Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Sut mae gwneud cais

Ffeithiau Allweddol

  • Mae rhieni yn cael eu hannog i ymweld â'r ysgol o'u dewis cyn gwneud cais. Wedi i’r rhiant/gwarcheidwad benderfynu i ba ysgol y mae am anfon ei blentyn/plant mae'n rhaid iddo gyflwyno cais i Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol - Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Argymhellir eich bod yn gwneud cais am 3 ysgol i gynyddu'r siawns o gael lle yn yr ysgol o'ch dewis.
  • Dylid gwneud ceisiadau ar gyfer pob ysgol (ysgolion Cymunedol, Gwirfoddol a Reolir a Gwirfoddol a Gynorthwyir [Ffydd]) ar-lein yn Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol - Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Mae cyfrifiaduron cyhoeddus â mynediad i'r rhyngrwyd ar gael yn llyfrgelloedd neu Ganolfannau Hwb y Cyngor

Ni all Ysgol Gynradd Gymunedol nac Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir awdurdodi derbyn disgybl. Dim ond gyda'r ffurflen gais y gallant helpu.

 

Llenwi’r ffurflen gais

Cyfrifoldeb Rhiant/Gwarcheidwad

Rhaid i'r sawl sy'n cwblhau'r ffurflen gais sicrhau bod ganddynt gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn dan sylw a bod pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant yn cytuno. Os nad yw'n bosibl dod i gydgytundeb, mae angen gorchymyn llys i gadarnhau y gellir prosesu'r cais. Bydd angen i'r ymgeisydd dicio blwch ar y ffurflen gais ar-lein i gadarnhau cytundeb rhieni. Pan fo anghytundeb neu wrthwynebiad, bydd y cais yn cael ei ohirio hyd nes y caiff y mater ei ddatrys rhwng y rhieni neu hyd nes y ceir gorchymyn llys yn nodi a ellir gwneud cais.

Dewis y Rhieni - Dewisiadau Ysgol

Gallwch wneud cais ar-lein am le mewn uchafswm o dair ysgol. Argymhellir eich bod yn gwneud cais am 3 ysgol i gynyddu'r siawns o sicrhau lle mewn ysgol a ddewisir.

Os ydych yn dewis gwneud cais am 2 neu 3 ysgol, mae'n rhaid i chi eu rhestru yn ôl blaenoriaeth, h.y. 1af, 2il a 3ydd dewis.

Yn y man cyntaf, bydd pob cais yn cael yr un ystyriaeth, ond os bydd lle'n cael ei gynnig yn yr ysgol sy'n ddewis 1af, ni fydd lleoedd yn cael eu cynnig yn yr ysgol sy'n 2il ddewis neu'n 3ydd dewis.

Os caiff eich dewis 1af ei wrthod, bydd eich 2il ddewis yn cael ei drin fel petai'n ddewis 1af. Bydd hyn yn parhau hyd nes y cynigir lle neu hyd nes y bydd y 3 dewis wedi'u prosesu.

Dylech anfon e-bost at derbyniadau@sirgar.gov.uk i drafod lle mewn ysgol arall os yw pob dewis wedi bod yn aflwyddiannus.

Os bydd nifer o geisiadau yn dod i law, cânt eu prosesu'n awtomatig yn y drefn y maent wedi dod i law. Y cais cyntaf fydd eich dewis 1af, 2il ddewis a 3ydd dewis o hyd, a'r cais hwyrach fydd eich 4ydd, 5ed a 6ed dewis ac yn y blaen.

Newid neu ganslo dewisiadau ysgol

Os ydych yn gwneud cais am fwy nag un ysgol ac yn newid eich meddwl yn ddiweddarach am drefn eich dewisiadau, e-bostiwch derbyniadau@sirgar.gov.uk i ddweud wrthynt am y newidiadau. Nodwch y bydd newidiadau a wneir ar ôl y dyddiadau cau a gyhoeddwyd yn cael eu hystyried fel ceisiadau hwyr.

Dewis Iaith – Ysgolion Dwyieithog

Nid yw'r awdurdod derbyn yn cynnig lle mewn ffrwd iaith benodol.

Os bydd ysgol yn cynnig mwy nag un ffrwd iaith gallwch fynegi dewis ar gyfer ffrwd iaith ar y ffurflen gais. Fodd bynnag, nid yw'r awdurdod derbyn yn cynnig lle mewn ffrwd iaith benodol, dim ond lle yn y grŵp blwyddyn perthnasol yn yr ysgol honno. Dylech drafod eich dewis ffrwd iaith gyda'r ysgol ar ôl i le gael ei gynnig.

Cyfeiriad Cartref

Bernir mai cyfeiriad cartref disgybl yw eiddo preswyl, annedd neu adeilad preswyl, heb gynnwys unrhyw dir sydd ynghlwm wrthi/wrtho, sy'n unig breswylfa neu'n brif breswylfa'r plentyn. Mae'r dalgylch yn seiliedig ar leoliad y tŷ lle mae'r disgybl yn byw ac nid unrhyw dir o amgylch y tŷ hwnnw, a naill ai'n:

  • Eiddo i riant/rhieni’r plentyn neu i berson a chanddo gyfrifoldeb rhianta cyfreithiol penodedig am y plentyn; neu
  • Wedi'i brydlesu neu ei rentu gan riant/rhieni y plentyn neu gan y person sydd â chyfrifoldeb rhiant yn unol â chytundeb rhent ysgrifenedig, ac wedi'i lofnodi gan y landlord a'r tenant, am gyfnod o chwe mis neu ragor

Prawf o'ch Cyfeiriad

Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i ofyn am brawf o gyfeiriad ar yr adeg y cynigir lle i’r plentyn. Er mwyn i’r cais gael ei ystyried fel rhan o’r cylch derbyn arferol, efallai y bydd angen i chi ddarparu prawf eich bod yn byw yn y cyfeiriad a nodwyd ar eich ffurflen gais yn unol â’r Amserlen ar gyfer Cyflwyno Cais.

Gallwch ddarparu unrhyw ddwy o'r dogfennau canlynol i gadarnhau eich cyfeiriad:

  • Bil y Dreth Gyngor neu Fudd-dal Tai gwreiddiol neu lythyr hysbysu nad yw’n fwy na 12 mis oed.
  • Bil cyfleustodau gwreiddiol (nad yw’n fwy na 3 mis oed).
  • Llythyr dyfarnu gwreiddiol ynghylch Budd-dal Plant neu Gredyd Treth Plant neu Gredyd Treth Gwaith (nad yw'r dyddiad arno'n fwy na thri mis yn ôl, a'i fod yn nodi enw/enwau’r plentyn/plant).
  • Cytundeb tenantiaeth/prydles wedi'i lofnodi a'i ddyddio, sy'n para am o leiaf chwe mis ond sydd â mis neu ragor ar ôl ar y cytundeb.
  • Cyfriflen carden gredyd neu gyfrif banc wreiddiol sy'n dangos y cyfeiriad (heb fod yn fwy na dau fis oed).
  • Cadarnhad ysgrifenedig gan Fanc neu Gymdeithas Adeiladu’r ymgeisydd yn cadarnhau manylion y newid cyfeiriad ac ar ba ddyddiad y digwyddodd y newid.
  • Trwydded yrru llun adnabod gyfredol ddilys.

Fel rhan o'r broses dderbyn mae angen i chi ddarparu prawf o'ch cyfeiriad mewn cysylltiad â'ch cais. Bydd yr Awdurdod yn ceisio gwirio'r wybodaeth a ddarparwyd ac mae'n cadw'r hawl i fynnu bod ymgeisydd yn darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol yr ystyrir ei bod yn angenrheidiol i gadarnhau'r breswyliaeth neu i gymryd camau rhesymol i bennu a yw cais yn dwyllodrus ai peidio.

Os caiff lle ei gynnig mewn ysgol yn seiliedig ar gyfeiriad y canfyddir wedyn ei fod yn wahanol i gyfeiriad arferol a pharhaol y plentyn, yna mae'n bosibl y caiff y lle ei dynnu'n ôl. Os bydd rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant cyfreithiol dros y plentyn yn rhoi datganiad anwir, gan wybod a chan fwriadu hynny, a fyddai'n effeithio ar lwyddiant eu cais, yna mae'n bosibl y caiff y lle ei dynnu'n ôl. Os na ddarperir prawf preswyliaeth yna ni fydd yr Awdurdod yn gallu prosesu'r cais ac mae'n bosibl y caiff y lle ei roi i ddisgybl arall.

Symud Tŷ / Newid Cyfeiriad

Os ydych yn bwriadu symud tŷ a'ch bod yn cyflwyno cais am le mewn ysgol ar sail y cyfeiriad newydd, bydd yr Awdurdod yn cymryd camau i wirio'r trefniadau.

Bydd yr Awdurdod hefyd yn derbyn:

  • Llythyr cyfreithiwr yn cadarnhau dyddiad cwblhau eich pryniant tŷ (nid yw cyfnewid contract yn ddigonol), rhaid darparu tystiolaeth o'r cwblhau cyn i'r lle ysgol gael ei gynnig.
  • Cytundeb tenantiaeth wedi'i lofnodi a'i ddyddio am o leiaf 6 mis, gweler prawf o gyfeiriad. Os na allwch ddarparu prawf o'ch cyfeiriad erbyn y dyddiad cau, yna bydd eich cais yn cael ei seilio ar eich cyfeiriad cyfredol. Os ydych yn symud cyfeiriad ar ôl y diwrnod cynnig, bydd eich cais yn cael ei drin fel cais hwyr, gan y bydd lleoedd eisoes wedi'u rhoi.

