Strategaeth Moderneiddio Addysg

Trosolwg o'r Rhaglen

Nod y Rhaglen Moderneiddio Addysg yw cyflawni dyheadau'r Awdurdod Lleol o ran moderneiddio ac ad-drefnu ysgolion. Ers ei sefydlu yn 2004, mae'r Rhaglen Moderneiddio Addysg wedi cael cydnabyddiaeth eang am ei gweledigaeth strategol, ei chynlluniau trawsffurfiol a'i hanes clodwiw o ran llwyddo i gyflawni. Diben y ddogfen hon yw amlinellu'r strategaeth, yr amcanion a'r egwyddorion a bennwyd i lywio darpariaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn y dyfodol.

Ym mis Mawrth 2010, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, sef rhaglen fuddsoddi hirdymor sy'n galluogi awdurdodau lleol Cymru i ddarparu amgylcheddau dysgu sy'n addas ar gyfer addysgu a dysgu yn yr 21ain Ganrif. Dechreuodd cam cyntaf y buddsoddiad (Band A) yn 2014 gan fuddsoddi £1.4 biliwn dros y cyfnod o bum mlynedd a ddaeth i ben yn 2018/19.

Dechreuodd paratoadau Sir Gaerfyrddin ar gyfer y Rhaglen genedlaethol ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif yn 2010 yn dilyn gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol gyflwyno Rhaglen Amlinellol Strategol ar gyfer moderneiddio eu holl ystâd ysgolion, a'u gosod o fewn pedwar band o ran buddsoddi (A-D), yn nhrefn blaenoriaeth yn ôl yr angen mwyaf dybryd.

Yn 2010 cwblhawyd adolygiad mawr o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg fel rhan o'r broses o ddatblygu cyflwyniad y Cyngor Sir a Rhaglen Amlinellol Strategol yr Awdurdod a nododd yr opsiwn a ffefrir ar gyfer cyflwyno'r rhaglen ar sail ardal leol.

Drwy'r broses gyflwyno gychwynnol, cymeradwywyd Rhaglen Band A Sir Gaerfyrddin â gwerth o £86.7 miliwn (cyllidwyd 50% drwy grant gan Lywodraeth Cymru a 50% o adnoddau'r Cyngor ei hun). Dechreuodd Band A Sir Gaerfyrddin yn 2014/15 yn dilyn cymeradwyo prosiectau Band A fel rhan o'r diweddariad ynghylch y Rhaglen Moderneiddio Addysg yn 2013.

Diweddarwyd Band A yn 2016 yn dilyn ailasesiad yn unol â meini prawf buddsoddi y Rhaglen Moderneiddio Addysg a gymeradwywyd ac ymarferoldeb cyflawni.

Ym mis Mai 2017 cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei bwriad i symud ymlaen â Band B y Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif. Dechreuodd Band B ym mis Ebrill 2019 a chafodd ei ehangu i gynnwys colegau addysg bellach ac felly cafodd ei ailenwi'n Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif. Roedd disgwyl i'r Rhaglen hon weld buddsoddiad pellach o £2.3 biliwn mewn seilwaith ysgolion a cholegau ac roedd disgwyl iddi barhau tan 2024/2026.

Ym mis Rhagfyr 2017, cymeradwywyd Band B Sir Gaerfyrddin â gwerth o £129.5 miliwn. Cyfradd ymyrryd Band B yw grant o 65% ar gyfer prif ffrwd a grant o 75% ar gyfer Ysgolion Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion. Dechreuodd Band B ym mis Ebrill 2019.

Cefndir

Cymeradwywyd RhMA Sir Gaerfyrddin gan y Cyngor Sir ym mis Tachwedd 2004 fel ein cynllun buddsoddi a rhesymoli strategol i drawsnewid darpariaeth ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin. Y nod yw trawsnewid y rhwydwaith o ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd yn adnodd strategol a gweithredol effeithiol sy'n bodloni'r angen heddiw a'r angen yn y dyfodol am addysg sy'n canolbwyntio ar yr ysgol a'r gymuned.

Cyflawnir hyn (ar y cyd â Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru) drwy ddatblygu a gwella adeiladau, seilwaith a mannau sy'n cael eu gosod, eu dylunio, eu hadeiladu neu'u haddasu'n briodol i feithrin datblygiad cynaliadwy ar gyfer pobl a chymunedau Sir Gaerfyrddin.

Yn unol â chyfrifoldeb yr Awdurdod Lleol i adolygu nifer a math yr ysgolion sydd ganddo, ac a yw'n gwneud y defnydd gorau o adnoddau a chyfleusterau, caiff y RhMA ei hadolygu'n rheolaidd i sicrhau ei bod yn dal yn hyblyg fel y gellir ymgorffori newidiadau pan fo angen yn unol â'r amgylchiadau addysgol presennol. Er bod nifer o flynyddoedd wedi mynd heibio ers adolygu'r RhMA ddiwethaf, mae nifer o ffactorau wedi arwain at benderfynu y byddai'n ddoeth adolygu'r rhaglen a'r strategaeth nawr.

