Cadeirydd 2026 - 27

Cynghorydd Giles Morgan yw Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer 2026/2027.

Fe’i etholwyd yn Gadeirydd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 20fed Mai 2026, a bydd yn gwasanaethu tan y Cyfarfod Blynyddol nesaf a gynhelir ym mis Mai 2027.

Mae’r Cynghorydd Morgan wedi cynrychioli Ward Etholiadol Dyffryn y Swistir ers Mai 2024.

Fe yw Cadeirydd Pwyllgor Craffu Perfformiad ac Adnoddau Corfforaethol y Cyngor, ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

Mae yn hunangyflogedig.  Mae ei ddiddordebau yn cynnwys teithio, treulio amser gyda’i deulu, ac arloesodd y gwaith cyntaf o Fabwysiadu Cronfa Dŵr Cymru gan y Gymuned - cronfa Dyffryn y Swistir.

Fel arfer, mae Cadeirydd y Cyngor Sir yn codi arian ar gyfer elusennau lleol yn ystod y cyfnod wrth y llyw.  Mae’r Cynghorydd Morgan wedi dewis Dementia UK a Bloodwise fel ei elusennau eleni.

Ei wraig, Claire, yw ei Gydymaith am y flwyddyn.

Y Cadeirydd yw prif ddinesydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a chaiff ei ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.  Ymhlith dyletswyddau'r swydd mae bod yn gadeirydd ar gyfarfodydd llawn y Cyngor, cynrychioli'r Cyngor mewn digwyddiadau ffurfiol a seremonïol, croesawu ymwelwyr i'r Sir, a bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnir gan bobl a sefydliadau lleol a'u cefnogi.

Y Cynghorydd Betsan Jones yw’r Is-Gadeirydd ar gyfer 2026/2027.