Cyrsiau Crefftau Cymunedol
Diweddarwyd y dudalen ar: 12/03/2025
Cysylltu a Chreu gyda Chrefftau Cymunedol
Dewch i fwynhau cwmnïaeth a chyfleoedd gwahanol o ran crefftau drwy gydol y flwyddyn - darperir yr holl ddeunyddiau a'r hyfforddiant.
Y nod yw cynnal pob sesiwn am naill ai dwy neu dair awr.
Canolfan Ddysgu Gaerfyrddin:12:30-14:30 neu 15:30 bob dydd Mercher yn ystod y tymor.
Canolfan Ddysgu Llanelli: 12:00-14:00 bob dydd Llun yn ystod y tymor.
Dewch bob wythnos, neu dewch ar gyfer y crefftau sydd o ddiddordeb i chi.
Mae modd cael taflenni gwybodaeth tymhorol o Ganolfan Ddysgu Caerfyrddin neu drwy e-bost ar gais gyfer Canolfan Ddysgu Llanelli.
Sut i gofrestru?
Os ydych yn ddysgwr newydd, ffoniwch 01267 235413 neu anfonwch e-bost i roi gwybod i ni os ydych yn bwriadu dod - ac rydym yn croesawu unrhyw ymholiadau hefyd.
Bydd angen i bob dysgwr gofrestru i gymryd rhan - bydd hyn yn cynnwys llenwi ffurflen a darparu cerdyn adnabod â llun (pasbort, trwydded yrru ac ati). Os nad oes gennych chi gerdyn adnabod â llun, rhowch wybod i ni fel y gallwn eich helpu.
Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.
Ein nod yw darparu pob dosbarth a hysbysebwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn canslo neu'n newid dosbarthiadau os yw'r cofrestriadau'n rhy isel neu os bydd amgylchiadau annisgwyl.