoedd ysgol i wneud y canlynol:
- dangos i rieni pa ysgol yw eu hysgol leol nhw.
- helpu ysgolion i uniaethu â'r cymunedau a wasanaethir ganddynt.
- blaenoriaethu derbyn disgyblion i ysgolion pan fo mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael. Byw o fewn y dalgylch yw un o'r meini prawf derbyn yn Sir Gaerfyrddin gan sicrhau bod ysgolion ar gael i wasanaethu plant lleol yn gyntaf.
- fel cyfrwng cynllunio i alluogi'r Awdurdod i gyflawni ei ddyletswydd o ran rhagweld y galw am addysg mewn ardal ac o ran cynllunio i ddiwallu'r galw hwnnw.
- fel elfen o'r polisi trafnidiaeth er mwyn hwyluso trefniadau cludiant o'r cartref i'r ysgol a rheoli costau.
Mae pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn gwasanaethu dalgylch dynodedig.
Mae’r term ‘ffederasiwn’ yn disgrifio cytundeb ffurfiol a chyfreithiol, lle mae mwy nag un ysgol, ac nid mwy na chwech, yn rhannu trefniadau llywodraethu ac yn cael Corff Llywodraethu sengl.
Fel y nodir yn y Broses Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir yng Nghymru mae ysgolion wedi gallu ffedereiddio ers 2010 gan ddefnyddio'r broses a nodwyd yn Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir ac Amrywiol Newidiadau (Cymru) 2010. Bu i'r broses Ffedereiddio ysgolion a gynhelir yng Nghymru ddisodli Rheoliadau Ffedereiddio 2010 ar 22 Mai 2014, a hefyd roi'r grym i Awdurdodau Lleol ffedereiddio ysgolion. Mae'r canllawiau presennol yn nodi sut gall Awdurdodau Lleol, yn ogystal â chyrff llywodraethu, ffedereiddio ysgolion, a sut gall ffederasiynau gael eu cynnig, eu sefydlu a'u ffurfio.
Mae'r broses y byddai awdurdod lleol yn ei defnyddio i ffedereiddio ysgolion bron yn union yr un fath â'r broses a ddilynid gan gyrff llywodraethu. Os yw awdurdod lleol yn ystyried ffedereiddio ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol sefydledig, dylai yn gyntaf gysylltu â'r Comisiwn Elusennau i drafod y cynigion. Rhaid iddo hefyd gael cydsyniad yr awdurdod esgobaethol neu'r ymddiriedolwyr perthnasol neu'r personau sy'n gyfrifol am benodi'r llywodraethwyr sefydledig.
Er mwyn i ffederasiwn lwyddo, rhaid i bob ysgol ymrwymo amser ac adnoddau. Bydd arweinyddiaeth glir a strwythurau rheoli ynghyd â gweledigaeth a rennir a nod cyffredin yn galluogi'r disgyblion i fanteisio ar gwricwlwm ehangach i gyfoethogi eu profiadau a darparu addysg o safon uchel i helpu i wella eu cyrhaeddiad.
Bydd y pŵer a roddir i Awdurdodau Lleol ffedereiddio yn darparu dull gwerthfawr ychwanegol i'r Rhaglen Moderneiddio Addysg wrth ystyried darpariaeth ar gyfer ardaloedd ledled Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.
Mae Ffedereiddio Anffurfiol wedi cael ei ddefnyddio fel ymyriad i sicrhau arweinyddiaeth yn rhai o'n hysgolion lle mae'n heriol recriwtio arweinwyr cynaliadwy oherwydd pwysau ar y gyllideb/niferoedd y disgyblion/natur wledig yr ysgol.
Mae Ffedereiddio Ffurfiol wedi cael ei ddefnyddio gan ysgolion yn ogystal â'r Awdurdod Lleol i:
- Sicrhau arweinyddiaeth gynaliadwy.
- Gwella cynaliadwyedd ysgolion yn y dyfodol.
- Gwella profiadau disgyblion.
- Gwella'r sefyllfa ynghylch y gyllideb.
- Ffurfioli trefniadau gweithio ar y cyd.
Fodd bynnag, yn fwyaf diweddar, mae ffedereiddio fel ymyriad yn cael ei herio. Mae dod o hyd i arweinyddiaeth gynaliadwy ar gyfer ffederasiynau ffurfiol yn dod yn fwyfwy anodd oherwydd y cyfrifoldeb sy'n gysylltiedig â rheoli mwy nag un ysgol. Gall y pwysau gwaith ychwanegol sy'n gysylltiedig â rheoli Ffederasiwn gael effaith negyddol ar lesiant Pennaeth. Yn ogystal, oherwydd y cynnydd mewn costau tanwydd, mae rhai Penaethiaid yn cwestiynu hyfywedd rôl y Pennaeth Gweithredol oherwydd y teithio ychwanegol.
Cyn 2020, nid oedd gan yr Awdurdod Lleol broses gymeradwy ar waith ar gyfer penderfynu ar gynigion ffedereiddio, yn wahanol i'r broses o wneud penderfyniadau a oedd ar waith ar gyfer penderfynu ar gynigion ad-drefnu ysgolion. Fodd bynnag, ym mis Chwefror 2020, cymeradwyodd y Bwrdd Gweithredol broses o wneud penderfyniadau ar gyfer cynigion ffedereiddio a arweinir gan Awdurdod Lleol, lle byddai'r Aelod Cabinet dros Addysg yn gwneud y penderfyniad ynghylch a ddylid rhoi cynnig ffedereiddio ar waith ai peidio.
Fel y nodwyd yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion 2018, gall Awdurdod Lleol wneud cynigion i:
- sefydlu neu gau ysgolion cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelir neu wneud newid a reoleiddir iddynt (gweler 3.3 o’r Cod);
- cau ysgol wirfoddol neu sefydledig;
- cynyddu neu leihau capasiti ysgol sefydledig neu wirfoddol heb gymeriad crefyddol.
Gall cyrff llywodraethu ysgolion sefydledig neu wirfoddol wneud cynigion i:
- gau eu hysgol;
- gwneud newid a reoleiddir i’w hysgol.
Gall unrhyw un wneud cynigion i sefydlu ysgol wirfoddol newydd. Fodd bynnag, dylai awdurdodau lleol gydweithio â’r corff crefyddol perthnasol pan mai cynnig i sefydlu ysgol wirfoddol o natur grefyddol sydd dan sylw.
Ni cheir sefydlu ysgol sefydledig nac ysgol arbennig sefydledig newydd yng Nghymru.
Gall awdurdodau lleol hefyd wneud cynigion i ychwanegu neu ddileu chweched dosbarth mewn ysgolion uwchradd gwirfoddol a sefydledig, ond dim ond os ydynt wedi cael caniatâd Gweinidogion Cymru i wneud hynny. Rhaid ceisio caniatâd drwy gais ysgrifenedig sy’n nodi rhesymeg yr awdurdod lleol dros y cynnig yn glir.
Yn ogystal â hyn, mae Deddf 2013 yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynigion i:
- unioni darpariaeth ormodol neu annigonol o leoedd mewn ysgolion (lle maent eisoes wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu i’r perwyl hwnnw) (adran 59);
- sicrhau darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig (lle maent eisoes wedi cyhoeddi cyfarwyddyd i awdurdod lleol/awdurdodau lleol/cyrff llywodraethu i’r perwyl hwnnw) (adran 68), ac
- ychwanegu neu ddileu chweched dosbarth mewn ysgol (adran 71).
Dangosir proses yr Awdurdod Lleol ar gyfer pob cynnig statudol ar wahân i gynigion adolygu ysgolion gwledig yn Atodiad 1.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ragdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig ar 1 Ionawr 2018, fel rhan o'r Cod Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig. Nod y polisi hwn yw diogelu dyfodol ysgolion gwledig, gan gydnabod eu pwysigrwydd i gymunedau lleol, nid yn unig fel sefydliadau addysgol ond hefyd fel canolfannau cymunedol hanfodol.
Mae'r rhagdybiaeth yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu tystiolaeth gref bod yr holl opsiynau eraill wedi'u hystyried yn drylwyr cyn cynnig cau. Mae cyflwyno'r rhagdybiaeth hon yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal darpariaeth addysgol mewn ardaloedd gwledig a chefnogi cynaliadwyedd y cymunedau hyn.
Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i fod yn gwbl gefnogol i wneud popeth yn ei allu i adeiladu cydnerthedd a chynaliadwyedd ei ysgolion gwledig yn y dyfodol, ac yn gweithio yn unol â chyfres Llywodraeth Cymru o weithdrefnau a gofynion yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion, sy’n gweithio ar sail tybiaeth yn erbyn cau fel y nodir yn Atodiad 2.
Dangosir proses yr Awdurdod Lleol ar gyfer cynigion adolygu ysgolion gwledig yn Atodiad 3.
Cyflawnir prosiectau drwy Ymyriadau Buddsoddi mewn Seilwaith (Opsiynau ar gyfer Datblygu) megis:
Estyniadau - Yn cyfeirio at y broses o helaethu adeilad neu strwythur presennol i greu lle neu ystafelloedd ychwanegol. Mae'n cynnwys adeiladu rhannau newydd sydd wedi'u hintegreiddio â'r adeilad gwreiddiol, gan gynyddu ei faint cyffredinol a'i ymarferoldeb. Gellir ychwanegu estyniadau i wahanol rannau o adeilad, megis ychwanegu ystafelloedd ychwanegol, ehangu cegin, creu adain newydd, neu helaethu'r lloriau uchaf. Pwrpas estyniad yw diwallu anghenion newidiol y defnyddwyr, darparu lle ar gyfer twf, neu wella gwerth ac ymarferoldeb yr eiddo.
Mae adeiladau newydd yn cyfeirio at y broses o greu adeilad neu strwythur cwbl newydd o'r dechrau. Yn y math hwn o adeiladu, nid oes strwythur sy'n bodoli eisoes, ac mae'r prosiect fel arfer yn cynnwys clirio'r safle, gosod y sylfaen, ac adeiladu pob elfen o'r adeilad, gan gynnwys waliau, lloriau, toeau a chyfleustodau. Mae adeiladau newydd yn gyffredin ar gyfer safleoedd tir glas (tir heb ei ddatblygu) neu pan fo strwythur presennol y tu hwnt i gael ei atgyweirio neu nad yw'n addas i'w adnewyddu.
Mae ailfodelu yn golygu gwneud newidiadau neu welliannau sylweddol i strwythur, cynllun neu ddyluniad adeilad presennol. Yn wahanol i estyniad, sy'n ychwanegu lle newydd, mae ailfodelu'n canolbwyntio ar adnewyddu a newid y lle presennol i fodloni anghenion y defnyddwyr yn well neu i ddiweddaru golwg ac ymarferoldeb yr adeilad. Gall prosiectau ailfodelu gynnwys adnewyddu ystafelloedd ymolchi, ceginau, neu ystafelloedd eraill, newid y cynllun mewnol, uwchraddio systemau trydanol neu blymio, neu ychwanegu nodweddion mewnol newydd.
Mae adnewyddu yn cyfeirio at y broses o adnewyddu, atgyweirio neu ddiweddaru adeilad neu strwythur sy'n bodoli eisoes, gyda'r nod o adfer ei gyflwr a'i ymarferoldeb i gyflwr gwell. Yn wahanol i ailfodelu, mae adnewyddu fel arfer yn golygu newidiadau llai helaeth ac mae'n canolbwyntio ar wella estheteg, ymarferoldeb a chyflwr cyffredinol yr adeilad. Gall hyn gynnwys atgyweirio elfennau sydd wedi torri neu wedi treulio, ailbaentio, gosod gosodiadau a ffitiadau newydd, ac uwchraddio systemau i sicrhau bod yr adeilad yn cyrraedd safonau modern.
