Gwybodaeth i Ddysgwyr
Ein Polisïau:
- Rydym yn bwriadu cynnal ein holl ddosbarthiadau - ond efallai y bydd rhaid inni ganslo dosbarth yn achlysurol os yw'r niferoedd yn rhy isel
- Bydd eich tiwtor yn esbonio'r pwyntiau Iechyd a Diogelwch sy'n ymwneud â'ch dosbarth ichi
Bydd angen tystiolaeth adnabod swyddogol ar gyrsiau sgiliau hanfodol a Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE) i brofi cymhwysedd - Os yw unrhyw ffioedd wedi'u talu, gallwn ond ad-dalu mewn amgylchiadau eithriadol ar gais ysgrifenedig
- Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw data er mwyn prosesu a gweinyddu'r broses o'ch cofrestru a'ch achredu. Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu ag asiantaethau eraill fel: ein cyllidwyr, cyrff archwilio, Llywodraeth Cymru, yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data
- Mae copïau o bolisïau Cyngor Sir Caerfyrddin ar gael ar gais a hefyd ar-lein
Diogelu
Mae gan bob dysgwr yr hawl i fynychu cyrsiau heb ofni gwahaniaethu, aflonyddu neu gamdriniaeth. Os ydych yn teimlo eich bod wedi dioddef o wahaniaethu, aflonyddu neu gamdriniaeth, rhowch wybod am hyn ar unwaith i'ch tiwtor neu'r tîm rheoli. Rhowch wybod inni hefyd os ydych yn gweld hyn yn digwydd i rywun arall. Ymdrinnir ag ymddygiad annerbyniol fel yr amlinellir yn y Polisi Gwrth-fwlio.
Hawl i Apelio
O ran cymwysterau: mae gennych hawl i apelio os ydych yn teimlo bod eich tiwtor, asesydd, neu gwiriwr wedi gwneud penderfyniad anghywir am eich gwaith, neu heb ystyried unrhyw anghenion asesu arbennig yn ddigonol.
Problemau neu Gwynion
Rydym am i chi fwynhau eich cwrs - felly os oes gennych unrhyw broblemau neu gwynion, dywedwch wrthym ar unwaith os gwelwch yn dda - a byddwn yn gwneud ein gorau i ddatrys pethau'n gyflym. Byddwn hefyd yn falch o glywed am eich llwyddiannau a'ch canmoliaeth!
Hysbysiad Preifatrwydd
Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.
Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.
Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.
Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.