Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A – Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Pryd i wneud cais
- Ar ba oed y gall plant ddechrau ysgol gynradd?
- Derbyn i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol a Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Lleoedd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/newid ysgol y tu allan i’r trefniadau derbyn arferol (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Hysbysiad am gynnig o le mewn ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cynradd neu uwchradd cymunedol / gwirfoddol a reolir
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B – Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Profiadau Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Arholiadau Cyhoeddus
- Gwahardd disgyblion
- Gweithgareddau Ysgolion
- Dyddiad Gadael Ysgol
- Cyrff Llywodraethu Ysgolion
- ADRAN C – Gwasanaethau i Ddisgyblion
- Cyngor Sir Caerfyrddin – Polisi Cludiant Ysgol
- Prydau Ysgol a Grant Hanfodion Ysgol
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)
- Y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion
- Cronfeydd Ymddiriedolaeth
- Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
- Y Cynnig Gofal Plant
- Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles
- Datblygu Cynaliadwy ac Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Adran D – Crynodeb o Ysgolion a Disgyblion
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol, Gwirfoddol Cymorthedig a Gwirfoddol Rheoledig
- Ysgolion Uwchardd a Ysgolion Uwchardd Gymorthedig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
Prydau Ysgol a Grant Hanfodion Ysgol
Trosolwg
Mae Gwasanaeth Prydau Ysgol Sir Gaerfyrddin yn cynnig dewis o brydau maethlon cytbwys a gwerth yr arian i bob ysgol yn y sir. Mae prydau ysgol yn bwysig o ran dysgu sgiliau cymdeithasol i blant a chyflwyno dewisiadau bwyd gwahanol ac amrywiol.
Cynigir brecwast am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd a chânt ddewis o bryd dau gwrs bob dydd, ac mae gan ddisgyblion ysgolion uwchradd ffreuturau sy’n cynnig dewis o brydau, byrbrydau, ffrwythau a phwdinau i ddisgyblion, sydd ar gael amser cinio ac yn yr egwyl canol bore.
Os oes gan eich plentyn anghenion deietegol arbennig dylech roi gwybod i’r ysgol a’r staff arlwyo ac fe wnaiff y gwasanaeth ei orau i ddarparu ar gyfer y gofynion hynny.
Mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu cyfleusterau ar gyfer cynnig dŵr yfed i ddisgyblion adeg prydau bwyd.
1 - Brecwast am ddim
Mae'r Gwasanaeth Arlwyo Ysgolion yn cynnal gwasanaeth brecwast am ddim mewn 97 o leoliadau (o fis Gorffennaf 2022). Mae brecwast yn cael ei gydnabod yn bryd pwysicaf y dydd, ac mae'r dystiolaeth yn dangos bod cysylltiad rhwng brecwast iach a gwell iechyd a gwell canolbwyntio yn ystod y diwrnod ysgol.
Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau brecwast yn agor am 8:15am a gall ddisgyblion ddewis o ystod o opsiynau ar gyfer brecwast.
2 - Bwydlenni Prydau Ysgol
Mae prydau ysgol yn gyfraniad pwysig at ddeiet plant a phobl ifanc. Mae bwydlenni ysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau ‘Bwyta'n Iach mewn Ysgolion’ (Safonau a Gofynion Maeth (Cymru) 2013). Gellir hefyd ddarparu ar gyfer anghenion arbennig o ran deiet ar gais ysgrifenedig rhieni/gwarcheidwaid.
Mae prisiau presennol prydau ar gael drwy ParentPay, sef ein system benodol i gasglu taliadau ar-lein ar gyfer prydau ysgol, www.parentpay.com. Mae holl ffreuturau ysgolion uwchradd hefyd yn gweithredu system til arlwyo ddi-arian.
3 - Prydau Ysgol am Ddim
Gallech fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os ydych chi'n derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Credyd Treth Plant a bod eich incwm blynyddol yn llai na £16,190
- Credyd Cynhwysol a bod incwm net blynyddol eich aelwyd yn llai na £7,400
- Cymorth o dan ran V1 o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
Os ydych yn derbyn Credyd Treth Gwaith yn ogystal ag unrhyw un o'r budd-daliadau hyn, ni fyddwch yn gymwys, hyd yn oed os yw incwm yr aelwyd yn is na £16,190.
Sylwer: Mae gan blant sy'n derbyn un o'r budd-daliadau eu hunain hawl i Brydau Ysgol am Ddim hefyd. Gallai darparu prydau ysgol am ddim yng Nghymru newid. Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gael ar ein gwefan.
Mae gan Lywodraeth Cymru dudalen ynghylch canllawiau ar gyfer prydau ysgol am ddim sy'n darparu gwybodaeth ychwanegol.
Sut yr wyf yn gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim?
