Partneriaeth Gymdeithasol – Adroddiad Blynyddol (2024/25)
Yn yr adran hon
- 1. Cefndir
- 2. Amcanion Llesiant y Cyngor
- 3. Fframweithiau Ymgynghori a Negodi Undebau Llafur Presennol o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin (CSC)
3. Fframweithiau Ymgynghori a Negodi Undebau Llafur Presennol o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin (CSC)
Mae gan CSC fframweithiau gwybodaeth, ymgynghori a negodi sydd wedi hen ennill eu plwyf ar waith gyda'i Undebau Llafur cydnabyddedig. Yr Undebau Llafur a gydnabyddir at ddibenion bargeinio ar y cyd yw:
- UNSAIN
- GMB
- Unite
- Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon (NAHT)
- Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT)
- Yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU)
- Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)
- Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL)
Mae'r fframweithiau presennol o ran cysylltiadau â gweithwyr yn darparu ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd o fewn yr Adrannau Cymunedau, Addysg a Phlant ac Adrannau Lle, Seilwaith a Datblygu Economaidd. Mae'r Cyfarwyddwyr a'r Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol yn mynd i'r cyfarfodydd hyn.
Mae Fforwm Cysylltiadau Gweithwyr Corfforaethol, dan gadeiryddiaeth y Prif Weithredwr Cynorthwyol ac sy'n cael ei fynychu gan yr Aelod Cabinet dros Drefniadaeth a Gweithlu a Threfnwyr Rhanbarthol Undebau Llafur (nid ysgolion), yn caniatáu i ymgynghori a negodi ddigwydd ar faterion corfforaethol sy'n ymwneud â gweithwyr y Cyd-gyngor Cenedlaethol.
Mae'r Fforwm Ymgynghorol ar y Cyd yn rhoi cyfle i gyfathrebu ac ymgynghori rhwng Arweinwyr Grŵp gwleidyddol Cyngor Sir Caerfyrddin (CSC) a chynrychiolwyr o'r Undebau Llafur cydnabyddedig at ddibenion negodi (ar gyfer gweithwyr y Cyd-gyngor Cenedlaethol).
Yn ei gyhoeddiad esboniadol i gyrff cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan:
“Mae partneriaeth gymdeithasol yn ffordd o weithio sydd wedi'i gynllunio i fynd ar drywydd buddiannau cydfuddiannol yng nghyd-destun datblygu a gweithredu polisi, neu newid gweithredol, ond nid yw'n cael ei ddefnyddio'n bennaf fel fforymau ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, bargeinio ar y cyd neu ymgynghori. Mae'n gweithio ar yr egwyddor sylfaenol y gall cyflogwyr a gweithwyr gyflawni mwy, yn bennaf drwy eu hundebau llafur, gan weithio gyda'i gilydd mewn ysbryd cydweithredu”
Er gwaethaf y fframweithiau ymgynghori a negodi sefydledig sy'n caniatáu rhyngwyneb rheolaidd â'r Undebau Llafur, mae dyfodiad partneriaeth gymdeithasol yn rhoi cyfle nid yn unig i adolygu effeithiolrwydd y trefniadau hyn ond i ymdrechu i ddatblygu perthynas waith fwy cadarnhaol drwy bwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol, cydweithredu a gwelliant parhaus.
