Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027
Yn yr adran hon
- Cyflwyniad
- ADRAN A – Derbyn i Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Pryd i wneud cais
- Ar ba oed y gall plant ddechrau ysgol gynradd?
- Derbyn i ysgolion uwchradd gan gynnwys y chweched dosbarth
- Dewis Ysgol a Dalgylchoedd
- Sut mae gwneud cais
- Rhoi Lleoedd - Y Meini Prawf Gor-alw
- Symud/newid ysgol y tu allan i’r trefniadau derbyn arferol (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)
- Hysbysiad am gynnig o le mewn ysgol
- Apeliadau yn ymwneud â derbyn disgyblion i ysgolion cynradd neu uwchradd cymunedol / gwirfoddol a reolir
- Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
- ADRAN B – Gwybodaeth am Addysg a Dysgu
- Profiadau Dysgu
- Dysgu'r Gymraeg a'r Saesneg yn Ysgolion Sir Gaerfyrddin
- Arholiadau Cyhoeddus
- Gwahardd disgyblion
- Gweithgareddau Ysgolion
- Dyddiad Gadael Ysgol
- Cyrff Llywodraethu Ysgolion
- ADRAN C – Gwasanaethau i Ddisgyblion
- Cyngor Sir Caerfyrddin – Polisi Cludiant Ysgol
- Prydau Ysgol a Grant Hanfodion Ysgol
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)
- Y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion
- Cronfeydd Ymddiriedolaeth
- Y Gwasanaeth Gyrfaoedd
- Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin
- Y Cynnig Gofal Plant
- Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles
- Datblygu Cynaliadwy ac Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Adran D – Crynodeb o Ysgolion a Disgyblion
- ADRAN E - Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Meithrin
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgol Gynradd Gymunedol, Gwirfoddol Cymorthedig a Gwirfoddol Rheoledig
- Ysgolion Uwchardd a Ysgolion Uwchardd Gymorthedig
- Ysgolion Sir Gaerfyrddin: Ysgolion Arbennig
Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles
Mae'r Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles wedi bod ar waith yn llwyddiannus ers mis Medi 2001 ac mae pob ysgol gynradd, ysgol uwchradd a sefydliad dysgu ychwanegol yn Sir Gaerfyrddin bellach yn rhan o’r rhaglen mewn rhyw ffordd neu’i gilydd.
Pwrpas y rhaglen yw hwyluso'r amodau corfforol, cymdeithasol-emosiynol a seicolegol ar gyfer iechyd a lles mewn ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, drwy ddull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd a lles.
Mae’r rhaglen yn rhan o Rwydwaith Cenedlaethol sydd yn seiliedig ar gyfres o safonau gofynnol sydd wedi eu trefnu ar draws 7 cydran graidd sy’n disgrifio elfennau craidd dull ysgol gyfan:
- Arweinyddiaeth, llywodraethu ac ymrwymiad cryf i iechyd a lles.
- Ysgol sy’n ymroddedig i ddeall anghenion a gwerthuso camau gweithredu.
- Cyfranogi, ymgysylltu a chyfathrebu â’r gymuned ysgol gyfan.
- Gweithlu sy’n cefnogi ei les ei hun, yn ogystal â lles y dysgwyr.
- Cwricwlwm sy’n gweithio law yn llaw â chamau gweithredu, polisïau ac arferion ehangach yr ysgol.
- Amgylchedd a diwylliant ysgol cadarnhaol sy’n atgyfnerthu’r dysgu ac ymrwymiad yr ysgol i iechyd a lles.
- Ysgol lle mae partneriaethau gwaith cryf yn galluogi’r gymuned ysgol i gael mynediad at y gwasanaethau iechyd a chymorth sydd eu hangen arni.
Mae'r rhaglen yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a'r Cwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o ran datblygu:
- Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
- Unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Mae Ysgol sy’n Hybu Iechyd a Lles yn un sy'n gwneud ymdrech cyson i sicrhau lleoliad diogel ac iach ar gyfer addysgu, dysgu a gweithio. Defnyddia ei photensial sefydliadol i feithrin yr amodau corfforol, cymdeithasol-emosiynol a seicolegol ar gyfer iechyd a lles a deilliannau addysgol cadarnhaol. Ac wrth wneud hynny, mae’n sefydlu dull ysgol gyfan o hybu iechyd a chyrhaeddiad.
Mewn ymateb i'r Fframwaith ar Sefydlu Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (Mawrth 2021), ar hyn o bryd mae'r rhaglen yn cefnogi ysgolion i werthuso pa mor dda y maent yn sefydlu Dull Ysgol Gyfan mewn perthynas â'r agenda Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl gyda chymorth Offeryn Hunanwerthuso a luniwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'n rhaid i ysgolion werthuso pa mor dda y maent yn perfformio mewn perthynas â chyfres o ddangosyddion o fewn 8 categori gwahanol sydd wedi'u cynnwys yn yr Offeryn Hunanwerthuso.
Mae'r categorïau hyn yn cynnwys:
- Arweinyddiaeth ac Ymrwymiad
- Deall anghenion dysgwyr a staff o ran eu llesiant emosiynol a meddyliol
- Cyfrannu a chymryd rhan
- Y gweithlu
- Cydberthnasau
- Gwasanaethau Cymorth a Chefnogaeth
- Amgylchedd a chyfleusterau’r ysgol
- Amgylchedd ac Ethos yr Ysgol
- Cwricwlwm
Ar hyn o’r bryd mae Swyddogion Ysgolion sy'n Hybu Iechyd a Lles Lleol yn cefnogi ysgolion i nodi cryfderau a meysydd datblygu yn eu Hofferyn Hunanwerthuso, gan sicrhau bod ysgolion yn dewis blaenoriaethau ar gyfer eu Cynlluniau Gweithredu, yn monitro cynnydd ysgolion mewn perthynas â datblygu meysydd blaenoriaeth, yn rhannu arfer da ymhlith ysgolion ac yn eu cyfeirio at bartneriaid ac asiantaethau allweddol a all eu cefnogi ymhellach. Bydd y swyddogion hefyd yn rhoi gwybod i gydweithwyr yn yr Adran Addysg a'r Is-adran Gwella Iechyd am unrhyw dueddiadau Lles a nodwyd drwy Hunanwerthusiadau Ysgolion i sicrhau y gellir darparu'r cymorth priodol i ysgolion. Mae'r Rhaglen hefyd wedi creu Pecyn Cymorth i ysgolion mewn perthynas â'r agenda hon i sicrhau bod yr Offeryn Hunanwerthuso yn cael ei gwblhau'n effeithiol ac yn parhau i fod yn broses barhaus.
I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Ysgolion sy’n Hybu Iechyd a Lles cysylltwch â Catrin Rees, Cydlynydd Ysgolion Iach Arweiniol: CLRees@sirgar.gov.uk neu Shan Thomas, Cydlynydd Ysgolion Iach: ShEThomas@sirgar.gov.uk