Ymchwiliad Ffurfiol i Ddigwyddiad
Adroddiodau adran 19
Ymchwiliad Ffurfiol i Ddigwyddiad
Mae adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn gosod dyletswydd ar y cyngor fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol i gynnal ymchwiliad i ddigwyddiadau llifogydd i'r graddau y mae'n ystyried bod angen gwneud hynny. Yr uned fusnes Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir sy'n cyflawni'r ddyletswydd hon ar gyfer yr Awdurdod.
Wrth ystyried a yw'n angenrheidiol neu'n briodol ymchwilio i ddigwyddiad llifogydd yn yr ardal, bydd yr uned fusnes Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu'r Arfordir yn adolygu difrifoldeb y digwyddiad ynghyd â nifer yr eiddo yr effeithir arnynt ac amlder digwyddiad o'r fath.
Canllawiau presennol Llywodraeth Cymru yw ymgymryd ag adroddiad ymchwiliad ffurfiol A19 pan fo 20 neu ragor o achosion o lifogydd mewn eiddo.
Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Cydweli
Ar 4 a 20 Hydref 2021, cafodd trigolion a busnesau yng Nghydweli lifogydd yn dilyn dwy storm ddwys a byr ar ddau wahanol achlysur. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ystyried bod y digwyddiadau hyn yn rhai difrifol, a gallwn gadarnhau bod 41 eiddo preswyl a 7 busnes yn anffodus wedi dioddef llifogydd mewnol yn ystod y digwyddiadau hyn.
Mae ymchwiliad wedi'i gynnal gan Gyngor Sir Caerfyrddin fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol mewn ymateb i'r llifogydd a gafwyd ar y dyddiadau hyn. Mae'r adroddiad wedi ymchwilio i'r llifogydd ac mae canfyddiadau'r adroddiad wedi'u cyhoeddi isod. Mae'r adroddiad hwn yn grynodeb o'r ymchwiliad ac mae'n cynnwys gwybodaeth berthnasol sy’n ofynnol i fodloni'r gofynion statudol a osodir ar yr Awdurdod gan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.
Mae'r adroddiad wedi gwerthuso'n benodol y llifogydd yn yr ardaloedd canlynol
- Clos yr Helyg a Pharc Pendre,
- Llys Gwenllian,
- Cae Ffynnon a Heol y Fferi,
- Ger y Castell a Ger y Gwendraeth ac
- Ystâd Ddiwydiannol Cydweli.
Mae'r adroddiad wedi argymell 28 o gamau gweithredu, i'w cyflawni gan Gyngor Sir Caerfyrddin a'i sefydliadau partner, er mwyn rheoli'r risg o lifogydd yn yr ardal yn well. Mae rhai o'r camau hyn eisoes wedi'u cwblhau ac eraill eisoes yn cael eu gweithredu. Er nad oes gan yr Awdurdod bwerau i orfodi Awdurdodau Rheoli Risg eraill a sefydliadau partner i gyflawni'r camau hyn, byddwn yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod y risg o lifogydd yng Nghydweli yn cael ei deall a'i rheoli'n well gan bawb yn y dyfodol.
Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Cydweli (5MB, pdf)

Effeithiwyd i ryw raddau ar tua 34 o eiddo yn Llansteffan gan lifogydd yn ystod y ddwy storm dros y Flwyddyn Newydd yn 2023/24.
Cynhaliwyd gan yr ymchwiliad 3 sesiwn ymgysylltu â rhanddeiliaid gyda thrigolion yr effeithiwyd arnynt ym mis Ebrill 2024 a nodwyd y prosesau a'r digwyddiadau hydrolegol allweddol a arweiniodd at lifogydd yn yr eiddo ar y Grîn, i fyny'r afon o'r Grîn ac yn Ferry Point.
Mae'r ymchwiliad hefyd wedi ystyried sut yr ymatebodd yr Awdurdodau Rheoli Risg perthnasol a'r gwasanaethau brys yn ystod ac ar ôl y llifogydd. Cynigir cyfres o argymhellion i wella gwaith rheoli perygl llifogydd yn yr ardal, meithrin cydnerthedd cymunedol ac adolygu gwaith cynnal a chadw a gweithgareddau gweithredol parhaus.
Er nad oedd y glaw ar 30 Rhagfyr 2023 a 2 Ionawr 2024 yn eithriadol, sef 19mm a 32mm yn y drefn honno, cyn hynny bu rhai o'r ychydig fisoedd gwlypaf yn Sir Gaerfyrddin mewn 189 mlynedd (CNC, 2024). Roedd hyn yn golygu bod y tir yn orlawn o ddŵr cyn cyfnod y Flwyddyn Newydd gan arwain at lawer iawn o ddŵr wyneb ffo yn cael ei gynhyrchu yn dilyn glaw yn y dalgylch.
Yn gyffredinol, roedd y llifogydd o ganlyniad i fwy o lifoedd dŵr wyneb yn mynd i wahanol gyrsiau dŵr nad oedd yn gallu ymdopi â hyn ac a oedd wedi gorlifo. Mae deall yr effeithiau a gafodd gwahanol ddefnyddiau tir ar hyn yn waith ar gyfer y dyfodol. Gwaethygodd y llifogydd oherwydd bod y brif ollyngfa oedd yn draenio'r wyneb a'r dŵr llifogydd wedi'i chladdu o dan y traeth ac ni chafodd y dŵr llifogydd o'r storm gyntaf ei ddraenio'n effeithiol cyn yr ail storm.
Roedd adborth o'r ymgyngoriadau cyhoeddus wedi amlygu bod llawer o drigolion yn teimlo bod diffyg cydlynu a rhannu gwybodaeth rhwng ymatebwyr CSC, CNC a'r Gwasanaeth Tân ac nad oeddent yn barod ar gyfer llifogydd, nid oeddent yn gwybod beth i'w wneud nac yn gwybod â phwy i gysylltu.
Ar ddiwedd adroddiad yr ymchwiliad ceir 10 cam gweithredu yn ymwneud â Rheoli Perygl Llifogydd, 6 argymhelliad yn ymwneud â Chydnerthedd Cymunedol, ac 11 o gamau gweithredu yn ymwneud â Gweithredu a Chynnal a Chadw. Bydd CSC yn rheoli'r gwaith o gyflawni'r camau hyn drwy'r grŵp prosiect amlasiantaethol y byddant yn parhau i'w gadeirio yn y tymor byr.