Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A – Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Pryd i wneud cais
- Ar ba oed y gall plant ddechrau ysgol gynradd?
- Derbyn i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol a Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Lleoedd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/newid ysgol y tu allan i’r trefniadau derbyn arferol (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Hysbysiad am gynnig o le mewn ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cynradd neu uwchradd cymunedol / gwirfoddol a reolir
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B – Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Profiadau Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Arholiadau Cyhoeddus
- Gwahardd disgyblion
- Gweithgareddau Ysgolion
- Dyddiad Gadael Ysgol
- Cyrff Llywodraethu Ysgolion
- ADRAN C – Gwasanaethau i Ddisgyblion
- Cyngor Sir Caerfyrddin – Polisi Cludiant Ysgol
- Prydau Ysgol a Grant Hanfodion Ysgol
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)
- Y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion
- Cronfeydd Ymddiriedolaeth
- Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
- Y Cynnig Gofal Plant
- Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles
- Datblygu Cynaliadwy ac Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Adran D – Crynodeb o Ysgolion a Disgyblion
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol, Gwirfoddol Cymorthedig a Gwirfoddol Rheoledig
- Ysgolion Uwchardd a Ysgolion Uwchardd Gymorthedig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
Hysbysiad am gynnig o le mewn ysgol
Bydd rhieni’n cael eu hysbysu trwy e-bost yn cadarnhau, neu fel arall, fod lle ar gael yn yr ysgol ac yn cynnig iddynt y cyfle i dderbyn y lle yn unol â'r trefniadau derbyn a nodir yn yr Amserlen ar gyfer Cyflwyno Cais yn y ddogfen hon.
Rhaid i riant dderbyn yr e-bost cynnig i sicrhau lle yn yr ysgol. Os na fydd rhiant yn ymateb erbyn y dyddiad ar yr e-bost, mae'n bosibl y bydd y lle yn cael ei dynnu’n ôl ac yn cael ei gynnig i ddisgybl arall.
Bydd y rhai sy'n gwneud cais am dderbyn y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol yn cael eu hysbysu fel arfer o fewn 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr, pa un bynnag sydd gyntaf ar ôl derbyn y cais.
Rhestr Aros
Lle na fu'n bosibl derbyn disgybl i ysgol oherwydd gor-alw, rhaid i rieni roi gwybod i'r Awdurdod mewn neges e-bost os ydynt yn dymuno rhoi'r plentyn ar y rhestr aros a fydd yn cael ei chadw tan ddiwrnod ysgol olaf y Flwyddyn Academaidd y gwnaethant gais amdani. Os daw lleoedd gwag ar gael cânt eu rhoi'n unol â'r meini prawf gor-alw a amlinellwyd yn hytrach nag ers pryd y bu'r cais ar y rhestr aros.
Dim ond os bydd nifer y lleoedd sydd wedi'u rhoi/ar y gofrestr yn y grŵp blwyddyn perthnasol yn gostwng islaw'r nifer derbyn ar gyfer yr ysgol y bydd disgyblion ar y rhestr aros yn cael eu hystyried. Os bydd lleoedd gwag ar gael, bydd yr holl geisiadau newydd a hwyr sydd wedi dod i law bryd hynny yn cael eu hystyried ar gyfer y lleoedd gwag ynghyd â'r rhai sydd ar y rhestr aros. Bydd unrhyw leoedd sydd ar gael yn cael eu rhoi yn unol â'r meini prawf gor-alw. Bydd ceisiadau ar y rhestr aros ar gyfer y trefniadau derbyn arferol yn cael eu hadolygu'n fisol ar ôl y dyddiad hysbysiad o benderfyniad fel y nodir yn yr Amserlen ar gyfer Cyflwyno Cais yn y ddogfen hon.
Gall rhieni/gwarcheidwaid apelio yn erbyn penderfyniad tra byddant ar y rhestr aros ar gyfer nifer o ysgolion.
Tynnu Cynnig o Le yn Ôl
Tynnir cynnig o le mewn ysgol yn ôl:
- Os darganfyddir yn ddiweddarach y cafodd cais twyllodrus neu fwriadol gamarweiniol ei gyflwyno (e.e. hawlio trwy dwyll fod ymgeisydd yn preswylio yn nalgylch yr ysgol); neu
- Os nad yw’r lle a gynigir wedi cael ei dderbyn erbyn y dyddiadau a nodir yn yr e-bost/llythyr. Yna gallai'r Awdurdod dynnu’r cynnig yn ôl a rhoi’r lle i blentyn arall.
- Os oes lle mewn ysgol arall wedi cael ei gadarnhau gan riant/gwarcheidwad.
- Os nad yw disgybl wedi dechrau mewn ysgol ar ddiwedd y tymor ysgol yr oedd i fod i ddechrau yn unol â pholisi'r Awdurdod.