Dysgu fel Teulu ar gyfer Rhieni a Gofalwyr
Diweddarwyd y dudalen ar: 07/05/2024
Dysgu fel Teulu ar gyfer Rhieni a Gofalwyr
Mae ein tîm Dysgu fel Teulu yn darparu gweithdai 2 awr a chyrsiau llythrennedd a rhifedd am ddim yn ysgolion cynradd Sir Gaerfyrddin i rieni a gofalwyr i gefnogi dysgu eu plant. Mae ein cyrsiau yn gyrsiau sy'n seiliedig ar weithgaredd a byddant yn darparu adnoddau a gwybodaeth i chi i'ch helpu i gefnogi eich plentyn i ddysgu gartref ac yn yr ysgol gan ddatblygu eich sgiliau eich hun yr un pryd.
Mae ein cwrs mathemateg 'Cadw i Fyny â’r Plant' yn gwrs 5 wythnos anffurfiol (tua 3 awr yr wythnos) i helpu rhieni i gefnogi eu plant gyda Mathemateg. Mae'r cwrs hwn am ddim ac wedi'i achredu gydag uned Agored Cymru .
Mae enghreifftiau o weithgareddau dysgu fel teulu yn cynnwys:
Blynyddoedd Cynnar
- Sachau Stori Fach - dewiswch o blith Y Lindysyn Llwglyd Iawn, Y Gryffalo neu Fynd i Hela Arth
- Gemau i ymarfer darllen - cyflwyniad i Tric a Chlic neu Read Write inc.
- Gemau numicon
Blynyddoedd 3 - 6
- Cyngor a Chymorth ynghylch Tablau
- Gemau i ymarfer dweud yr amser
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Tîm Dysgu fel Teulu: julieanthomas@sirgar.gov.uk neu dysgusirgar@sirgar.gov.uk