Gwybodaeth i Ddysgwyr
Yn yr adran hon
Croeso
Mae Dysgu Sir Gâr yn ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bob unigolyn.
P'un a ydych yn ymuno â ni am y tro cyntaf neu'n dychwelyd i barhau â'ch astudiaethau gyda ni, rydym yn gobeithio y bydd eich profiad yn bleserus ac yn werth chweil.
Rydym yn cynnig cyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL), Saesneg, Mathemateg a Llythrennedd Digidol o lefel sylfaenol hyd at lefel TGAU mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr. Rydym hefyd yn darparu Cyflwyniad i Iaith Arwyddion Prydain ac amrywiaeth o weithgareddau celf a chrefft drwy gydol y flwyddyn.
Mae gennym ganolfannau dysgu yn Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli, yn ogystal â rhai lleoliadau cymunedol ledled y sir ac mewn ysgolion gyda'n tîm Dysgu Teulu. Mae'r dosbarthiadau'n fach ac yn gyfeillgar, ar lefel sy'n addas i'ch anghenion a gallant fod yn rhai heb eu hachredu neu gallwch weithio tuag at gymwysterau i'ch helpu i symud ymlaen i astudio ymhellach neu i gyflogaeth.
Cysylltwch â ni neu llenwch y Ffurflen Ymholiad i gael sgwrs anffurfiol ynglŷn â'ch anghenion dysgu.