Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cynradd neu uwchradd cymunedol / gwirfoddol a reolir

Os na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle i'w plentyn yn eu dewis ysgol, fe’u hysbysir drwy e-bost o’r rheswm/rhesymau dros hyn ac am eu hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad a’r broses o wneud hynny.

Ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir bydd yr Awdurdod yn trefnu bod Panel Apêl Annibynnol yn ystyried yr apeliadau. Cynhelir y broses apeliadau yn unol â Chôd Apelau Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Nid oes hawl i apelio yn achos gwrthod derbyn i Ysgol Feithrin neu ddosbarthiadau meithrin mewn ysgolion cynradd 3 i 11 oed.

Bydd apeliadau'n cael eu cynnal yn unigol neu fel grŵp os oes mwy nag un apêl ar gyfer yr un ysgol, ac eithrio pan fydd y corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am wneud trefniadau apelio yn rhoi cyfarwyddyd fel arall. Bydd rhieni'n cael cyfle i gyflwyno eu hachos yn breifat naill ai'n uniongyrchol neu gyda chymorth cynrychiolydd a ddewisir ganddynt. Rhaid cyflwyno'r holl dystiolaeth ategol i'r panel erbyn dyddiad y gwrandawiad apêl neu efallai na fydd y panel yn ystyried hyn. Ni fydd y panel yn gallu ystyried unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol a ddarperir yn dilyn y gwrandawiad.

Bydd y Clerc yn hysbysu pob parti o benderfyniad y Panel, a fydd yn rhwymo’r Awdurdod, y Corff Llywodraethu a'r rhieni.

Rhaid i apêl gan rieni yn erbyn gwrthod lle mewn Ysgol Gymunedol neu Wirfoddol a Reolir gael ei chyflwyno drwy'r e-ffurflen apeliadau.

Rhaid cyflwyno'r apeliadau erbyn y dyddiadau cau a nodir ar yr e-bost penderfyniad neu fel y nodir yn yr Amserlen ar gyfer Cyflwyno Cais yn y ddogfen hon.

Os bydd angen tystiolaeth feddygol bydd angen i chi ddarparu copïau o adroddiadau sy'n ymwneud â'r diagnosis gan yr Ymgynghorydd a/neu'r Arbenigwr perthnasol.

Bydd gan Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir eu trefniadau eu hunain ar gyfer cynnal apeliadau annibynnol. Yn ogystal â'r uchod, ni fydd unrhyw beth yn y broses hon yn atal rhiant â phlentyn sydd â Chynllun Datblygu Unigol y gwrthodwyd lle i'r plentyn hwnnw yn yr ysgol a enwir yn y Cynllun Datblygu Unigol, rhag cael adolygiad o benderfyniad o'r fath gan Dribiwnlys ADY.

Nifer yr Apeliadau ar gyfer mynediad arferol i Ysgolion Sir Gaerfyrddin ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/2026.

Cynradd (M2)

Enw'r Ysgol Nifer yr Apeliadau ar gyfer 2024/25 Apeliadau Llwyddiannus ar gyfer 2024/25
Bynea 6 4
Dewi Sant 1 0
Rhydaman 4 3

Uwchradd (Blwyddyn 7)

Enw'r Ysgol Nifer yr Apeliadau ar gyfer 2024/25 Apeliadau Llwyddiannus ar gyfer 2024/25
Strade 1 1
Dyffryn Aman 27 25
Bryngwyn 14 5