Partneriaeth Gymdeithasol – Adroddiad Blynyddol (2024/25)

5. Astudiaeth Achos - Gweithdai Partneriaeth Gymdeithasol

Fel modd o wella gwell dealltwriaeth o bartneriaeth gymdeithasol, trefnodd Llywodraeth Cymru dair cynhadledd ar wahân ledled y wlad. Daeth swyddogion o'r Is-adran Pobl, Digidol a Pholisi yn ogystal â rhai o gynrychiolwyr undebau llafur CSC i'r digwyddiad yn Abertawe, a gynhaliwyd ddiwedd mis Medi 2024. Cafodd hyn ymateb da iawn gan y rhai a oedd yn bresennol ac o ganlyniad roedd y Prif Weithredwr o'r farn y byddai'n fanteisiol ymgysylltu ag arbenigedd ac annibyniaeth darparwr allanol, IPA, i hwyluso rhai gweithdai Partneriaeth Gymdeithasol. Y bwriad yw y gallai'r gweithdai hyn ddatblygu a chynnal perthynas waith gadarnhaol ymhellach drwy bwysleisio pwysigrwydd cyfathrebu effeithiol, cydweithredu a gwelliant parhaus.

Mae IPA yn awdurdod blaenllaw ar weithio mewn partneriaeth ar ôl cael ei noddi o'r blaen gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chyflwyno rhaglen o weithdai hyfforddi wedi'u hwyluso ar gyfer sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Ym mis Ionawr 2025 rhoddodd IPA ei gynnig ar gyfer cyflwyno gweithdai ar wahân i'r Undebau Llafur ac i uwch-reolwyr gan gynnwys y Tîm Rheoli Corfforaethol a Phenaethiaid Gwasanaeth eraill sy'n ymgysylltu'n rheolaidd â'r Undebau Llafur. Gofynnwyd i'r Undebau Llafur am sylwadau, a chytunwyd y dylai'r gweithdai hyn gael eu cynnal ym mis Mawrth 2025.

Cynhaliwyd y gweithdai ar 4 a 6 Mawrth gyda'r nod o ystyried Partneriaeth Gymdeithasol o safbwyntiau'r Undebau Llafur a'r Uwch-reolwyr drwy:

  • Archwilio safbwyntiau'r Undebau Llafur ac Uwch-reolwyr CSC ar weithio mewn partneriaeth
  • Deall y meddwl y tu ôl i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ac egwyddorion gweithio mewn partneriaeth
  • Nodi unrhyw rwystrau canfyddedig i weithio mewn partneriaeth a syniadau ar sut i weithio drwyddynt

Ar ôl adolygu'r wybodaeth a gasglwyd yn y gweithdai, argymhellodd IPA ei fod yn hwyluso gweithdy ar y cyd sy'n cynnwys y Tîm Rheoli Corfforaethol a chynrychiolwyr undebau llafur gyda'r nod o ateb dau gwestiwn:

1. Pa mor bell y gallwn ni fynd i ddatblygu dull partneriaeth ar hyn o bryd?

2. Beth fydd pob un ohonom yn ei wneud i weithio gyda'n gilydd i ddatblygu hyn?

Cynhaliwyd y gweithdy ar 15 Mai 2025 ac o ganlyniad gofynnodd y Prif Weithredwr i'r Undebau Llafur gytuno i roi datganiad i Gabinet y Cyngor a fyddai'n adlewyrchu'r agweddau cadarnhaol yn y cyfarfod. Y testun y cytunwyd i'w gynnwys yn y datganiad: 

“Credwn y bydd canlyniadau'r gweithdy hwn yn paratoi'r ffordd ar gyfer partneriaeth fwy cydweithredol ac effeithiol. Rydym wedi ymrwymo i barhau â'r ymgysylltiad cadarnhaol hwn ac adeiladu ar y sylfeini cadarn a sefydlwyd yn ystod y sesiwn hon. Roedd y gweithdy yn un lle rhannwyd gwirioneddau gan bob parti ond yn bwysicaf oll roedd yn gyfarfod cadarnhaol iawn ac yn rhoi sylfaen gadarn i ni ar gyfer perthynas waith llawer gwell yn y dyfodol”.