Gallwch chi wneud cais am brydau ysgol am ddim ar-lein drwy ein gwefan.
Sut y byddaf yn gwybod a wyf wedi bod yn llwyddiannus ac a oes angen i mi wneud cais bob blwyddyn?
Ar ôl i ni dderbyn eich cais ar-lein, byddwn yn ceisio ei brosesu o fewn 5 diwrnod gwaith. Cewch wybod am y dyfarniad drwy neges e-bost. Nid oes angen ailymgeisio ar gyfer pob blwyddyn ysgol newydd; bydd yr hawl i brydau ysgol am ddim yn dilyn eich plentyn yn awtomatig.
Pryd y mae angen i mi roi gwybod i chi ynghylch newid mewn amgylchiadau?
Mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os yw unrhyw un o'r manylion ar eich cais wedi newid. Gellir gwneud hyn ar-lein drwy ein gwefan.
Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni, efallai bydd eich cymhwysedd yn cael ei ganslo, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw brydau bwyd.
- Mae angen i chi ddweud wrthym os yw eich plentyn yn symud i ysgol newydd e.e. cynradd i uwchradd neu i ysgol arall yn Sir Gaerfyrddin neu i ysgol y tu allan i Sir Gaerfyrddin.
- Mae angen i chi roi gwybod i ni os yw eich amgylchiadau yn newid e.e.: Os ydych yn dechrau gweithio/Newidiadau o ran eich budd-daliadau
- Mae angen i chi roi gwybod i ni os ydych chi a'ch plentyn yn newid cyfeiriad.
- Mae angen i chi roi gwybod i ni os oes gennych blentyn arall yn dechrau yn yr ysgol am y tro cyntaf.
- Mae angen i chi roi gwybod i ni os nad yw'ch plentyn yn byw gyda chi mwyach ac a ddylai rhywun arall fod yn hawlio ar ran eich plentyn.
Manylion Cyswllt:
Ebost: PrydauYsgolamDdim@sirgar.gov.uk
Ffôn: 01267 246521
Prydau Ysgol Am Ddim i Bob Plentyn Ysgol Gynradd ar gyfer disgyblion meithrin a derbyn amser llawn
Mae Prydau Ysgol am Ddim ar gael i bob disgybl cynradd amser llawn. Cofiwch NAD YW disgyblion rhan-amser na'r rhai mewn lleoliadau gofal plant (hyd yn oed os yw'r lleoliad mewn ysgol e.e., Cylch Meithrin) yn gymwys.
Mae'r cynllun Prydau Ysgol am Ddim presennol yn parhau i fod ar waith ar gyfer POB disgybl amser llawn cymwys arall sydd ar y gofrestr yn ysgolion Sir Gaerfyrddin.
4 - Darparu Llaeth
Mae dau gynllun ar waith gan yr Awdurdod er mwyn darparu llaeth am ddim i blant, sef y cynllun dan bump a weinyddir yn unol â’r Uned Ad-daliadau Llaeth Genedlaethol (NMRU) a chynllun Cyfnod Allweddol 1 a weinyddir yn unol â Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2001. Mae’r ddau gynllun yn derbyn cymhorthdal o dan Gynllun y GE i ddosbarthu Llaeth mewn Ysgolion.
Mae plant unigol dros 5 oed hefyd yn medru derbyn llaeth am ddim am resymau meddygol a phan fônt yn mynychu ysgolion neu unedau arbennig. Caniateir i ysgolion wneud eu trefniadau lleol eu hunain os ydynt yn dymuno cyflwyno cynlluniau llaeth sy’n talu amdanynt eu hunain.
5 - Grant gwisg ysgol ac offer
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Grant Hanfodion Ysgol. Y diben yw rhoi cymorth grant i deuluoedd ar incwm isel brynu:
- Gwisg ysgol gan gynnwys cotiau ac esgidiau.
- Cit chwaraeon ysgol gan gynnwys esgidiau.
- Gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i'r canlynol, sgowtiaid; geidiaid; cadetiaid; crefft ymladd; chwaraeon; celfyddydau perfformio neu ddawns.
- Offer e.e. bagiau ysgol a deunyddiau swyddfa.
- Offer arbenigol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau megis dylunio a thechnoleg; ac
- Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol fel dysgu yn yr awyr agored e.e. dillad glaw.
Sylwch y gallai'r rhestr uchod newid.
Pwy sy'n gymwys?
Mae cyllid ar gael i ddisgyblion sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol (2024/2025). Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi lefel y cyllid a grwpiau blwyddyn cymwys ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf ar ein gwefan.
Sut mae gwneud cais?
Gallwch wneud cais am Grant Hanfodion Ysgol o fewn munudau ar-lein drwy ein gwefan.