Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Dewis Ysgol a Dalgylchoedd

Crynodeb Allweddol

  • Mae gan bob ysgol ddalgylch dynodedig.
  • Os yw'r disgybl yn byw yn nalgylch dynodedig ysgol, mae gwell siawns y bydd y cais am le yn yr ysgol honno yn llwyddiannus. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y bydd yn cael lle.
  • Mae gan ddisgyblion sy'n byw yn nalgylch yr ysgol, yn amodol ar y meini prawf ynghylch oed a phellter teithio, well siawns o gael cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol (gweler y polisi cludiant).
  • Lle bydd rhieni'n dewis ysgol nad yw'n ysgol agosaf neu'n ysgol y dalgylch, eu cyfrifoldeb nhw fydd cludo'r plentyn i'r ysgol ac yn ôl.
  • Gall rhieni fynegi eu bod yn dewis ysgol nad yw'n ysgol ddynodedig y dalgylch. Mewn achosion o'r fath, mae derbyn i'r ysgol yn dibynnu ar beidio â mynd y tu hwnt i nifer derbyn yr ysgol a dilyn y gweithdrefnau cywir.
  • Pan fydd disgybl yn symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd, bydd cymhwysedd i gael ei dderbyn i'r ysgol honno ac i dderbyn cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol yn seiliedig ar gyfeiriad cartref y disgybl, ac NID ar yr ysgol gynradd a fynychwyd.

 

Ysgol Leol/Dalgylch

Mae’r Awdurdod yn cydnabod fod yna berthynas bwysig rhwng ysgol a’i chymuned. Oherwydd hynny, mae’r Awdurdod wedi dynodi ardal ddaearyddol benodedig y mae’r ysgol yn ei gwasanaethu sy’n cael ei galw’n ddalgylch yr ysgol.

Mae manylion dalgylch ysgol ar gael yn yr ysgol, ar wefan yr Awdurdod Sir neu oddi wrth yr Awdurdod Derbyn perthnasol.

Er nad yw byw yn nalgylch ysgol yn rhoi sicrwydd y derbynnir disgybl i'r ysgol mae'n ffactor pwysig gan y bydd yn golygu y bydd cais yn cael blaenoriaeth dros geisiadau gan unigolion sy'n byw y tu allan i'r dalgylch. Mae'n bwysig hefyd am ei fod yn un o'r meini prawf allweddol wrth asesu a yw disgybl yn gymwys i gael cymorth o ran cludiant o'r cartref i'r ysgol. Ceir manylion y polisi ynghylch cludiant o'r cartref i'r ysgol yn y ddogfen hon.

Cyn gwneud cais am le mewn ysgol mae’r Awdurdod yn eich cynghori’n gryf i gysylltu a thrafod materion gyda’ch ysgol leol ac os yn bosib mynd i’w gweld fel eich bod yn gwybod am y cyfleusterau a’r cyfleoedd allant eu cynnig.

Dewisiadau Rhieni

Fel y nodwyd, mae’r Awdurdod yn awgrymu mai’r pwynt cyswllt cyntaf wrth ddewis ysgol fyddai’r ysgol dalgylch leol.

Er bod y rhan fwyaf o rieni yn anfon eu plentyn i’r ysgol dalgylch leol, mae gan rieni hawl i ddatgan blaenoriaeth i ysgolion gwahanol. Os ydych yn dymuno gwneud hynny argymhellir eich bod yn cysylltu â’r ysgol rydych yn meddwl amdani cyn gwneud dewis terfynol.

Os ydych yn dewis ysgol nad yw’n ysgol dalgylch ddynodedig i chi na’r ysgol agosaf at eich cartref, dylech gofio fod rhai materion ymarferol y mae angen i chi eu hystyried yn llawn cyn gwneud penderfyniad.

Y cyntaf yw os nad yw’r plentyn yn mynd i’r ysgol dalgylch leol i chi neu’r ysgol agosaf at eich cartref a bod y penderfyniad hwnnw yn seiliedig ar ddewis rhieni, fod y cyfrifoldeb a’r gost o gludo’r plentyn i’r ysgol ac yn ôl yn gorwedd yn llwyr yn nwylo’r rhieni/gwarcheidwad.

Mae rhieni’n dweud fod hynny’n gallu bod yn broblem arbennig os oes ganddynt frawd neu chwaer iau nad yw’n cael ei dderbyn i'r un ysgol. Doeth felly yw ystyried a chynllunio ar gyfer y posibilrwydd hwn cyn gwneud cais am le mewn ysgol.

