Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Cyrff Llywodraethu Ysgolion

Mae gan bob ysgol neu ffederasiwn ysgolion gorff llywodraethu sy'n cynnwys aelodau o'r gymuned leol, rhieni, athrawon, staff a chynrychiolwyr o'r Awdurdod Lleol. Hefyd mae gan Gyrff Llywodraethu ysgolion eglwysig (ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion gwirfoddol a reolir) gynrychiolaeth o'r awdurdod eglwysig.

Pan ddaw lleoedd gwag ar gyfer rhiant-lywodraethwyr, dosberthir gwybodaeth drwy'r sianeli cyfathrebu arferol, ac er mwyn bod yn gymwys i fod yn rhiant-lywodraethwr, mae'n rhaid i unigolyn fod â phlentyn ar gofrestr yr ysgol y mae'r Corff Llywodraethu'n gyfrifol amdani. Mae rhiant-lywodraethwr yn y swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd (dwy flynedd ar gyfer Ysgol Feithrin Rhydaman) a gall rhiant-lywodraethwr, os yw'n dewis, wasanaethu tymor llawn y swydd, hyd yn oed os nad yw ei blentyn yn ddisgybl yn yr ysgol honno mwyach. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i Gyrff Llywodraethu gwrdd o leiaf unwaith y tymor. Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch cyrff llywodraethu gan yr Uned Llywodraethu Ysgolion yn yr Adran Addysg a Phlant:

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynghylch cyrff llywodraethu gan yr Uned Llywodraethu Ysgolion yn yr Adran Addysg a Phlant:

Cysylltu â ni: 01267 246448llywodraethu@sirgar.gov.uk