Newidiadau i ddalgylchoedd
Diweddarwyd y dudalen ar: 16/04/2026
Trefniadau Trosiannol
Dyddiad Gweithredu: 1 Medi 2027
Disgyblion sy'n mynychu ysgol cyn Medi 2027
Ni fydd plant sydd eisoes yn mynychu ysgol cyn 1 Medi 2027 yn cael eu heffeithio gan unrhyw newidiadau dalgylch a byddant yn parhau yn yr ysgol. Nid oes gofyniad i symud ysgol.
Os oedd eich plentyn yn derbyn cludiant ysgol cyn y dyddiad hwn, bydd y cymorth hwn yn parhau yn unol â'r trefniadau cludiant ysgol.
Trefniadau trafnidiaeth
Os yw'ch plentyn yn derbyn cludiant ysgol cyn 1 Medi 2027, bydd y cymorth hwn yn parhau yn unol â'r trefniadau cludiant ysgol.
Disgyblion sy'n dechrau neu'n symud ysgol o 1 Medi 2027
O 1 Medi 2027 ymlaen, bydd y Dalgylchoedd Newydd yn cael eu cymhwyso i'r polisïau Derbyn a Thrafnidiaeth Ysgolion yn y drefn honno.
*Bydd disgyblion sy'n dechrau Meithrin Rhan-amser ac Ysgol Gynradd Amser Llawn yn nhymor y Gwanwyn, yr Haf a'r Hydref 2027 yn cael eu hystyried o dan y dalgylchoedd presennol gan fod ceisiadau'n cael eu prosesu fel un grŵp beth bynnag fo'r tymor y maent yn dechrau.
Trefniadau Brodyr a Chwiorydd
Mae'r polisi derbyn yn rhoi blaenoriaeth i frodyr a chwiorydd pan fydd grŵp blwyddyn yn cael ei ordanysgrifio fel y manylir yn y meini prawf gordanysgrifio.
Apeliadau Derbyn
Mae gan ddisgyblion nad ydynt wedi cael lle yn ysgol o’u ddewis yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i banel apêl derbyn annibynnol. Bydd pob apêl yn cael ei adolygu fesul achos, ac mae gan y panel annibynnol yr awdurdod i ddyfarnu lleoedd lle bo hynny'n briodol.
Symud cyfeiriad ar ôl mis Medi 2027
Bydd teuluoedd sy'n symud i hen ddalgylch ysgol ar ôl y dyddiad gweithredu, hyd yn oed os yw'r disgybl neu unrhyw frawd neu chwaer eisoes yn mynychu'r ysgol, yn cael eu hystyried o dan y dalgylch newydd ar gyfer trefniadau derbyn a thrafnidiaeth.
Bydd y newid hwn yn effeithio ar geisiadau fel a ganlyn:
| Ysgol | Ystod Dyddiad Geni’r Plentyn | Dyddiad Dechrau’r Tymor | Dalgylch |
|---|---|---|---|
| *Addysg Feithrin 3 Blwydd oed (Rhan amser yn unig mewn ysgol 3 – 11) |
01/09/2023 – 31/12/2023 01/01/2024 – 31/03/2024 01/04/2024 – 31/08/2024 |
Ionawr2027 Ebrill 2027 *Medi 2027 |
Cyfredol |
| *Addysg 4 oed 4 – 11 (Llawn-amser) |
01/09/2022 – 31/12/2022 01/01/2023 – 31/03/2023 01/04/2023 – 31/08/2023 |
Ionawr 2027 Ebrill 2027 *Medi 2027 |
Cyfredol |
| Addysg 4 oed 4 – 11 (Llawn-amser) |
01/09/2023 – 31/12/2023 01/01/2024 – 31/03/2024 01/04/2024 – 31/08/2024 |
Ionawr 2028 Ebrill 2028 Medi 2028 |
Newydd (Medi 2027) |
| Addysg Uwchradd (Symud o’r Ysgol Gynradd) |
1 Medi 2014 to 31 Awst 2015 | Medi 2026 | Cyfredol |
| Addysg Uwchradd (Symud o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd) |
Medi 2015 ymlaen | Medi 2027 ymlaen | Newydd (Medi 2027) |
| Addysg Uwchradd 6ed Dosbarth |
Medi 2010 ymlaen | Medi 2027 ymlaen | Newydd (Medi 2027) |
| Disgyblion sy’n trosglwyddo rhwng ysgolion | Pob rhaglen | Medi 2027 ymlaen | Newydd (Medi 2027) |