Yn dilyn pandemig Covid-19, mae'r awdurdod wedi gweld nifer o newidiadau demograffig ledled y sir, megis newidiadau yn nifer y disgyblion a dewis rhieni o ran ysgolion ac ati. Mae deall anghenion y gymuned leol yn bwysig er mwyn darparu'r ysgol gywir yn yr ardal gywir. Mae hefyd wedi dod yn angenrheidiol adolygu dyluniad adeiladau ysgolion yn y dyfodol er mwyn sicrhau eu bod yn gydnaws â'r gofynion sefydliadol a bennwyd yn ystod y pandemig ac yn diwallu'r anghenion o ran awyru / mynediad at ansawdd aer da ac ati. Rhaid rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r canlyniadau yn sgil y pandemig byd-eang. Mae staff, disgyblion a chyfleusterau wedi gorfod gweithio'n galetach o lawer er mwyn creu amgylchedd addysgu a dysgu hyfyw a diogel ond un sy'n dal yn feithringar. Fodd bynnag, yn y dyfodol gellid dylunio adeiladau mewn ffordd sy'n ystyried yr holl ffactorau hyn er mwyn osgoi'r newid dramatig hwn mewn rheolaeth weithredol eto yn y dyfodol pe bai angen gwneud hynny.

Yn ogystal, mae wedi dod i'r amlwg bod gan yr awdurdod stoc sy'n heneiddio o ran asedau ysgolion, lle mae cyflwr yr adeiladau hyn hefyd yn dirywio, gan arwain at yr angen am waith cynnal a chadw cyfalaf sylweddol. Rhaid ystyried pa mor addas yw'r stoc o hyd o ran gallu darparu cyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif er mwyn darparu'r gorau i'n dysgwyr. Hefyd, wrth roi'r cwricwlwm newydd ar waith, rhaid i ni sicrhau bod ein hasedau'n gallu gwella elfennau o'r cwricwlwm newydd megis cynaliadwyedd, bioamrywiaeth a dysgu yn yr awyr agored.

Mae wedi dod yn amlwg, oherwydd pwysau ariannol, bod gan nifer o ysgolion Sir Gaerfyrddin ddiffyg sylweddol. Mae hyn yn achosi straen ychwanegol i arweinwyr ysgolion ac yn cael effaith ar recriwtio. Mae costau adeiladu cynyddol yn arwain at gostau prosiect uchel sy'n cyfyngu ar y cyllid sydd ar gael i symud cynlluniau newydd yn eu blaen a'u datblygu. Mae costau adeiladu yn y DU yn parhau i gynyddu mewn ffordd na welwyd ei thebyg o'r blaen sy'n deillio o gyfuniad o oblygiadau Brexit, Covid-19 a chwyddiant. Mae hyn wedi effeithio ar gapasiti llafur contractwyr, yn ogystal ag achosi i'r rhestr o ddeunyddiau sydd ar gael leihau gan gyfrannu at brisiau uwch ar gyfer pecynnau craidd, megis pren, dur a sment. Fodd bynnag, nid cost yw'r unig broblem ac mae amseroedd dosbarthu estynedig ar gyfer deunyddiau hefyd wedi cael effaith yr un mor andwyol ar raglenni prosiectau.

Ym mis Tachwedd 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar Ysgolion Bro gan nodi dyheadau i ysgolion:

  • datblygu partneriaeth gryf gyda theuluoedd,
  • ymateb i anghenion eu cymuned a
  • chydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill

Yn dilyn hyn, cyhoeddwyd canllawiau pellach ym mis Medi 2023 ar ymgysylltu â'r gymuned a sut y gall ysgolion fanteisio i'r eithaf ar eu rôl wrth sicrhau datblygiadau addysg, iechyd a chymunedol, a sut y gallant helpu i greu cymunedau llewyrchus, cydgysylltiedig sydd wedi’u grymuso. Ar hyn o bryd mae'r Awdurdod Lleol yn defnyddio Grant Ysgolion Bro i ddatblygu prosiectau i helpu ysgolion i ddod yn fwy hygyrch i'w cymunedau. Felly, yn y dyfodol mae angen ystyried sut y gellir dylunio ysgolion gyda'r gymuned leol mewn golwg.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi hyrwyddo ehangu addysg a gofal plant blynyddoedd cynnar yng Nghymru drwy ehangu rhaglenni'r Cynnig Gofal Plant a Dechrau'n Deg. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir i rieni cymwys sy'n gweithio sydd â phlant 3 a 4 oed, a hynny hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae'r gofal plant sydd ar gael drwy Dechrau'n Deg ar gyfer plant dwy a thair oed. Mae'n cynnwys gofal plant o ansawdd uchel a ariennir am 12.5 awr yr wythnos, am 39 wythnos y flwyddyn, ac mae'n cael ei weithredu fesul cam. Bellach mae angen ystyried a oes angen cynnwys cyfleusterau i allu darparu'r gwasanaethau hyn o fewn adeiladau ysgolion newydd, os nad oes darpariaeth ar gael yn yr ardal leol.

