Saesneg/Cymraeg fel ail iaith
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Mae rhai plant yn siarad iaith heblaw Saesneg neu Gymraeg fel eu hiaith gyntaf, un ai oherwydd iddynt gael eu geni mewn gwlad arall neu oherwydd bod eu rhieni'n siarad iaith wahanol yn y cartref. Yn yr ysgol, maent yn dysgu Saesneg neu Gymraeg fel ail iaith (neu drydedd iaith).
Maent yn dysgu'r iaith ychwanegol yn bennaf yn ystod y diwrnod ysgol arferol, drwy chwarae a chymdeithasu a thrwy ddysgu pynciau eraill. Yn ôl gwaith ymchwil, dyma'r ffordd orau o ddysgu iaith.
Mae bod yn ddwyieithog yn cael effaith gadarnhaol ar berfformiad a dylid annog plant i ddefnyddio iaith eu cartref. Gall gymryd hyd at ddeng mlynedd i fod yn rhugl mewn ail iaith. Mae plant yn dysgu iaith gymdeithasol yn gyntaf ac mae'n cymryd mwy o amser i ddysgu iaith academaidd. Fel dysgu unrhyw iaith, yr iaith lafar sy'n dod yn gyntaf a hynny cyn darllen ac ysgrifennu.
Mae cyflymder dysgu plant yn dibynnu ar nifer o bethau gan gynnwys:
- Llythrennedd blaenorol yn yr iaith gyntaf
- Oedran ar adeg dechrau dysgu ail iaith
- Cefndir a chymorth teuluol
- Gallu academaidd
Mae angen cymorth ar blant i ddatblygu eu sgiliau iaith.
Sut bydd yr ysgol yn helpu i ddatblygu sgiliau iaith Saesneg neu Gymraeg?
- Sicrhau bod yr ysgol yn amgylchedd diogel a chroesawgar
- Siarad yn glir ar gyflymder arferol
- Osgoi idiomau ac ymadroddion llafar
- Dysgu drwy gyfryngau gweledol ac amlsynhwyraidd
- Atgyfnerthu iaith lafar ac ysgrifenedig
- Cynllunio gweithgareddau dysgu ar y cyd, lle mae plant yn dysgu oddi wrth ei gilydd, a modelau Saesneg da.
Dylai rhieni a gofalwyr siarad ag ysgol eu plentyn yn gyntaf os bydd ganddynt unrhyw gwestiynau ynghylch dysgu Saesneg neu Gymraeg fel iaith ychwanegol. Mae gan bob ysgol gydgysylltydd Saesneg fel Iaith Ychwanegol. Mae'n bosibl y bydd yr ysgol yn cysylltu â'n Gwasanaeth Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig am gymorth.
Rheolwr y Gwasanaeth: Victoria Owens 01267 246755
Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy'r gwefannau canlynol:
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi