Partneriaeth Gymdeithasol – Adroddiad Blynyddol (2024/25)

6. Adborth Undebau Llafur (Unsain, Unite a GMB)

Mae'r Undebau Llafur cydnabyddedig ar y cyd o fewn Cyngor Sir Caerfyrddin yn croesawu'r cyfle i ymgysylltu fel partneriaid cymdeithasol gwirioneddol gyda'r Cyngor fel y'i diffinnir gan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cymru 2023.

Mae'r Undebau Llafur eisiau gweld dull tryloyw ac ymrwymedig ar y cyd sy'n nodi'r newidiadau angenrheidiol sydd eu hangen i gyflawni nodau cyffredin, sy'n dod â chanlyniadau cadarnhaol i'n haelodaeth. Mae angen i hyn gynnwys strategaeth y cytunwyd arni ar y cyd sy'n nodi'r camau angenrheidiol sydd eu hangen i gyflwyno gweithio partneriaeth ystyrlon o fewn Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Mae'r Undebau Llafur yn cydnabod bod strategaeth glir yn hanfodol wrth geisio manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a nodwyd yn y Ddeddf a gallu cyflawni nodau ar y cyd.

I'r perwyl hwnnw, gofynnwn i strategaeth fanwl gael ei datblygu ar y cyd sy'n nodi'r safonau uchaf fel y'u hymgorfforir yn y Ddeddf.