Yn wahanol i ddatblygiad Bandiau A a B, yn 2024 mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rhaglen fuddsoddi newydd 9 mlynedd o hyd, a fydd yn helpu awdurdodau lleol i flaenoriaethu prosiectau ar sail angen a'r gallu i'w cyflawni, yn ogystal â rheoli disgwyliadau rhanddeiliaid. Bydd y rhaglen hon yn helpu awdurdodau lleol i gynllunio dros gyfnod hwy a phenderfynu ar gynllun prosiect priodol ar gyfer pob cynllun, sy'n golygu y gellir rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i randdeiliaid ar yr adeg berthnasol yn hytrach na’u bod yn aros i glywed pryd y bydd eu prosiect yn debygol o ddechrau. Yn y dyfodol ac mewn cydweithrediad â'r Rhaglen Dysgu Cymunedau Cynaliadwy, gall Cyngor Sir Caerfyrddin ddarparu cyfleusterau ar gyfer yr 21ain ganrif i ysgolion, drwy raglen ad-drefnu a buddsoddi sydd wedi'i chynllunio'n ofalus.

Mae'r holl ffactorau hyn yn golygu y gall yr Awdurdod Lleol bellach gynnal adolygiad cyfannol o'i RhMA, gan sicrhau bod yr holl bwyntiau allweddol yn cael sylw addas ac effeithiol fel rhan o'r strategaeth newydd.

Nod Cyngor Sir Caerfyrddin yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, gyda chyfleusterau a chyfleoedd sy'n addas i'r diben ar gyfer addysgu a dysgu yn yr 21ain Ganrif, yn ogystal â bod yn hygyrch i'r gymuned.


Alinio Strategol (Yr Edau Euraidd)

Fel y nodwyd eisoes, mae datblygiad y RhMA yn seiliedig ar egwyddor dull cyfannol a'r gofyniad i wella a chefnogi ystod o amcanion cenedlaethol, corfforaethol ac addysgol. Mae datblygiad y RhMA yn cyd-fynd â dogfennau a pholisïau cenedlaethol a lleol allweddol fel yr amlinellir isod:

Cenedlaethol

  • Cymraeg 2050
  • Cwricwlwm i Gymru
  • Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
  • Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021
  • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Lleol

  • Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027
  • Gweledigaeth y Cabinet 2022-2027
  • Addysg Sir Gâr 2022-2032
  • Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2022-2032
  • Carbon Sero Net/Argyfwng Hinsawdd
  • Cynllun Ariannol Tymor Canolig

 

Mae gan y Rhaglen Moderneiddio Addysg ran amlwg yn Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027 y Cyngor sy'n pennu’r cyfeiriad i’r awdurdod lleol dros y pum mlynedd nesaf, gan ymgorffori ein nodau gwella a llesiant fel y’u diffinnir gan ddeddfwriaeth:

Amcan Llesiant 1- Galluogi ein plant a'n pobl ifanc i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd (Dechrau'n Dda).

Yn y dyfodol bydd y Gwasanaethau Addysg yn canolbwyntio ar gynorthwyo dysgwyr i ddod:

  • Yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
  • Yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
  • Yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd.

Mae gan y Rhaglen Moderneiddio Addysg rôl sylweddol i'w chwarae yn Natganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022-2027.

Mae Gweledigaeth y Cabinet ar gyfer Addysg yn amlinellu ystod o ymrwymiadau y byddant yn gweithio tuag at eu cyflawni yn ystod y weinyddiaeth hon. Mae'r ymrwymiadau hyn yn cynnwys:

  • Parhau i fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion ar draws y sir ac ailwampio Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Sir Gaerfyrddin i ddiwallu anghenion yr 21ain ganrif. Sicrhau bod pob ysgol newydd yn bodloni'r safonau gofynnol o ran inswleiddio ac awyru er mwyn lleihau biliau ynni a bod yn fwy cydnaws â'r amgylchedd.
  • Ceisio sicrhau bod mwy o leoliadau addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ar gael ledled y sir, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig; gan ganolbwyntio'n benodol ar ddarparu a chryfhau gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ardal.
  • Parhau i sicrhau bod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn cael eu cefnogi'n llawn i gyflawni eu potensial yn unol â Diwygio ADY.
  • Gweithio ochr yn ochr ag ysgolion i gynyddu cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion a gwella mynediad i addysg ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed.
  • Cynyddu'r defnydd o gyfleusterau ysgol sydd i'w defnyddio gan y gymuned y tu allan i oriau addysgu.
  • Gweithio gydag ysgolion i gyflwyno cwricwlwm llawn a chyflawn sy'n anelu at godi safonau addysgol a sicrhau bod disgyblion yn deall ac yn dathlu eu hanes, eu daearyddiaeth a'u diwylliant lleol.
  • Yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru, darparu prydau ysgol am ddim, sy'n faethlon ac o ansawdd uchel, i bob disgybl ysgol gynradd, dros oes y weinyddiaeth.
  • Cefnogi'r gwaith o ddarparu cyfleoedd i drigolion y sir gymryd rhan mewn dysgu hanfodol mewn sgiliau llythrennedd, rhifedd a digidol, yn unol â chyllid cyfredol Llywodraeth Cymru. Galluogi dysgwyr ôl-16 i wella eu sgiliau ar gyfer cyflogaeth a dilyniant, yn ogystal â dysgu gydol oes a budd i'r gymuned a chynnig amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel i ddysgwyr yn yr 21ain ganrif.
  • Sicrhau bod safon y dysgu a'r addysgu yn ein hysgolion o ansawdd uchel i gynorthwyo ein dysgwyr i wneud cynnydd priodol.
  • Yn unol â rhaglen Llywodraeth Cymru, sicrhau bod mwy o addysg ddwyieithog a chyfrwng Cymraeg ar gael yn ein hysgolion, ar ôl ymgynghori'n drylwyr â rhieni, cyrff llywodraethu ysgolion, dysgwyr a'r gymuned leol.
  • Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried effeithiolrwydd dyfeisiau awyru gwrth-covid mewn ysgolion.

