Partneriaeth Gymdeithasol – Adroddiad Blynyddol (2024/25)

4. Gweithio mewn Partneriaeth Gymdeithasol 2024/25

Drwy gydol y flwyddyn mae'r Cyngor wedi cynnal ei ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â'r Undebau Llafur drwy gadw ei fframweithiau sefydledig ar gyfer cyfathrebu ac ymgynghori rheolaidd, ond mae hefyd wedi ymdrechu i ymgysylltu ag ystod o faterion strategol sy'n effeithio ar y gweithlu.

Mae'r rhain wedi cynnwys trafodaethau ar ragolygon rheoli ariannol y Cyngor gyda chyflwyniad a wnaed i'r Undebau Llafur, ym mis Ionawr 2025, gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Pennaeth Cyllid., mewn perthynas â phennu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2025/26.

Mae'r Rheolwr Trawsnewid wedi rhoi cipolwg i'r Undebau Llafur (nid ysgolion) ar y gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i adrannau corfforaethol i weithredu rhaglenni newid a all arwain at enillion effeithlonrwydd. Y gobaith yw y gall cydweithio ar sail barhaus gyda'r Undebau Llafur arwain at nodi effeithlonrwydd pellach, gan fod cydnabyddiaeth bod yr Undebau Llafur yn gallu cyflwyno profiadau "ymarferol" o arferion gwaith gan y rhai sy'n gweithredu o fewn lleoliadau gweithredol.

Mae'r Prif Swyddog Digidol wedi ymdrechu i werthuso dull Undebau Llafur y Cyngor, drwy ei Strategaeth Deallusrwydd Artiffisial, i fanteisio i'r eithaf ar botensial deallusrwydd artiffisial a lleddfu pryderon am unrhyw effaith negyddol ar weithwyr.

Yn hyn o beth, mae cynnydd cynhyrchiant dangosadwy eisoes wedi'u cyflawni er budd ymarferwyr Gofal Cymdeithasol wrth allu cynhyrchu nodiadau achos mewn amserlen sylweddol fyrrach. Mae tasgau ailadroddus a thasgau sy'n cymryd llawer o amser sy'n gysylltiedig â recriwtio a dethol hefyd wedi gofyn am lefel llawer llai o fewnbwn gan staff sy'n eu galluogi i ganolbwyntio ar agweddau mwy ansoddol o'r broses. Mae'r Undebau Llafur yn cael y wybodaeth ddiweddaraf wrth i wasanaethau nodi cyfleoedd i groesawu atebion deallusrwydd artiffisial.

Fel sy'n rhan o ofynion y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau, cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol â'r Undebau Llafur ym mis Mehefin 2024, ar ba raddau y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn bodloni ei ofynion perfformiad fel sefydliad. Gofynnwyd i'r Undebau Llafur ymateb i nifer o gwestiynau ac mae'r wybodaetha gasglwyd yn galluogi CSC i adeiladu ar y wybodaeth a gafwyd drwy weithgarwch ymgynghori tebyg sydd wedi digwydd yn flynyddol ers 2022.

Ar ben hynny, yn ystod 2025, mae CSC wedi bod yn destun Asesiad Perfformiad gan Banel i ddatblygu ei ddealltwriaeth o sut mae'n gweithredu a sut y gall sicrhau darparu gwasanaethau effeithiol yn y tymor hir. Fel rhan o'r asesiad, gofynnodd y Panel am gyfarfod â chynrychiolwyr Undebau Llafur, ac ystyrir bod cyfraniad yr Undebau Llafur yn werthfawr iawn fel rhan o'r asesiad cyffredinol.

Wrth edrych ymlaen at 2025/26, bwriedir y bydd prosesau cyfathrebu presennol yn cael eu datblygu ymhellach er mwyn caniatáu ar gyfer yr ymgynghoriad cynharaf ag Undebau Llafur ar amcanion llesiant y Cyngor. Cydnabyddir yn llawn bod cyfathrebu cynnar ac ystyrlon yn hanfodol i weithio'n llwyddiannus mewn partneriaeth ac felly i fodloni disgwyliadau a gofynion y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol.