Strategaethau Rheoli Perygl Llifogydd a Chynlluniau Gwaith

Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 mynnu bod pob un o'r 22 awdurdod lleol yn llunio  strategaeth rheoli perygl llifogydd. Rydym hefyd yn llunio dogfen fwy gweithredol, cynllun rheoli perygl llifogydd (FRMP). Mae'r strategaethau a'r cynlluniau hyn yn manylu ar sut y byddwn yn cyflawni nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â rheoli perygl llifogydd, ond yn bwysicach i'r busnesau a'r trigolion yn Sir Gaerfyrddin. Maent yn tynnu sylw at yr ardaloedd sydd â'r perygl llifogydd mwyaf a sut yr ydym yn anelu at reoli'r risg honno yn y tymor byr, canolig a hir.

Wrth ddatblygu’r strategaeth hon, rydym yn cydbwyso anghenion cymunedau, yr economi a’r amgylchedd. Mae ein strategaeth leol yn ffurfio’r fframwaith sy’n rhoi mwy o lais i gymunedau mewn penderfyniadau ynghylch rheoli’r peryglon yn lleol. Mae’n annog yr arfer o reoli peryglon yn fwy effeithiol drwy ganiatáu i drigolion, cymunedau, busnesau a’r sector cyhoeddus gydweithio.