Ers mis Medi 2024 mae Cydgysylltydd Addysg a Digwyddiadau - yr Economi Gylchol wedi bod yn y swydd yng Nghanolfan Eto. Mae Nick Thomas, sy'n gyn-athro, yn cynnal ymweliadau ysgol yn y ganolfan yn Nant-y-caws, lle mae disgyblion yn dysgu am yr Economi Gylchol ac yn cymryd rhan weithredol ynddi.
Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol gan gynnwys:
- Gweithdai Atgyweirio: Annog myfyrwyr i drwsio ac adfer eitemau yn hytrach na'u taflu.
- Prosiectau Uwchgylchu ac Ailbaentio: Rhoi bywyd newydd i hen wrthrychau, gan sbarduno creadigrwydd a chynaliadwyedd.
- Lleihau gwastraff bwyd gyda mwydonfeydd: Cyflwyno dull rhyngweithiol, eco-gyfeillgar o gompostio gwastraff bwyd gan ddefnyddio mwydod!