Cyfeiriad Dros Dro

Dim ond mewn amgylchiadau penodol y bydd cyfeiriad dros dro yn cael ei ystyried, megis:

  • Ffoaduriaid sydd wedi symud i'r Sir yn ddiweddar ac yn byw mewn gwestai neu lety dros dro a ddarparwyd neu y cytunwyd ar hynny gan y Swyddfa Gartref neu drwy sianeli swyddogol.
  • Dogfennau sy'n profi bod y teulu wedi cael llety brys.
  • neu brawf bod y tŷ oedd yn "gartref teuluol" blaenorol wedi cael ei ildio.

Tystiolaeth o Gyfeiriad

Dim ond cyfeiriad arferol disgybl y dylid ei ddefnyddio wrth wneud cais am le mewn ysgol. Os defnyddir cyfeiriad gwahanol i gael mantais ar gyfer lle mewn ysgol, mae'n bosibl y bydd hyn yn cael ei ystyried yn achos o dwyll a gallai olygu na fydd y cais yn cael ei brosesu, neu caiff y lle ei dynnu'n ôl.

Gallai enghreifftiau o geisiadau twyllodrus gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Defnyddio cyfeiriad mam-gu/tad-cu neu gyfeiriad aelod arall o'r teulu ar gyfer y cais.
  • Defnyddio eiddo arall y mae'r rhieni'n berchen arno, ond nad yw'n cael ei ddefnyddio fel y prif gyfeiriad cartref; gellir gofyn am dystiolaeth o'r defnydd a wneir o eiddo arall.
  • Gwneud cais o gyfeiriad perthynas ond cadw eich eiddo blaenorol.
  • Cytundebau rhent llai na 6 mis o hyd.
  • Byw mewn cyfeiriad dros dro tra bo gwaith adeiladu yn cael ei wneud yn y "cyfeiriad cartref”

Os defnyddir cyfeiriad ffug i gael mantais ar gyfer lle mewn ysgol, mae'n bosibl na fydd y cais yn cael ei brosesu, neu caiff y lle ei dynnu'n ôl. Mewn achosion o'r fath, efallai y gofynnir i rieni gyflwyno cais newydd gyda'r cyfeiriad cywir. Gall methu â darparu tystiolaeth o gyfeiriad y cartref pan ofynnir amdano arwain at beidio â phrosesu'r cais neu gallai effeithio ar flaenoriaeth y cais dan ystyriaeth.

Rhannu Cyfrifoldeb

Pan fydd y cyfrifoldeb am y plentyn yn cael ei rannu, a phan fydd y plentyn yn byw gyda’r ddau riant, neu bersonau a chanddynt gyfrifoldeb rhianta cyfreithiol am y plentyn, am ran o’r wythnos, y brif breswylfa fydd y cyfeiriad y mae’r plentyn yn byw ynddo am y rhan fwyaf o’r wythnos. Lle mae preswyliaeth 50/50, cyfeiriad y rhiant sy'n derbyn Budd-dal Plant fydd yn cael ei ystyried. Mae'n bosibl y gofynnir i'r rhieni ddarparu tystiolaeth ddogfennol i ategu'r cyfeiriad a ddefnyddir pan gaiff lle ei gynnig. Pan wneir unrhyw newidiadau i'r sawl sy'n derbyn y budd-dal plant ar ôl gofyn am dystiolaeth, bydd y cais yn cael ei ystyried yn gais hwyr.

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Rhaid i rieni nodi a oes gan ddisgybl unrhyw Anghenion Dysgu Ychwanegol ar y ffurflen gais pan ofynnir iddynt wneud hynny. Bydd y wybodaeth hon yn helpu ysgolion i gynllunio ymlaen llaw i sicrhau bod darpariaeth ar waith ar gyfer disgyblion pe baent yn cael eu derbyn i'r ysgol. Gofynnir i'r adran ADY wirio'r ceisiadau hyn.

Plant Sipsiwn a Theithwyr

Mae'n rhaid i'r Awdurdod, yn statudol, sicrhau bod pob plentyn oedran ysgol gorfodol yn derbyn addysg sy'n briodol i'w hoedran, eu galluoedd ac unrhyw anghenion addysgol arbennig, ac yn hybu safonau uchel wrth ddarparu addysg a lles plant. Mae'r rhwymedigaethau hyn yn berthnasol i bob plentyn boed yn breswylwyr parhaol yn yr ardal ai peidio. Bydd ceisiadau derbyn ar gyfer teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yn cael eu trin gyda’r bwriad o roi’r plant hyn, mor gyflym ag y bo modd, yn yr ysgol agosaf a mwyaf addas sydd ar gael.