Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Datblygu Cynaliadwy ac Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang

Mae Datblygu Cynaliadwy ac Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang wedi'i ymgorffori o fewn pedwar diben craidd y Cwricwlwm i Gymru. Mae holl ysgolion Sir Gaerfyrddin wedi ymrwymo i gefnogi Cyngor Sir Gaerfyrddin i fod yn garbon sero net erbyn 2030.

Mae'r holl ddysgwyr yn cael eu cefnogi a'u hannog i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd sydd eu hangen arnynt i ymgysylltu â'r byd gan gynnwys y gred y gall pob un ohonom wneud gwahaniaeth. Trwy gamau pwrpasol mae dysgwyr yn cymryd cyfrifoldeb dros yr amgylchedd naturiol ac yn gwneud cysylltiadau ar gyfer newid cadarnhaol. Mae hyn yn creu diwylliant o ofal a chyfrifoldeb ar gyfer ein cenedlaethau i ddod.

Mae defnyddio mannau awyr agored i gyfoethogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm a chefnogi llesiant pob dysgwr yn parhau i fod yn flaenoriaeth ym mhob ysgol yn Sir Gaerfyrddin. Mae cael mynediad i'r awyr agored i gael cysylltiad a dealltwriaeth ddyfnach o'u hamgylchedd lleol yn rhoi cyfle i'r holl ddysgwyr ddod yn aelodau gweithredol o fewn eu cymunedau. Mae Rhwydwaith Ysgolion Awyr Agored Sir Gaerfyrddin yn rhoi cyfle i bob ysgol weithio ar y cyd a rhannu arferion da. Nod y rhwydwaith yw cynnig cyfleoedd i'r holl ddysgwr werthfawrogi a chysylltu â natur a dod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus heddiw ac yn y dyfodol.

Sefydlwyd y Grŵp Ymgynghori Gweithredu dros yr Hinsawdd ym mis Tachwedd 2021 ac mae'n rhan o'r wyth pwynt a nodir yn y Maniffesto Gweithredu dros yr Hinsawdd. Cafodd y Maniffesto ei lunio ar y cyd fel rhan o'r rhaglen dinasyddiaeth fyd-eang, Walk the Global Walk. Gwahoddir pob ysgol ar draws Sir Gaerfyrddin i ethol dau gynrychiolydd i fod yn rhan o'r grŵp. Mae cyfarfod ymgynghori ffurfiol yn cael ei gynnal bob tymor sy'n cynnig cyfle i'r grŵp, gwahoddedigion, cynghorwyr lleol a swyddogion y cyngor drafod materion yn ymwneud â newid hinsawdd a gweithredu argymhellion eu maniffesto. Mae'r platfform trafod arloesol hwn dan arweiniad disgyblion yn grymuso ac yn cynnwys pobl ifanc mewn dadlau a thrafodaeth ynghylch materion sy'n ymwneud â nhw. Mae holl aelodau'r Grŵp yn eirioli dros newid cadarnhaol ar draws eu hysgolion a'u cymunedau ac yn cael eu cefnogi i chwilio am atebion a chymryd rhan mewn camau cadarnhaol sy'n gysylltiedig â Newid Hinsawdd trwy ddiwylliant o ofal a chyfrifoldeb.

Mae'r Grŵp wedi cael ei gydnabod am ei waith wrth gefnogi disgyblion i fod yn rhan o'r broses ddemocrataidd ym Mhapur Ymgynghori Cymru Sero Net ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae'r papur yn argymell sefydlu Grwpiau Gweithredu dros yr Hinsawdd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru erbyn 2030, gan ddefnyddio model Sir Gaerfyrddin fel glasbrint.

Menter ryngwladol yw Gwobr yr Eco-Sgolion a weinyddir gan y sefydliad Cadwch Gymru'n Daclus. Mae'r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i ysgolion ymwneud â materion amgylcheddol a datblygu cynaliadwy drwy feysydd pwnc fel: Sbwriel, Lleihau Gwastraff, Trafnidiaeth, Byw'n Iach, Ynni, Dŵr, Tiroedd Ysgol a Dinasyddiaeth Fyd-eang. Hefyd mae'r rhaglen yn gysylltiedig â chynllun Ysgolion Iach a chynllun Ysgolion Masnach Deg a gydnabyddir ac a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Mae holl ysgolion Sir Gaerfyrddin yn cymryd rhan yn y Rhaglen Eco-Sgolion, mae 31 wedi ennill o leiaf un Faner Werdd tra bod 71 wedi derbyn y Wobr Blatinwm am gynnal eu gwaith ardderchog am wyth mlynedd neu ragor.

Mae Sir Gaerfyrddin yn Awdurdod Lleol Masnach Deg ac mae'n parhau i gefnogi ei hysgolion gyda'r Rhaglen Ysgolion Masnach Deg.

Mae cysylltiadau byd-eang gydag ysgolion ar lwyfan rhyngwladol yn parhau i gael eu cefnogi drwy Raglen Cyfnewid Rhyngwladol Cymru sef 'Taith’. Mae ysgolion Sir Gaerfyrddin yn parhau i adeiladu ar y model llwyddiannus hwn o gymryd rhan ac mae gan yr ysgolion ddealltwriaeth glir o werth y rhaglenni cyfnewid trawsnewidiol hyn i ysgolion. Mae partneriaethau llwyddiannus yn parhau i ffynnu rhwng ysgolion Sir Gaerfyrddin ac ysgolion yn Lesotho, drwy'r rhaglen Cysylltu Dosbarthiadau a Dolen Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod, cysylltwch â:

Louise Morgan, Ymgynghorydd Cymorth Addysg Cysylltiol HeLMorgan@sirgar.gov.uk

Gellir cael rhagor o wybodaeth hefyd drwy ddefnyddio'r dolenni canlynol:

Maniffesto Gweithredu dros yr Hinsawdd

ECO Schools

Fair Trade Wales

Taith

YouTube - The Wellbeing of Future Generations Act

YouTube - An Education System Based on Pupiles - Not Testing

Future Generations Wales