Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd eraill (ESOL)
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/09/2025
Mae yna ddosbarthiadau i'ch helpu os oes gennych rywfaint o Saesneg neu ddim o gwbl, a dosbarthiadau i'ch helpu os ydych am wella'ch Saesneg i astudio.
- Dechreuwyr (cyn-mynediad a Mynediad 1) os ydych yn meddu ar rywfaint o Saesneg neu ddim o gwbl.
- Mynediad 2/3 - os ydych yn meddu ar rywfaint o Saesneg ac yn awyddus i ddysgu mwy.
- Mynediad 3/Lefel 1 - gwella eich sgiliau Saesneg Iaith.
Os ydych yn ddysgwr newydd neu os hoffech ragor o wybodaeth, ffoniwch 01267 235413, anfonwch e-bost neu llenwch ein Ffurflen Ymholiad.
Gellir cynnal dosbarthiadau yn ystod y dydd a gyda'r nos, ar-lein ac wyneb yn wyneb mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.
Dyddiadau Tymor 2025/26 | Dechrau | Hanner Tymor | Diwedd |
---|---|---|---|
Hydref 2025 | 01 Medi | 27 Hydref - 31 Hydref | 19 Rhagfyr |
Gwanwyn 2026 | 05 Ionawr | 16 Chwefror - 20 Chwefror | 27 Mawrth |
Haf 2026 | 13 Ebrill | 25 Mai - 29 Mai | 17 Gorffennaf |
Mae dosbarthiadau ESOL am ddim drwy gyllid Llywodraeth Cymru os ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd. Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu £200 fesul tymor.
Darperir rhai cyrsiau mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr.