Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Cyflwyniad

Annwyl Rieni a Gwarcheidwaid,

Croeso i Sir Gaerfyrddin, lle mae taith ddysgu pob plentyn a pherson ifanc yn flaenoriaeth gyffredin. Fel awdurdod lleol, rydym yn falch o gynnig amgylchedd diogel, cefnogol a chynhwysol lle mae pob dysgwr yn cael ei annog i ffynnu, archwilio ei ddiddordebau, a chyrraedd ei botensial llawn.

Ein gweledigaeth fel Gwasanaeth Addysg yw y byddwn yn cefnogi ein holl ddysgwyr gan sicrhau eu bod yn hapus, yn ddiogel, yn ffynnu, ac yn cyflawni eu potensial personol a chymdeithasol a'u potensial o ran dysgu. Rydym yn gweithio'n ddiwyd i ddarparu'r addysg o'r ansawdd uchaf posibl er mwyn datblygu-

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes.
  • Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith.
  • Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd.

Arolygodd Estyn ein Gwasanaethau Addysg ym mis Gorffennaf 2023. Nododd yr adroddiad cynhwysfawr, sydd ar gael ar wefan Estyn ystod o gryfderau gan gadarnhau ein bod yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion dysgwyr Sir Gaerfyrddin. Hefyd cymeradwywyd pwysigrwydd a phriodoldeb ein Strategaeth 10 mlynedd (Addysg Sir Gâr 2022-2032) i sefydlu gwasanaethau addysg gynaliadwy, gan roi ystyriaeth gadarn iawn i'r egwyddorion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ein hymrwymiad yw darparu cwricwlwm atyniadol sy’n adlewyrchu diwylliant, iaith a threftadaeth gyfoethog Sir Gaerfyrddin a Chymru wrth feithrin ymwybyddiaeth fyd-eang a meddwl beirniadol. Rydym yn ymdrechu i ddatblygu dysgwyr hyderus, chwilfrydig a thosturiol sydd wedi'u paratoi'n dda ar gyfer y dyfodol. Ein nod yw bod pob dysgwr yn cael cyfleoedd i ddod yn ddwyieithog neu'n amlieithog. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd a'n gweledigaeth yw ehangu addysg ddwyieithog ymhellach yn Sir Gaerfyrddin gan alluogi ein dysgwyr i ddod yn ddinasyddion dwyieithog a bod mewn sefyllfa well ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol. Mae hyn yn unol â Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 sy'n ceisio cryfhau rôl y Gymraeg mewn addysg a rhoi cyfle gwell i blant a phobl ifanc ddod yn siaradwyr Cymraeg.

Rwy'n gobeithio y bydd y ddogfen hon o help i rieni/gofalwyr plant sy'n dechrau yn yr ysgol am y tro cyntaf, ac i rieni/gofalwyr plant sy'n symud i'r ardal. Rydym yn gwerthfawrogi bod dewis ysgol yn benderfyniad mawr a nod y canllawiau hyn yw eich cefnogi yn y broses honno. Mae'n cynnwys:

  • gwybodaeth gyffredinol am ein hysgolion
  • cyngor ynghylch sut a phryd y mae angen i chi wneud cais am le mewn ysgol
  • y broses o roi lleoedd ac
  • amrywiaeth o bolisïau fel cludiant ysgol a allai fod yn berthnasol i'ch amgylchiadau.

Cyn gwneud eich dewis terfynol, rydym yn eich cynghori i gysylltu â'r ysgolion yn eich ardal ac ymweld â nhw i drafod y ddarpariaeth sydd ar gael a'ch amgylchiadau unigol. Bydd gwybodaeth hefyd ar gael ar wefannau unigol ysgolion ac yn eu prosbectws.

Credwn fod addysg yn bartneriaeth rhwng yr ysgol, teuluoedd a'r gymuned ehangach. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod eich plentyn nid yn unig yn cyflawni llwyddiant academaidd ond hefyd yn tyfu'n gymdeithasol, yn emosiynol ac yn bersonol.

Sylwch nad oes sicrwydd y derbynnir plentyn i'r ysgol o'ch dewis. Mae terfynau caeth ar nifer y disgyblion y gellir cael eu derbyn i bob ysgol. Os derbynnir mwy o geisiadau nag sydd o leoedd, yn gyfreithiol, mae'n rhaid prosesu'r ceisiadau a ddaeth i law erbyn y dyddiad cau yn gyntaf, gan ddefnyddio'r meini prawf gor-alw, y nodir eu manylion yn y llyfryn hwn, i bennu'r flaenoriaeth o ran rhoi'r lleoedd sydd ar gael. I osgoi cael eich siomi ac i gael y siawns fwyaf o gael lle yn eich dewis ysgol, gofalwch eich bod yn cyflwyno'ch cais erbyn y dyddiad cau a bennwyd.

Diolch am ystyried ysgol yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer addysgu eich plentyn. Edrychwn ymlaen at groesawu eich plentyn i un o'n hysgolion a dymunwn bob llwyddiant iddynt.

Owain Lloyd - Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant a Theuluoed