Mae’r ail fater yn ymwneud â’r adeg pan mae disgyblion yn trosglwyddo o’r ysgol gynradd i’r sector uwchradd. Mae cael lle mewn ysgolion uwchradd yn seiliedig ar a yw eich cyfeiriad cartref o fewn dalgylch yr ysgol uwchradd. Nid yw’n seiliedig ar ba ysgol gynradd yr aethpwyd iddi. Felly, pan mae disgybl wedi bod i ysgol gynradd nad yw’n ysgol dalgylch benodedig iddo mae mwy o debygrwydd na fydd yn cael ei dderbyn i’r un ysgol uwchradd â’i gyfoedion a’i gyd-ddisgyblion.

Ni fydd y materion hyn yn berthnasol i lawer, ond gan eu bod wedi creu anawsterau i rieni yn y gorffennol argymhellir eich bod yn eu hystyried ac yn cynllunio ar eu cyfer cyn gwneud eich dewis terfynol o ran ysgol gynradd.

Bydd yr Awdurdod Derbyn a llywodraethwyr ysgol yn cydymffurfio’n gyfreithlon ag unrhyw fynegiant o flaenoriaeth i ysgol benodol. Fel gyda phob cais bydd blaenoriaeth i ysgol benodol yn gorfod cael ei hystyried a’i hasesu yn rhan o’r broses dderbyn i sicrhau nad yw’r Awdurdod yn mynd heibio’r terfyn ar gyfer derbyn disgyblion i’r ysgol honno ar gyfer y grŵp blwyddyn penodol.

Mae'r Nifer Derbyn neu ND yn cyfeirio at nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i grŵp blwyddyn penodol mewn ysgol. Nodir y Nifer Derbyn ar gyfer pob ysgol yn y Rhestr o Ysgolion sy’n rhan o adran olaf y llyfryn hwn.

Dewisiadau Rhieni – Disgyblion a Waharddwyd Ddwywaith

Os yw disgybl wedi cael ei wahardd yn barhaol o ddwy ysgol neu ragor yn barod, er y gall rhiant ddatgan blaenoriaeth i ysgol y maen nhw’n dymuno i’w plentyn gael eu haddysgu ynddi, nid oes raid i’r Awdurdod Derbyn gydymffurfio â’r dewis hwnnw am gyfnod o ddwy flynedd o ddyddiad y gwaharddiad diweddaraf.

Nid yw hynny’n berthnasol i -

  • Disgyblion sydd â Chynlluniau Datblygu Unigol sy'n enwi ysgol benodol,
  • Disgyblion o dan oedran ysgol gorfodol,
  • Disgyblion a gafodd le ysgol yn ôl, neu a fyddai wedi cael lle yn ôl pe bai wedi bod yn ymarferol gwneud hynny,
  • Plant sy’n Derbyn Gofal.

Diwallu Anghenion Addysgol Ychwanegol

Mae gan rai plant anghenion ychwanegol a/neu anabledd sy’n golygu fod angen gwneud darpariaeth ychwanegol ar eu cyfer fel y gallant ddysgu’n effeithiol. Mewn amgylchiadau o’r fath trowch at adran Anghenion Addysgol Ychwanegol y llyfryn hwn.

Addysg yn y Cartref

Gall rhieni ddewis hefyd addysgu eu plant gartref. Yr enw ar hyn yw Addysg Ddewisol yn y Cartref. Mae’r penderfyniad i addysgu gartref yn fater y dylid meddwl yn ofalus amdano, gan ei fod yn golygu ymrwymiad, amser a chost sylweddol.

Os ydych yn ystyried y dewis hwn awgrymir y dylech gysylltu â’r awdurdod lleol a gofyn am arweiniad gan y Swyddog Addysg Ddewisol yn y Cartref drwy ffonio 01554 742369 neu e-bostio: EHEenquiries@sirgar.gov.uk

Mathau o Ysgolion

Mae pob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu dosbarthu’n ysgolion cydaddysgol yn yr ystyr eu bod yn darparu ar gyfer bechgyn a merched, ac oni nodir yn wahanol maent yn ysgolion dyddiol ac nid yn ysgolion preswyl.

Oni nodir yn wahanol, mae ysgolion uwchradd yn cael eu dosbarthu’n ysgolion cyfun. Yn unol â Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gosodir terfyn o 30 o ddisgyblion mewn dosbarth sy'n cael ei addysgu gan un athro cymwysedig yn achos dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2.