Strategaeth Moderneiddio Addysg
Yn yr adran hon
- Trosolwg o'r Rhaglen
- Alinio Strategol (Yr Edau Euraidd)
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Adolygiad o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg
Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
Mae adroddiad diweddaraf Estyn a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023 yn nodi'r canlynol mewn perthynas ag amcanion a strategaeth addysgol yr awdurdod:
- Mae gan yr awdurdod strategaeth glir ar gyfer moderneiddio ac ad-drefnu’i ysgolion sy’n seiliedig ar egwyddorion ac amcanion cadarn. Mae’r strategaeth yn adlewyrchu dyhead yr awdurdod i greu ystod o ysgolion o ansawdd uchel, sy’n diwallu anghenion eu dysgwyr presennol ac yn y dyfodol. Mae cyswllt priodol rhwng amcanion y strategaeth moderneiddio ysgolion, amcanion llesiant y cyngor a chynllun deng mlynedd y gwasanaeth addysg. Mae hyn yn cynnwys y weledigaeth i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd yn ogystal â gwneud eu cymunedau yn rhai sy’n ddiogel ac yn ffyniannus. Mae gan yr awdurdod gynlluniau penodol ar gyfer darparu cyfleusterau cymunedol i leihau effaith tlodi ar gyflawniad disgyblion a phobl ifanc.
- Mae ymrwymiad uwch arweinwyr yr awdurdod, Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Addysg a Gwasanaethau Plant i wireddu’r strategaeth, yn nodwedd gadarnhaol. Maent yn cydweithio’n effeithiol gyda’r tîm moderneiddio ysgolion a rhanddeiliaid eraill i adolygu’r strategaeth er mwyn sicrhau ei bod yn cydblethu ac yn ymateb i ofynion cyfredol yr awdurdod. Er enghraifft, bu iddynt addasu’r strategaeth i gefnogi Cwricwlwm i Gymru, y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSGA) 2022-32 ynghyd ag ymateb i heriau fel recriwtio arweinwyr ysgol mewn ardaloedd gwledig y sir.
- Fodd bynnag, mae oedi o ran gwneud penderfyniadau, gan gynnwys yn dilyn ymgynghoriadau ffurfiol, wedi golygu nad yw’r awdurdod wedi mynd i’r afael yn llawn â’u cynlluniau i ad-drefnu a moderneiddio addysg.
Yr Amcanion Strategol
Mae'r strategaeth hon wedi'i datblygu i lywio'r gwaith o roi'r Rhaglen Moderneiddio Addysg newydd ar waith yn y dyfodol. Mae'r Rhaglen Moderneiddio Addysg yn cael ei harwain gan gyfres o amcanion strategol:
- Datblygu rhwydwaith o ysgolion sy'n effeithiol yn addysgol ac sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon ac yn gynaliadwy yn y tymor hir.
- Datblygu patrwm darpariaeth er mwyn i bob lleoliad dysgu hwyluso addysg o ansawdd uchel ar gyfer ei holl ddysgwyr cofrestredig, a hynny naill ai fel sefydliad unigol neu fel rhan o ffederasiwn neu drefniant cydweithredol gyda lleoliadau neu ddarparwyr eraill.
- Creu amgylchedd ysgol sy'n caniatáu i bob plentyn ym mhob ysgol gyrchu cwricwlwm a chael profiadau addysgu sy'n eu cymell i gyflawni eu llawn botensial, yn ogystal â hwyluso rhaglen o weithgareddau allgyrsiol sy'n hyrwyddo eu lles corfforol ac emosiynol.
- Datblygu seilwaith ym mhob ysgol sy'n eu galluogi i ddarparu addysg yn yr 21ain ganrif, gan hwyluso'r gwaith o wireddu'r amcanion craidd ar gyfer codi safonau addysgol a chynnal perfformiad o safon uchel.
- Gweithio'n strategol o ran darparu buddsoddiadau cyfalaf, ac integreiddio hynny â rhaglen i resymoli'r ddarpariaeth ledled y rhwydwaith ysgolion er mwyn cyflenwi'r galw yn effeithiol.
- Datblygu rhwydwaith ysgolion cynaliadwy ac integredig sy'n cyd-fynd â pholisïau trafnidiaeth lleol a chenedlaethol, gan sicrhau mynediad effeithlon i fyfyrwyr wrth gydbwyso gofynion statudol ag ystyriaethau fforddiadwyedd. Mae hyn yn cynnwys gwneud y defnydd gorau posibl o leoliadau ysgolion, cysylltiadau trafnidiaeth, a llwybrau teithio llesol i gefnogi hygyrchedd, cynaliadwyedd amgylcheddol, a bod yn gost effeithiol.
- Anelu at ailadeiladu, ailfodelu, adnewyddu neu foderneiddio'r holl ysgolion sydd i'w cadw yn y tymor hir, er mwyn iddynt gydymffurfio, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, â'r safonau dylunio a fabwysiadwyd.
- Cyfrannu at gyflawni amcanion polisi ehangach, er enghraifft, adnewyddu ac adfywio cymunedol, ffyrdd iach o fyw ac ati, trwy ddatblygu seilwaith galluogi priodol.
- Gwella effeithlonrwydd a dichonoldeb addysgol y sector ysgolion trwy leihau nifer y lleoedd gwag i lefel resymol, a hwyluso, lle bo hynny'n ymarferol, y dewisiadau a fynegir gan rieni ac ymateb yn effeithiol i newidiadau demograffig.
- Datblygu seilwaith ysgolion sy'n gwbl hygyrch i bawb ac sy'n galluogi pob dysgwr i gyrchu addysg o ansawdd uchel, beth bynnag yw'r anghenion unigol.
- Datblygu atebion unigol a chydweithredol ar gyfer ysgolion sy'n cyfrannu at y system addysg gyfun ledled y sir.
Egwyddorion Addysg Gynradd Sir Gaerfyrddin
Mae Egwyddorion Addysg Gynradd Sir Gaerfyrddin yn gweithredu fel nodau uchelgeisiol. Er eu bod yn arwain ein dull gweithredu ac yn ysbrydoli ein harferion addysgol, eu bwriad yw cynnig cyfeiriad yn hytrach na mandad. Dylai'r egwyddorion gael eu hymgorffori'n ddi-dor a'u dilyn yn barhaus, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i gyflawni rhagoriaeth mewn addysg.
- Anelu at gael arweinyddiaeth gynaliadwy, gydag arweinwyr sy'n rhydd i arwain a rheoli, heb unrhyw ymrwymiad addysgu parhaol.
- Anelu at gael dim mwy na 2 grŵp blwyddyn ym mhob dosbarth addysgu.
- Ymdrechu i gynnal niferoedd digonol o ddisgyblion i gynnal y trefniadau strwythurol uchod.
- Bydd ysgolion yn ddichonol yn ariannol o dan fframwaith ariannu Rheoli Ysgolion yn Lleol a gweithredu yn y tymor hir heb ddiffyg cyllidebol.
- Cael mynediad at gyfleusterau addysgu awyr agored addas i wella dysgu a chefnogi lles corfforol ar draws yr ysgol.
- Byddant yn gwbl gynhwysol ac yn hygyrch i bawb.
- Bydd ganddynt gyfleusterau modern sy'n cefnogi dysgu digidol.
- Creu amgylchedd dysgu o safon uchel i gefnogi llesiant yr holl ddysgwyr a gwella eu cynnydd a chyflawniadau ar draws ystod eang o sgiliau a meysydd cwricwlwm.
Rhaid nodi:
- Fel rhan o unrhyw adolygiad, byddwn yn ystyried sut y gallwn wireddu Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin a gwella addysg cyfrwng Cymraeg.
- Os penderfynir cau ysgol cyfrwng Cymraeg, byddwn yn hwyluso ac yn cefnogi mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg arall.
Mae nodau strategol ac amcanion/buddion y Rhaglen Moderneiddio Addysg wedi'u cynllunio i hyrwyddo ac ategu amrywiaeth o ddisgwyliadau, ochr yn ochr â'r Egwyddorion Addysgol, ac maent yn seiliedig ar saith thema allweddol:
Thema | Amcan/Buddion |
---|---|
Hyfywedd | Datblygu rhwydwaith o ysgolion sy'n gynaliadwy yn addysgol ac sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon yn y tymor hir yn unol ag egwyddorion addysgol Sir Gaerfyrddin. |
Strategol | Darparu dull strategol o ran buddsoddiadau cyfalaf, ac integreiddio hynny â rhaglen i resymoli'r ddarpariaeth ledled y rhwydwaith ysgolion er mwyn cyflenwi'r galw yn effeithiol drwy ad-drefnu neu ffedereiddio ysgolio. |
Modern |
Darparu seilwaith a chyfleusterau ar gyfer yr 21ain ganrif ym mhob ysgol mewn amgylcheddau dysgu gwell sydd â:
Bydd y rhain yn cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion craidd ar gyfer codi safonau addysgol a sicrhau eu bod yn parhau ar lefelau uchel yn unol â dyheadau'r Awdurdod Lleol. |
Equity |
Cyfrannu at gyflawni amcanion polisi a sector craidd megis:
|
Cymuned | Creu amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y gymuned a sicrhau ffyniant i bawb drwy gyfleusterau y gall yr ysgol a'r cymunedau cyfagos eu rhannu, gan gyfrannu at ddatblygiad personol, iechyd, economaidd a chymunedol. |
Cydlyniant |
Cyfrannu at gyflawni amcanion polisi ehangach megis:
|
Cynaliadwyedd | Ailadeiladu, ailfodelu, adnewyddu neu foderneiddio pob lleoliad ysgol sydd i'w gadw yn y tymor hir, er mwyn iddynt gydymffurfio â safonau dylunio'r 21ain ganrif i sicrhau bod pob adeilad yn cael yr effaith amgylcheddol leiaf er mwyn cyflawni amcan yr Awdurdod Lleol o fod yn garbon sero net erbyn 2030. |