Derbyn i Ysgolion - Gwybodaeth i Rieni 2026-2027

Y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion

Mae'r Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion yn gweithio ar ran yr awdurdod lleol i gefnogi presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol ac ymgysylltu mewn addysg. Mae'r tîm hefyd yn gweithio i sicrhau diogelu mewn lleoliadau ysgol ac yn goruchwylio Addysg Ddewisol yn y Cartref. Mae staff yn hyrwyddo ymgysylltu â theuluoedd i alluogi teuluoedd i oresgyn rhwystrau i bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol ac ymgysylltu mewn addysg. Y Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion sydd â chyfrifoldeb dirprwyedig dros oruchwylio perfformiad plant; cyflogaeth plant; a thrwyddedau i hebryngwyr ar draws yr awdurdod.

Mae'r Tîm Diogelu a Phresenoldeb Ysgolion hefyd yn gweithredu ar ran yr awdurdod lleol wrth orfodi dyletswydd rhieni i ddarparu addysg briodol o dan Ddeddf Addysg (1996) (2002). Mae'r gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, gwasanaethau plant, teuluoedd a phartneriaid ehangach.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch: 01554 742369