Mae adeiladu modiwlaidd neu symudol yn cyfeirio at ddull o adeiladu strwythurau lle mae'r cydrannau neu'r modiwlau yn cael eu hadeiladu oddi ar y safle mewn ffatri neu amgylchedd rheoledig ac yna'n cael eu cludo i'r lleoliad terfynol i'w cydosod. Mae'r modiwlau hyn wedi'u paratoi o flaen llaw, sy'n golygu eu bod yn cael eu cynhyrchu mewn meintiau a dyluniadau safonol, ac felly'n gallu cael eu cludo'n hawdd a'u cydosod yn gyflym ar y safle.
Mae'r ymyriadau buddsoddi yn cael eu llywodraethu'n gorfforaethol yn ogystal â thrwy gyfrwng y Rhaglen Moderneiddio Addysg a Chymunedau a Byrddau Prosiect (gweler atodiad 4).
Opsiynau Ymyriad drwy Fuddsoddi | Disgrifiad |
---|---|
Dim angen buddsoddiad cyfalaf | Dim angen buddsoddiad |
Adeiladau Ychwanegol Estyniad / Modiwlaidd | Byddai buddsoddi yn golygu helaethu ysgol i ddarparu adeiladau/darpariaeth ychwanegol |
Adnewyddu/Ailgyflunio | Byddai buddsoddi yn golygu adnewyddu/ailgyflunio ysgol ar ei safle presennol |
Ardal 3-11 newydd | Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu un ysgol 3-11 newydd i gymryd lle mwy nag un ysgol mewn ardal |
Ysgol 3-11 newydd yn lle'r un bresennol | Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol 3-11 newydd i gymryd lle ysgol bresennol ar ei safle presennol neu ar safle newydd |
Ysgol 3-11 newydd | Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol 3-11 newydd |
Ysgol 11-16 newydd yn lle'r un bresennol | Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol 11-16 newydd i gymryd lle ysgol bresennol ar ei safle presennol neu ar safle newydd |
Ysgol 11-16 newydd | Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol 11-16 newydd |
Ysgol 11-19 newydd yn lle'r un bresennol | Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol 11-19 newydd i gymryd lle ysgol bresennol ar ei safle presennol neu ar safle newydd |
Ysgol 11-19 newydd | Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol 11-19 newydd |
Sefydlu ysgol 3-16 | Byddai buddsoddi yn golygu sefydlu ysgol 3-16 i gymryd lle'r ddarpariaeth gynradd/uwchradd bresennol |
Sefydlu ysgol 3-19 | Byddai buddsoddi yn golygu sefydlu ysgol 3-19 i gymryd lle'r ddarpariaeth gynradd/uwchradd bresennol |
Ysgol Arbennig Newydd | Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu ysgol arbennig newydd i gymryd lle ysgol arbennig bresennol ar ei safle presennol neu ar safle newydd |
Darpariaeth ADY newydd | Byddai buddsoddi yn golygu adeiladu darpariaeth ADY newydd |
Uned ADY | Byddai buddsoddi yn golygu sefydlu darpariaeth ADY integredig ar safleoedd ysgolion |
Darpariaeth ymddygiad newydd | Byddai buddsoddiad yn golygu adeiladu darpariaeth ymddygiad newydd |
Uned Ymddygiad | Byddai buddsoddi yn golygu sefydlu darpariaeth ymddygiad integredig ar safleoedd ysgolion |
Egwyddorion Isafswm Buddsoddiad
- Bydd angen i unrhyw ysgol newydd sy'n cynnwys darpariaeth gynradd gyfrannu at gyflawni uchelgeisiau Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin.
- Bydd pob ysgol yn cael ei hadeiladu i ddarparu lle ar gyfer Addysg Blynyddoedd Cynnar 3 oed.
- Bydd pob ysgol yn cael ei hadeiladu ar ôl ystyried yr angen am ddarpariaeth gofal plant cofleidiol o 2 oed (yn seiliedig ar ddadansoddiad o fylchau).
- Bydd pob ysgol yn cael ei hadeiladu ar ôl ystyried yr angen am leoedd i'w defnyddio gan y gymuned.
