Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A – Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Pryd i wneud cais
- Ar ba oed y gall plant ddechrau ysgol gynradd?
- Derbyn i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol a Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Lleoedd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/newid ysgol y tu allan i’r trefniadau derbyn arferol (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Hysbysiad am gynnig o le mewn ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cynradd neu uwchradd cymunedol / gwirfoddol a reolir
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B – Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Profiadau Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Arholiadau Cyhoeddus
- Gwahardd disgyblion
- Gweithgareddau Ysgolion
- Dyddiad Gadael Ysgol
- Cyrff Llywodraethu Ysgolion
- ADRAN C – Gwasanaethau i Ddisgyblion
- Cyngor Sir Caerfyrddin – Polisi Cludiant Ysgol
- Prydau Ysgol a Grant Hanfodion Ysgol
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)
- Y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion
- Cronfeydd Ymddiriedolaeth
- Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
- Y Cynnig Gofal Plant
- Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles
- Datblygu Cynaliadwy ac Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Adran D – Crynodeb o Ysgolion a Disgyblion
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol, Gwirfoddol Cymorthedig a Gwirfoddol Rheoledig
- Ysgolion Uwchardd a Ysgolion Uwchardd Gymorthedig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
Derbyn i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
Crynodeb Allweddol
- Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r ysgol uwchradd o'r ysgol gynradd.
- Mae'n rhaid, yn ôl y gyfraith, i chi gyflwyno cais i'r Awdurdod Derbyn am le mewn ysgol.
- Cyfeiriad cartref y disgybl sy'n cael ei ystyried wrth dderbyn i ysgol uwchradd ac nid yr ysgol gynradd a fynychwyd.
- Nid yw'n bosibl i unrhyw unigolyn na chorff roi sicrwydd ymlaen llaw y bydd lle ar gael i blentyn mewn ysgol. Dylid diystyru sylwadau neu addewidion o'r fath.
- Byddwch yn cael e-bost gan yr Awdurdod Derbyn yn rhoi gwybod i chi os yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus neu wedi'i wrthod.
- Ni chaiff plentyn ddechrau yn yr ysgol uwchradd hyd nes bod y rhiant/gwarcheidwad wedi derbyn y lle gyda’r Awdurdod Derbyn.
- Darllenwch y Polisi Cludiant i'r Ysgol cyn gwneud eich dewis terfynol o ysgol.
- Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 28 Tachwedd 2025.
Mae'n rhaid i blant ysgolion cynradd ddechrau'r ysgol uwchradd yn y mis Medi yn dilyn eu pen-blwydd yn 11 oed.
Mae'n ofynnol i riant/gwarcheidwad gwblhau cais ar-lein ar gyfer ysgol uwchradd i'w blentyn erbyn y dyddiad cau penodedig fel y nodir yn yr Amserlen ar gyfer Cyflwyno Cais.
Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau penodedig yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau wedi cael lle. Caiff y rhain eu hystyried fel Ceisiadau Hwyr fel y nodir yn y ddogfen hon.
Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.
Nid yw’r ysgol gynradd y mae’r disgybl yn ei mynychu yn fater sy’n cael ei ystyried wrth roi lleoedd.
Rhaid llenwi ffurflenni cais ar-lein erbyn y dyddiad cau penodedig.
Os na fydd y ffurflen wedi cael ei chyflwyno erbyn y dyddiad cau, mae'r siawns o gael lle yn eich dewis ysgol yn llai a gall effeithio ar y siawns o gael cludiant i’r ysgol am ddim hefyd.
Ein bwriad yw anfon llythyrau penderfyniad mewn perthynas â'r ceisiadau hyn a gyflwynwyd erbyn y dyddiad cau erbyn y dyddiad cynnig a nodir yn yr Amserlen ar gyfer Cyflwyno Cais.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd yw 28 Tachwedd 2025
Fel rhan o'r broses o wneud cais, bydd rhieni plant yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd yn cael e-bost oddi wrth yr Awdurdod. Rhaid gwneud ceisiadau ar-lein. Mae'n bwysig eich bod yn llenwi'r ffurflen ar-lein erbyn y dyddiad cau gan mai'r ceisiadau hyn fydd yn cael yr ystyriaeth gyntaf. Ni fydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried nes bod y ceisiadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau wedi cael lle. Nid yw byw o fewn dalgylch dynodedig ysgol uwchradd yn sicrhau y bydd eich plentyn yn cael lle yn yr ysgol honno. Fodd bynnag, mae'r meini prawf derbyn yn rhoi blaenoriaeth uwch i geisiadau gan ddisgyblion sy'n byw yn y dalgylch. Nid yw'r ysgol gynradd y mae eich plentyn yn ei mynychu yn cael ei hystyried yn y broses o wneud cais.
Dilynwch y canllawiau a ddarparwyd, llenwch y ffurflen ar-lein yn unol â hynny a darllenwch y rhan o'r llyfryn hwn sy'n ymwneud â dewis y rhieni a chludiant i'r ysgol er mwyn sicrhau eich bod yn deall eich dyletswydd o dan yr amgylchiadau hyn.
Nid oes trefniadau trosglwyddo awtomatig na hawl awtomatig i symud i'r Ysgol Uwchradd o'r Ysgol Gynradd.
Mae'n rhaid i ffurflenni gael eu llenwi a'u cyflwyno erbyn 28 Tachwedd 2025. Os na chaiff y ffurflen ei chyflwyno erbyn y dyddiad cau, yna bydd llai o siawns o gael lle yn yr ysgol o'ch dewis. Ein bwriad yw anfon llythyrau penderfyniad drwy e-bost ar gyfer ceisiadau a wnaed mewn pryd erbyn 1 Mawrth, 2026, neu'r diwrnod gwaith nesaf.
Dylai rhieni sy’n dymuno i’w plentyn gael ei dderbyn i ysgol uwchradd ar adeg sy’n wahanol i amser arferol derbyn disgyblion blwyddyn 7 gysylltu a thrafod y mater yn y lle cyntaf â Phennaeth yr ysgol a fydd hefyd yn gallu rhoi cyngor ar wneud cais am le. Gellir gofyn hefyd am gyngor gan y staff Derbyn i Ysgolion yn yr Adran Addysg a Phlant.
Derbyn i'r Chweched Dosbarth
Felly, dylid trafod trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i Chweched Dosbarth Ysgolion Cymunedol â’r ysgol unigol cyn gwneud cais am le.