Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin

Ers Medi 2023 mae categorïau ysgol newydd wedi cael eu cyflwyno yn genedlaethol.

Mae’r ddarpariaeth ieithyddol yn cyplysu’n agos â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg y Sir; gan gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050; gwreiddio Maes Dysgu Ieithoedd a Chyfathrebu Cwricwlwm i Gymru a phedwar diben y cwricwlwm lle nodir y bydd disgyblion yn gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn gwahanol ffurfiau a lleoliadau, gan ddefnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg, yn ogystal â chydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

O ganlyniad, mae disgwyliad clir y bydd pob ysgol yn datblygu darpariaeth a fydd yn cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y cwricwlwm ffurfiol a'r cwricwlwm allgyrsiol, er mwyn cyflawni Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 10 mlynedd y Sir, sef cynllun cydnabyddedig, rhwng 2022 a 2032.

Mae'r Awdurdod Lleol a'r ysgolion wedi cytuno ar y categori mwyaf addas yn seiliedig ar y ddarpariaeth gyfredol o'r rhestr newydd ganlynol:

YSGOL GYNRADD

Categori 1 - Ysgol Cyfrwng Saesneg

Saesneg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando yn Saesneg yn unol â’i oedran a'i allu, a bydd ganddo rywfaint o ddealltwriaeth o'r Gymraeg. Caiff y Gymraeg ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.

Categori 2 - Ysgol Dwy iaith

Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â chyfathrebu â rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unol ag oedran a gallu a'r ffrwd addysg. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau’n bellach drwy gynyddu cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd ac allgyrsiol) drwy gyfrwng y Gymraeg. Lle defnyddir y Gymraeg fel cyfrwng dysgu, defnyddir y Saesneg yn achlysurol i atgyfnerthu dealltwriaeth dysgwyr. Gyda'r cymorth cywir, gallai dysgwyr symud ymlaen i ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg Categori 3. Bydd o leiaf 50% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg. Gellid cyflawni hyn mewn gwahanol ffyrdd yn dibynnu ar gyd-destun yr ysgol. Gallai fod drwy ddefnyddio trochi cyfrwng Cymraeg llawn hyd at 7 oed gyda dewis yn cael ei gynnig yn y grwpiau blwydd

Categori 3 - Ysgol Cyfrwng Cymraeg

Cymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol. Mae’n cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen. Mae hon yn ysgol sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi. Mewn lleoliad trochi mae pob dysgwr yn cael ei addysgu'n llawn yn y Gymraeg, gyda’r Saesneg yn cael ei defnyddio ar brydiau i sicrhau dealltwriaeth yn ystod y cyfnod trochi cynnar. O 7 oed ymlaen bydd o leiaf 80% o weithgareddau ysgol y dysgwr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg. Bydd disgyblion yn dod yn gwbl ddwyieithog.

YSGOL UWCHRADD

Categori 1 - Ysgol Cyfrwng Saesneg

Saesneg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol yn yr ysgol yn ogystal â chyfathrebu gyda rhieni a gofalwyr. Cydnabyddir y bydd creu ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi ac yn annog agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn cael ei addysgu'n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, a bydd yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg yn unol â’i oedran a'i allu. Caiff y Gymraeg ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Bydd o leiaf 15% o weithgareddau ysgol y dysgwyr (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg. Bydd dysgwyr yn gallu siarad rhywfaint o'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cyfarwydd ac mewn rhai cyd-destunau pwnc gan ddefnyddio termau a geirfa sy'n benodol i bwnc yn dibynnu ar feysydd y cwricwlwm a ddarperir yn y Gymraeg.

Categori 2 - Ysgol Dwy iaith

Defnyddir y Gymraeg a'r Saesneg ar gyfer cyfathrebu mewnol yn ogystal â chyfathrebu â rhieni a gofalwyr. Mae dealltwriaeth glir y bydd cynnal ethos Cymraeg o fewn yr ysgol yn cefnogi agweddau cadarnhaol tuag at ddefnydd o'r Gymraeg. Bydd dysgwr mewn ysgol o'r categori hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unol â’i oedran a'i allu. Bydd sgiliau iaith Gymraeg yn cael eu cryfhau’n bellach drwy gynyddu cyfleoedd dysgu (cwricwlaidd ac allgyrsiol) drwy gyfrwng y Gymraeg. Gan ddibynnu ar faint o amser a neilltuir i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth, byddai dysgwyr yn gallu defnyddio eu sgiliau Cymraeg mewn ystod o wahanol Feysydd Dysgu a Phrofiad. Bydd o leiaf 40% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 40% o weithgareddau ysgol (yn gwricwlaidd ac yn allgyrsiol) yn Gymraeg.

Categori 3 - Ysgol Cyfrwng Cymraeg

Mae ysgolion yn y categori hwn wedi'u rhannu'n ddwy ran: Categori 3 Cyfrwng Cymraeg a Chategori 3P Cyfrwng Cymraeg penodedig.

Ar gyfer pob ysgol yn y categori hwn, y Gymraeg yw’r brif iaith ar gyfer cyfathrebu mewnol. Bydd yr ysgol yn cyfathrebu â rhieni a gofalwyr naill ai yn Gymraeg, yn Saesneg neu'n ddwyieithog yn ôl yr angen. Mae'r rhain yn ysgolion sydd ag ethos Cymraeg cadarn, gan gefnogi a galluogi’r dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun cymdeithasol yn yr ysgol a'r tu allan iddi. Bydd dysgwr yn y categori ysgol hwn yn gallu siarad, darllen, ysgrifennu a gwrando yn Saesneg ac yn Gymraeg yn unol â’i oedran a'i allu.

Bydd ysgol Categori 3 – Ysgol Cyfrwng Cymraeg yn cynnig ystod eang o'u Meysydd Dysgu a Phrofiad drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd o leiaf 60% o ddysgwyr sy'n ymgymryd ag o leiaf 70% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg. Bydd disgwyl i bob ysgol Categori 3 barhau i adlewyrchu cyd-destun ieithyddol yr ardal tra'n gweithio tuag at gynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser.

Bydd Ysgol Categori 3P – Ysgol Cyfrwng Cymraeg Penodedig – yn cyflwyno pob Maes Dysgu a Phrofiad (Maes) drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd 100% o ddysgwyr yn ymgymryd ag o leiaf 90% o'u gweithgareddau ysgol (cwricwlaidd ac allgyrsiol) yn Gymraeg.

Is-gategorïau Trosiannol T2 a T3

Categorïau pontio yw’r rhain rhwng dau brif gategori iaith. Mae’r trefniadau pontio hyn yn galluogi ysgolion i gynllunio sut y byddant yn cynyddu eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg dros amser. Cynyddu’r ddarpariaeth o’r Gymraeg, a hynny er mwyn symud i’r categori nesaf, yw nod yr is-gategorïau trosiannol. Felly, mae T2 yn pontio ysgol categori 1 a 2, gyda’r nod o ddod yn gategori 2 o fewn cyfnod o 10 mlynedd ac mae T3 yn pontio ysgol categori 2 a 3 gyda'r nod o ddod yn ysgol categori 3 o fewn gyfnod o 10 mlynedd.