TGAU Saesneg i oedolion
Diweddarwyd y dudalen ar: 04/11/2024
Bydd angen mynychu sesiwn wythnosol tri awr o hyd gyda thiwtor ac astudio yn ystod amser personol yn unol â chyfarwyddyd y tiwtor. gallwch wneud y cwrs hwn dros flwyddyn neu 2 flynedd, yn dibynnu ar eich anghenion personol. Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu gan asesiad ffurfiannol parhaus gan diwtor a thrwy hunanfyfyrio. Dau bapur arholiad TGAU terfynol.
Bydd angen ichi gwblhau asesiad cychwynnol gyda ni er mwyn sicrhau bod y cwrs hwn yn addas ar eich cyfer - mae cymorth a chyngor yn rhan o'r broses. Yn ogystal mae angen ichi fod yn gallu mynychu'r sesiynau yn gyson a hefyd gwneud y gwaith angenrheidiol gartref - mae hwn yn gwrs cywasgedig iawn sy'n gofyn am ymrwymiad - yn enwedig y cwrs blwyddyn o hyd.
Mae'n bosibl y bydd angen ichi brynu llyfrau ar gyfer y cwrs. Bydd eich tiwtor yn esbonio beth sydd ei angen arnoch yn y sesiwn gyntaf. Os hoffech ddilyn y cwrs TGAU, ond heb fod yn teimlo'n barod eto ar ei gyfer, gallwn ni eich helpu chi i wella eich sgiliau a'ch hyder.
Ffi y cwrs yw £60 ar gyfer TGAU Saesneg Iaith (CBAC) (Uned 1 Llafaredd ac Unedau 2 a 3 bapur arholiad).
Lleoliad | Diwrnod / Amser | Wythnosau |
---|---|---|
Canolfan Ddysgu Caerfyrddin |
Dydd Iau, 12.30 - 15.30 (Yn amodol ar gyfweliad cychwynnol ac asesiad) |
31 wythnos - 1 flwyddyn 70 wythnos - 2 flynedd (tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau) |
Canolfan Ddysgu Llanelli |
Dydd Mawrth, 9.30 - 14.30 Dydd Iau, 11.30 - 14.30 (ar gyfer SSIE) (Yn amodol ar gyfweliad cychwynnol ac asesiad) |
31 wythnos - 1 flwyddyn 70 wythnos - 2 flynedd (tymhorau ysgol, ac eithrio'r gwyliau) |
Ein nod yw darparu pob cwrs a hysbysebwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddwn yn canslo neu'n newid cyrsiau os yw'r cofrestriadau'n rhy isel neu os bydd amgylchiadau annisgwyl. Ar ôl cofrestru, fel rheol ni roddir ad-daliad i'r dysgwyr hynny nad ydynt yn parhau â'u hastudiaethau. Caiff ad-daliadau eu rhoi fel y gwelwn orau; bydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu rhoi 'pro rata' a hynny'n ôl nifer y sesiynau a fynychwyd.
Dyddiadau Tymor 2024/25 | Dechrau | Hanner Tymor | Diwedd |
---|---|---|---|
Hydref 2024 | 02 Medi | 28 Hydref - 01 Tachwedd | 22 Rhagfyr |
Gwanwyn 2025 | 06 Ionawr | 24 Chwefror - 28 Chwefror | 11 Ebrill |
Haf 2025 | 28 Ebrill | 26 Mai - 30 Mai | 21 Gorffennaf |
Nodwch y gallai manylion y calendr hwn newid o ganlyniad i benderfyniadau polisi'r Llywodraeth. Nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw golledion yn sgil gorfod newid trefniadau gwyliau oherwydd newidiadau o'r fath.
Mae'r cwrs yma mewn partneriaeth a Choleg Sir Gâr.