I ategu gweledigaeth y Cabinet, mae'r Adran Addysg a Phlant wedi datblygu Gweledigaeth a Phwrpas Moesol Cyfunol:

Byddwn yn cefnogi holl ddysgwyr Sir Gaerfyrddin. Byddwn yn sicrhau eu bod yn hapus, yn ddiogel ac yn ffynnu, a'u bod yn cyflawni eu potensial personol a chymdeithasol a'u potensial o ran dysgu. Byddwn yn ymdrechu i fod y gorau y gallwn fod ac yn uchel ein parch yn lleol, yn ogystal ag ennill cydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.'

Pwrpas Moesol
Sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei werthfawrogi a'i werthfawrogi'n gyfartal.

Yn Sir Gaerfyrddin rydym yn ymdrechu i roi'r profiad addysg gorau posibl i'n dysgwyr. Mae strategaeth Addysg Sir Gâr 2022-2032 yn nodi gweledigaeth glir ar y cyd ar gyfer y rôl y mae gwasanaethau addysg yn ei chwarae o ran datblygu cymunedau bywiog ac economi lewyrchus yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.

 

Ein deilliannau a ddymunir 2022-2032

Rydym yn ymdrechu i ddatblygu'r plentyn/person ifanc cyfan gan roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnynt ar gyfer y cam nesaf yn eu llwybr dysgu neu yrfa ddysgu.

Rydym yn ceisio cyflawni hyn ar adeg pryd mae galw cynyddol am ein hadnoddau a mwy o ffocws ar wella deilliannau a chyrhaeddiad. Yn y pen draw, rydym am sicrhau bod ein dysgwyr wedi'u haddysgu'n dda, yn wybodus ac yn meddu ar gymwysterau da.

Fel adran mae gennym flaenoriaethau clir sy'n canolbwyntio ar bedair thema allweddol, sydd ynghlwm wrth Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Genedlaethol. Byddwn yn cyflawni ein deilliannau a ddymunir drwy wireddu ein 'darnau diben' a delfrydau'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Dysgwyr Sir Gaerfyrddin-

  • Yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
  • Yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • Yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
  • Yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd.

Mae dyheadau Strategaeth Gorfforaethol 2022-2027, Gweledigaeth y Cabinet 2022-2027, Addysg Sir Gâr 2022-2032 ac adborth yn sgil ymgysylltu â phenaethiaid Sir Gaerfyrddin wedi'u crynhoi yn 8 Blaenoriaeth Addysg yr adran ar gyfer 2022-2025:

Cynhwysiant ac Ymgysylltu - Sicrhau system addysg ragweithiol,gynhwysol.

Dysgu ac Addysgu - Sicrhau cynnydd ardderchog i bob dysgwr.

Diogelu'n Dysgwyr - Sicrhau bod plant a phobl ifanc yn hapus, yn ddiogel ac yn ffynnu, gan oresgyn tlodi.

Llesiant - Meithrin iechyd meddwl a chorfforol da iawn i bawb.

Arweinyddiaeth - Sicrhau bod Arweinyddddiaeth ysbrydoledig yn arwain at gynnydd rhagorol i bob dysgwr.

Cymunedau Cynaladwy - Cyflwyno safonau uchel o addysg mewn amgylcheddau cynyddol fodern a chynaliadwy.

Y Gymraeg - Sicrhau datblygiad dwyieithog ac amilieithog llwyddiannus i bawb.

Gweithrediadau Adrannol - Darparu gwasanaethau cefnogi o ansawdd uchel sy'n cael effaith ar effeithlonrwydd y system addysg.


Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg

Mae adroddiad diweddaraf Estyn a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023 yn nodi'r canlynol mewn perthynas ag amcanion a strategaeth addysgol yr awdurdod:

  • Mae gan yr awdurdod strategaeth glir ar gyfer moderneiddio ac ad-drefnu’i ysgolion sy’n seiliedig ar egwyddorion ac amcanion cadarn. Mae’r strategaeth yn adlewyrchu dyhead yr awdurdod i greu ystod o ysgolion o ansawdd uchel, sy’n diwallu anghenion eu dysgwyr presennol ac yn y dyfodol. Mae cyswllt priodol rhwng amcanion y strategaeth moderneiddio ysgolion, amcanion llesiant y cyngor a chynllun deng mlynedd y gwasanaeth addysg. Mae hyn yn cynnwys y weledigaeth i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd yn ogystal â gwneud eu cymunedau yn rhai sy’n ddiogel ac yn ffyniannus. Mae gan yr awdurdod gynlluniau penodol ar gyfer darparu cyfleusterau cymunedol i leihau effaith tlodi ar gyflawniad disgyblion a phobl ifanc.
  • Mae ymrwymiad uwch arweinwyr yr awdurdod, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Addysg a Gwasanaethau Plant i wireddu’r strategaeth, yn nodwedd gadarnhaol. Maent yn cydweithio’n effeithiol gyda’r tîm moderneiddio ysgolion a rhanddeiliaid eraill i adolygu’r strategaeth er mwyn sicrhau ei bod yn cydblethu ac yn ymateb i ofynion cyfredol yr awdurdod. Er enghraifft, bu iddynt addasu’r strategaeth i gefnogi Cwricwlwm i Gymru, y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA) 2022-32 ynghyd ag ymateb i heriau fel recriwtio arweinwyr ysgol mewn ardaloedd gwledig y sir.
  • Fodd bynnag, mae oedi o ran gwneud penderfyniadau, gan gynnwys yn dilyn ymgynghoriadau ffurfiol, wedi golygu nad yw’r awdurdod wedi mynd i’r afael yn llawn â’u cynlluniau i ad-drefnu a moderneiddio addysg.

 

Yr Amcanion Strategol

Mae'r strategaeth hon wedi'i datblygu i lywio'r gwaith o roi'r Rhaglen Moderneiddio Addysg newydd ar waith yn y dyfodol. Mae'r Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cael ei harwain gan gyfres o amcanion strategol:

  • Datblygu rhwydwaith o ysgolion sy'n effeithiol yn addysgol ac sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon ac yn gynaliadwy yn y tymor hir.
  • Datblygu patrwm darpariaeth er mwyn i bob lleoliad dysgu hwyluso addysg o ansawdd uchel ar gyfer ei holl ddysgwyr cofrestredig, a hynny naill ai fel sefydliad unigol neu fel rhan o ffederasiwn neu drefniant cydweithredol gyda lleoliadau neu ddarparwyr eraill.
  • Creu amgylchedd ysgol sy'n caniatáu i bob plentyn ym mhob ysgol gyrchu cwricwlwm a chael profiadau addysgu sy'n eu cymell i gyflawni eu llawn botensial, yn ogystal â hwyluso rhaglen o weithgareddau allgyrsiol sy'n hyrwyddo eu lles corfforol ac emosiynol.
  • Datblygu seilwaith ym mhob ysgol sy'n eu galluogi i ddarparu addysg yn yr 21ain ganrif, gan hwyluso'r gwaith o wireddu'r amcanion craidd ar gyfer codi safonau addysgol a chynnal perfformiad o safon uchel.
  • Gweithio'n strategol o ran darparu buddsoddiadau cyfalaf, ac integreiddio hynny â rhaglen i resymoli'r ddarpariaeth ledled y rhwydwaith ysgolion er mwyn cyflenwi'r galw yn effeithiol.
  • Datblygu rhwydwaith ysgolion cynaliadwy ac integredig sy'n cyd-fynd â pholisïau trafnidiaeth lleol a chenedlaethol, gan sicrhau mynediad effeithlon i fyfyrwyr wrth gydbwyso gofynion statudol ag ystyriaethau fforddiadwyedd. Mae hyn yn cynnwys gwneud y defnydd gorau posibl o leoliadau ysgolion, cysylltiadau trafnidiaeth, a llwybrau teithio llesol i gefnogi hygyrchedd, cynaliadwyedd amgylcheddol, a bod yn gost effeithiol.
  • Anelu at ailadeiladu, ailfodelu, adnewyddu neu foderneiddio'r holl ysgolion sydd i'w cadw yn y tymor hir, er mwyn iddynt gydymffurfio, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, â'r safonau dylunio a fabwysiadwyd.
  • Cyfrannu at gyflawni amcanion polisi ehangach, er enghraifft, adnewyddu ac adfywio cymunedol, ffyrdd iach o fyw ac ati, trwy ddatblygu seilwaith galluogi priodol.
  • Gwella effeithlonrwydd a dichonoldeb addysgol y sector ysgolion trwy leihau nifer y lleoedd gwag i lefel resymol, a hwyluso, lle bo hynny'n ymarferol, y dewisiadau a fynegir gan rieni ac ymateb yn effeithiol i newidiadau demograffig.
  • Datblygu seilwaith ysgolion sy'n gwbl hygyrch i bawb ac sy'n galluogi pob dysgwr i gyrchu addysg o ansawdd uchel, beth bynnag yw'r anghenion unigol.
  • Datblygu atebion unigol a chydweithredol ar gyfer ysgolion sy'n cyfrannu at y system addysg gyfun ledled y sir.

 

Egwyddorion Addysg Gynradd Sir Gaerfyrddin

Mae Egwyddorion Addysg Gynradd Sir Gaerfyrddin yn gweithredu fel nodau uchelgeisiol. Er eu bod yn arwain ein dull gweithredu ac yn ysbrydoli ein harferion addysgol, eu bwriad yw cynnig cyfeiriad yn hytrach na mandad. Dylai'r egwyddorion gael eu hymgorffori'n ddi-dor a'u dilyn yn barhaus, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i gyflawni rhagoriaeth mewn addysg.

  • Anelu at gael arweinyddiaeth gynaliadwy, gydag arweinwyr sy'n rhydd i arwain a rheoli, heb unrhyw ymrwymiad addysgu parhaol.
  • Anelu at gael dim mwy na 2 grŵp blwyddyn ym mhob dosbarth addysgu.
  • Ymdrechu i gynnal niferoedd digonol o ddisgyblion i gynnal y trefniadau strwythurol uchod.
  • Bydd ysgolion yn ddichonol yn ariannol o dan fframwaith ariannu Rheoli Ysgolion yn Lleol a gweithredu yn y tymor hir heb ddiffyg cyllidebol.
  • Cael mynediad at gyfleusterau addysgu awyr agored addas i wella dysgu a chefnogi lles corfforol ar draws yr ysgol.
  • Byddant yn gwbl gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.
  • Bydd ganddynt gyfleusterau modern sy'n cefnogi dysgu digidol.
  • Creu amgylchedd dysgu o safon uchel i gefnogi llesiant yr holl ddysgwyr a gwella eu cynnydd a chyflawniadau ar draws ystod eang o sgiliau a meysydd cwricwlwm.

Rhaid nodi:

  • Fel rhan o unrhyw adolygiad, byddwn yn ystyried sut y gallwn wireddu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a gwella addysg cyfrwng Cymraeg.
  • Os penderfynir cau ysgol cyfrwng Cymraeg, byddwn yn hwyluso ac yn cefnogi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg arall.

Mae nodau strategol ac amcanion/buddion y Rhaglen Moderneiddio Addysg wedi'u cynllunio i hyrwyddo ac ategu amrywiaeth o ddisgwyliadau, ochr yn ochr â'r Egwyddorion Addysgol, ac maent yn seiliedig ar saith thema allweddol:

 

Thema Amcan/Buddion
Hyfywedd Datblygu rhwydwaith o ysgolion sy'n gynaliadwy yn addysgol ac sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon yn y tymor hir yn unol ag egwyddorion addysgol Sir Gaerfyrddin.
Strategol Darparu dull strategol o ran buddsoddiadau cyfalaf, ac integreiddio hynny â rhaglen i resymoli'r ddarpariaeth ledled y rhwydwaith ysgolion er mwyn cyflenwi'r galw yn effeithiol drwy ad-drefnu neu ffedereiddio ysgolio.
Modern

Darparu seilwaith a chyfleusterau ar gyfer yr 21ain ganrif ym mhob ysgol mewn amgylcheddau dysgu gwell sydd â:

  • Cyfleusterau wedi'u huwchraddio
  • Gwell diogelwch
  • Seilwaith hygyrch
  • Datblygiadau technolegol

Bydd y rhain yn cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion craidd ar gyfer codi safonau addysgol a sicrhau eu bod yn parhau ar lefelau uchel yn unol â dyheadau'r Awdurdod Lleol.

Equity

Cyfrannu at gyflawni amcanion polisi a sector craidd megis:

  • Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
  • Tlodi
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Y Cwricwlwm Newydd
  • Cyfnod Sylfaen
  • Cyfnodau Allweddol 2, 3 a 4.
  • Ôl-16 (CA5)
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) (gan gynnwys Diwygio ADY)
  • Anghenion Ymddygiad
  • Galwedigaethol
Cymuned Creu amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y gymuned a sicrhau ffyniant i bawb drwy gyfleusterau y gall yr ysgol a'r cymunedau cyfagos eu rhannu, gan gyfrannu at ddatblygiad personol, iechyd, economaidd a chymunedol.
Cydlyniant

Cyfrannu at gyflawni amcanion polisi ehangach megis:

  • Teithio Llesol
  • Darpariaeth Chwaraeon a Chwarae yn yr Awyr Agored
  • Gofal Plant a Gofal Cofleidiol
  • Byw'n Iach
Cynaliadwyedd Ailadeiladu, ailfodelu, adnewyddu neu foderneiddio pob lleoliad ysgol sydd i'w gadw yn y tymor hir, er mwyn iddynt gydymffurfio â safonau dylunio'r 21ain ganrif i sicrhau bod pob adeilad yn cael yr effaith amgylcheddol leiaf er mwyn cyflawni amcan yr Awdurdod Lleol o fod yn garbon sero net erbyn 2030.

Adolygiad o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg

Yn 2010 penderfynodd y Cyngor fod y RhMA yn cael ei hadolygu bob dwy flynedd neu fel y bo'n ofynnol, fel arall, er mwyn sicrhau'i bod yn cyd-fynd â therfynau amser rhaglen genedlaethol Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif (a ailenwyd yn Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy).

Ers ei sefydlu mae cynnal adolygiad rheolaidd yn nodwedd ganolog o'r RhMA er mwyn gallu cadw hyblygrwydd wrth wraidd y rhaglen i sicrhau ei bod yn gyfredol ac yn ymatebol i newidiadau yn y fframwaith polisi addysg a'i bod yn gallu diwallu anghenion cymdeithas sy'n datblygu'n gyson. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach yn yr hinsawdd bresennol/y cyfnod ar ôl y pandemig.

Mae meini prawf sydd wedi hen ymsefydlu, a ddatblygwyd ac a fabwysiadwyd yn lleol drwy ymgynghori ag arweinwyr ysgolion cynrychioliadol, wedi'u cytuno a'u mabwysiadu fel dangosyddion priodol hyfywedd ac angen am fuddsoddi. Mabwysiadwyd y rhain yn ffurfiol yn 2008 ac maent wedi llywio strwythur y Rhaglen Moderneiddio Addysg ers hynny. Mae'r meini prawf wedi cael eu hadolygu yn unol â newidiadau i strategaethau a pholisïau, yn ogystal â newidiadau i ffactorau allanol megis: pwysau/cyllidebau ariannol, ôl troed ysgolion, maint dosbarthiadau, recriwtio, cyflwr adeiladau yn dirywio a newidiadau demograffig i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â dyheadau presennol ac yn y dyfodol.


Atodiad 1 - Siart llif eglurhaol ar gyfer cynigion statudol 

 

Siart llif eglurhaol ar gyfer cynigion statudol 

 


Atodiad 2 - Rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig

Yng Nghymru, mae'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu bod yn rhaid i Awdurdodau Lleol ystyried opsiynau eraill cyn llunio cynnig i gau ysgol wledig.

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i fod yn gwbl gefnogol i wneud popeth yn ei allu i adeiladu cydnerthedd a chynaliadwyedd ei ysgolion gwledig yn y dyfodol, ac yn gweithio yn unol â chyfres Llywodraeth Cymru o weithdrefnau a gofynion yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion, sy’n gweithio ar sail tybiaeth yn erbyn cau.

Fel rhan o'i weledigaeth i hyrwyddo'r Gymraeg a chynnal cymunedau gwledig mae gan y Cabinet agwedd gadarnhaol tuag at gynnal ysgolion gwledig os ydynt yn gynaliadwy o ran arweinyddiaeth sefydlog, yn darparu safonau addysg uchel o fewn amgylchedd diogel ac addas ac yn gweithredu o fewn eu cyllidebau dirprwyedig. Fodd bynnag, bydd y Cabinet yn ystyried dyfodol unrhyw ysgol os nad yw'n gynaliadwy.

Mae Cod Trefniadaeth Ysgolion 2018 "yn nodi trefniadau arbennig ar gyfer ysgolion gwledig gan sefydlu rhagdybiaeth drefniadol yn erbyn eu cau. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynigwyr ddilyn cyfres fanylach o weithdrefnau a gofynion wrth lunio cynnig i gau ysgol wledig, ac wrth ymgynghori ar benderfyniad ynghylch a ddylid gweithredu cynnig i gau ysgol wledig. Nid yw hyn yn golygu na fydd ysgol wledig byth yn cau ond mae'n rhaid i'r achos dros ei chau fod yn gryf a bod pob opsiwn ymarferol arall wedi'i ystyried yn gydwybodol gan y cynigydd, gan gynnwys ffedereiddio”

Mae'r Cod yn nodi fod "yn rhaid i'r cynigydd nodi unrhyw opsiynau rhesymol eraill a allai ddatrys y broblem a nodwyd fel y rheswm dros y cynnig. Mae'n bwysig sicrhau bod pob opsiwn rhesymol arall a nodwyd yn cael ei ystyried cyn i'r cynigydd benderfynu mynd ati i ymgynghori ar gau ysgol."

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i ymrwymo i gynnwys Cam 0 yn y siartiau llif (gweler atodiad 1 a 3), fel bod Cam 0 yn cael ei ystyried ar gyfer pob ysgol sy'n ddarostyngedig i strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg. Mae hyn yn golygu y bydd pob ysgol yn destun i gyfres fanwl o ystyriaethau cyn llunio cynnig.

Gall gwella cynaliadwyedd ysgol wledig gynnwys strategaethau amrywiol sy'n canolbwyntio ar sefydlogrwydd ariannol, ymgysylltu â'r gymuned, arferion amgylcheddol ac arloesedd addysgol. Rhestrir isod nifer o opsiynau y gallai'r Awdurdod Lleol neu'r ysgol eu datblygu er mwyn mynd i'r afael ag unrhyw faterion, cyn ystyried cau ysgol.

Modelau Cydweithio - Ffedereiddio/Uno Ysgolion Eraill (Ffurfiol neu anffurfiol)

  • Cydweithio gwirfoddol rhwng ysgolion at ddibenion penodol neu am gyfnod penodol o amser. Mae pob ysgol yn cadw ei Chorff Llywodraethu.
    • Rhannu Adnoddau: Gall ysgolion rannu adnoddau, cyfleusterau ac offer, gan arwain at arbedion cost.
    • Gwell Cwricwlwm: Mae cynigion pwnc ehangach a gweithgareddau
      allgyrsiol yn bosibl.
    • Effeithlonrwydd Cost: Yn lleihau costau gweinyddol a gweithredol drwy uno ysgolion.
    • Gwell Datblygiad Proffesiynol: Mae athrawon yn elwa ar gyfleoedd datblygu proffesiynol a rennir ac arferion gorau.
    • Sefydlogrwydd Cymunedol: Yn cadw'r ysgol yn weithredol, gan gynnal ei rôl yn y gymuned.
  • Ymchwilio i wahanol fodelau o Ffederasiwn Ffurfiol e.e.
    • Ffederasiwn ffurfiol rhwng nifer penodol o ysgolion sy'n creu un corff llywodraethu i resymoli'r defnydd o adnoddau dynol ac addysgol.
    • Ffederasiwn Ffurfiol sy'n cynnwys un ysgol ganolog a nifer penodol ysgolion llai gydag un corff llywodraethu.
    • Ffederasiwn Ffurfiol rhwng ysgol uwchradd a nifer benodol o'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo, o dan un corff llywodraethu.
    • Ysgol aml-safle - efallai y bydd amgylchiadau lle mae'n fwy priodol cau nifer o ysgolion cyfagos a'u hail-agor fel un ysgol ar nifer o safleoedd.

Gweithredu Modelau Arweinyddiaeth a Rennir

Arweinyddiaeth: Darparu arweinyddiaeth ar draws nifer o ysgolion.
Rheoli: Symleiddio swyddogaethau gweinyddol, lleihau costau.
Diwylliant cydweithredol: Mae'n meithrin diwylliant cydweithredol ymhlith ysgolion, gan fod o fudd i ddisgyblion a staff.

Gwell defnydd o dechnoleg

Dysgu o bell: Yn hwyluso dysgu o bell a dysgu cyfunol, gan ehangu cyfleoedd addysgol.
Adnoddau Effeithlon: Lleihau'r angen am adnoddau ffisegol a lle.
Mynediad i Athrawon Arbenigol: Darparu mynediad i athrawon arbenigol nad ydynt efallai ar gael yn lleol.

Mwy o ddefnydd o'r Adeilad Ysgol

Addysg y Blynyddoedd Cynnar/Gofal Plant: Gwahodd Cylch Meithrin / darparwr preifat i ddarparu gofal cofleidiol (yn amodol ar le)
Mwy o refeniw: Gall rhentu gofod gynhyrchu incwm ychwanegol i'r ysgol.
Ymgysylltu Cymunedol: Mae'n cryfhau rôl yr ysgol fel canolfan gymunedol a defnyddio'r ysgol fel lleoliad ar gyfer gwasanaethau cymunedol fel llyfrgell, gofal dydd, clinig iechyd, neu Ganolfan Addysg Gymunedol.
Effeithlonrwydd Ynni: Rhoi mesurau arbed ynni ar waith fel goleuadau LED, paneli solar, a gwell inswleiddio.

Cynyddu Cynnwys y Gymuned

Cymdeithas Rhieni ac Athrawon (CRhA): Cryfhau'r CRhA i gynnwys rhieni wrth wneud penderfyniadau ac ymdrechion codi arian.
Cymorth Gwirfoddolwyr: Mae'n ymgysylltu gwirfoddolwyr cymunedol i gefnogi gweithgareddau a rhaglenni ysgol.

Archwilio cyfleoedd grant a chyfleoedd ariannu

Cymorth Ariannol: Sicrhau cyllid ychwanegol i gefnogi gweithrediadau a rhaglenni ysgolion.
Arloesedd: Annog rhaglenni a mentrau arloesol a ariennir gan grantiau.
Cynaliadwyedd: Yn helpu i gynnal sefydlogrwydd ariannol a chynaliadwyedd.

Drwy ystyried y strategaethau hyn, gallai ysgol wledig yn Sir Gaerfyrddin wella ei chynaliadwyedd, gan sicrhau ei bod yn parhau i ddarparu cyfleoedd addysgol gwerthfawr i'w disgyblion.

Er bod yr Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i ystyried hyfywedd yr opsiynau uchod cyn ystyried cynnig i gau ysgol, nid yw hyn yn golygu na fydd yn bwrw ymlaen â chynigion i gau ysgol unigol os bernir mai dyna'r opsiwn mwyaf priodol yn seiliedig ar yr heriau sy'n wynebu lleoliadau unigol.


Atodiad 3 - Siart llif eglurhaol ar gyfer adolygu ysgol wledig

 

Siart llif eglurhaol ar gyfer adolygu ysgol wledig

 


Atodiad 4 - Llywodraethu'r Rhaglen Moderneiddio Addysg

Mae'r fframwaith llywodraethu (a ddangosir isod) ar gyfer y Rhaglen Moderneiddio Addysg (fel rhan o Fwrdd y Rhaglen Moderneiddio Addysg a Chymunedau) bellach wedi hen sefydlu gan ddiffinio'r rolau a'r cyfrifoldebau'n glir.

Fframwaith llywodraethu y Rhaglen Moderneiddio Addysg a Chymunedau