- Bydd pob ysgol yn cael ei hadeiladu ar ôl ystyried yr angen am ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol.
- Bydd pob ysgol yn cael ei hadeiladu ar ôl ystyried y gofynion hamdden/chwaraeon yn yr ardal.
Hyd yn hyn, bu modd rhoi'r Rhaglen Moderneiddio Addysg ar waith drwy sefydlu strategaeth gyllido arloesol ar gyfer buddsoddiadau cyfalaf sydd wedi manteisio ar amrywiaeth o ffynonellau cyllido a'u hintegreiddio, sef:
- Grantiau Llywodraeth Cymru - Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (a elwid gynt yn Grant Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif), Grant Gwella Adeiladau Ysgolion, Grant Systemau Chwistrellu Tân, Grant Cyfalaf Dechrau'n Deg, ac ati.
- Derbyniadau Cyfalaf - a grëwyd drwy waredu asedau ysgol sy'n ddiangen yn weithredol (os nad ydynt yn cael eu defnyddio gan y gymuned ac ati). Yn dilyn penderfyniad blaenorol gan y Cyngor Sir, caiff yr holl dderbyniadau a grëwyd drwy werthu hen safleoedd ysgolion eu neilltuo i'w hailfuddsoddi yn y rhaglen moderneiddio ysgolion.
- Benthyca Darbodus - cyfraniadau o refeniw a grëir drwy enillion effeithlonrwydd sy'n deillio o resymoli'r rhwydwaith ysgolion a thrwy addasiad yn y gyllideb ddirprwyedig ysgolion.
- Cyfalaf Cyffredinol - cyfraniadau o ddyraniad cyfalaf cyffredinol y Cyngor. Cytundebau Adran 106 (wedi'u clustnodi) cyfraniadau gan ddatblygwyr eiddo preswyl.
- Cyfraniadau Ysgolion - cyfraniadau o gyllidebau refeniw ysgolion.
- Grantiau Ychwanegol - e.e. Anghenion Dysgu Ychwanegol, Ysgolion Bro
Rhaglen Dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy | LLYW.CYMRU
Mae rhaglen fuddsoddi dreigl yn cael ei rhoi ar waith er mwyn bod yn fwy effeithlon a gwella’r ddarpariaeth ar gyfer partneriaid (awdurdodau lleol, colegau ac ati) a Llywodraeth Cymru. Bydd y rhaglen dreigl yn cryfhau un o nodweddion allweddol y Rhaglen, sef datblygu prosiectau yn ôl amserlen a blaenoriaethau’r partneriaid cyflawni, gan wneud i ffwrdd â’r ‘optimistiaeth ormodol’, neu'r angen i bartneriaid cyflawni gyflwyno cynigion rhy uchelgeisiol ar gyfer cyfnod sy’n dynn iawn fel arfer.
Rhaglen Dreigl Gyfalaf 9 Mlynedd
Blynyddoedd | Disgwyliadau |
---|---|
1, 2 a 3 | Disgwyl i brosiectau gyrraedd achos busnes llawn o fewn y 3 blynedd |
4, 5 a 6 | Prosiectau'n cael eu datblygu ac yn mynd drwy ymgynghoriad statudol |
7,8 a 9 | Prosiectau hirdymor sydd mewn golwg |
Mae'n rhaid cyflwyno rhaglen gyfalaf 9 mlynedd i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys bras ragolwg cyllid ar gyfer y 9 mlynedd, er mwyn ystyried rhoi ymrwymiad a chymorth ar gyfer y 3 blynedd gyntaf a chymorth mewn egwyddor ar gyfer blynyddoedd 4, 5 a 6. Bydd blynyddoedd 7 i 9 yn adlewyrchu’r prosiectau hirdymor sydd mewn golwg. Os yw'n briodol, gellir cynnwys prosiectau Band B ar ddechrau'r rhaglen gyfalaf 9 mlynedd.
Rhaid i bartneriaid cyflawni adolygu ac ailgyflwyno eu Rhaglen erbyn Mawrth 2024 fan bellaf.