Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?

Mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig os bydd unrhyw newidiadau sydd eu hangen arnoch, neu rydych eisiau eu gwneud yn eich adeilad rhestredig, yn effeithio ar ddiddordeb hanesyddol arbennig neu gymeriad yr adeilad, neu'r lleoliad. Gallai newidiadau sy'n ymddangos yn ddibwys i chi fod yn eithaf arwyddocaol i arbenigwr. Os nad ydych yn siŵr, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm Treftadaeth Adeiledig cyn i'r gwaith ddechrau a byddem yn barod iawn i wirio a oes angen caniatâd neu beidio.

Cyn i chi wneud cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig efallai y byddwch hefyd yn elwa o fynychu cwrs Canolfan Tywi  ‘Caniatâd Adeilad Rhestredig: gwneud cais’. 

Gallwch ddefnyddio'r map rhyngweithiol sydd ar gael ar y wefan hon ar gyfer eiddo yn Sir Gaerfyrddin:

  1. Sgroliwch i lawr i'r adran 'Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio'.
  2. Cliciwch ar y gwymplen 'Dewiswch opsiwn'.
  3. Cliciwch ar 'Adeiladau Rhestredig' a nodwch gôd post yr eiddo yr ydych yn holi yn ei gylch.

Noder bod adeilad wedi'i restru o dan enw gwahanol weithiau, neu mae yn y broses o gael ei restru, neu mae rhan o'r eiddo yn rhestredig nad yw'n gysylltiedig â'r côd post. Felly, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'r tîm Treftadaeth Adeiledig i chwilio'n fanwl.

I gael manylion yr holl asedau rhestredig yng Nghymru ac i gyrchu Adroddiad Rhestru ar gyfer yr eiddo yr ydych yn holi yn ei gylch, ewch i'r adran 'Chwilio cofnodion Cadw' ar wefan Cadw:

  1. I gael mynediad i wybodaeth, cliciwch ar 'dangos hidlydd'.
  2. Ar y gwymplen 'Math o ased', dewiswch 'Adeilad Rhestredig' ac yna gallwch roi cymaint o fanylion â phosibl cyn clicio ar 'Chwilio'.
  3. Gallwch ddewis gweld y cynnwys ar y map neu ar y rhestr.
  4. Os ydych yn clicio ar 'Gweld ar ffurf Rhestr', gallwch glicio ar 'Adroddiad' a bydd hyn yn agor 'Adroddiad Llawn ar gyfer Adeiladau Rhestredig' ar gyfer yr eiddo yr ydych yn holi yn ei gylch.

Gall y rheiny sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd gael gwybod a yw rhywbeth yn rhestredig drwy gysylltu â thîm Treftadaeth Adeiledig Sir Gaerfyrddin.

Mae'r broses restru yn cwmpasu’r  adeilad cyfan ni waeth pa radd ydyw. Yn ôl y gyfraith, mae’r diffiniad o adeilad rhestredig yn cynnwys:

  • y tu mewn (gan gynnwys gosodiadau)
  • tu allan i'r adeilad
  • unrhyw strwythur neu wrthrych sydd ynghlwm wrth yr adeilad (gan gynnwys ychwanegiadau modern), waliau, cynteddau ac adeiladau allanol
  • strwythurau cwrtil

 

 

Mae cwrtil adeilad rhestredig yn cynnwys unrhyw adeiledd atodol (e.e. is-adeiledd neu is-adeiledd) ac unrhyw strwythur neu wrthrych arall sy’n ffurfio rhan o’r tir ac sydd wedi gwneud hynny ers cyn 1 Gorffennaf 1948, ac a oedd o fewn cwrtil yr adeilad, ac yn atodol iddo, ar y dyddiad y cafodd yr adeilad hwnnw ei gynnwys gyntaf yn y ‘rhestr’, neu ar 1 Ionawr, pa un bynnag oedd hwyrach, 1969.

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch yr hyn sydd wedi’i gynnwys, yn enwedig yr hyn y dylid ei gynnwys yn y cwrtil, cysylltwch â’r Tîm Treftadaeth Adeiledig yn uniongyrchol ar bhconsultations@sirgar.gov.uk

Nid yw disgrifiadau ar y rhestr yn derfynol. Nid yw gadael rhywbeth allan o'r disgrifiad yn golygu nad yw rhywbeth yn rhestredig neu'n arwyddocaol. Oni bai bod y disgrifiad ar y rhestr yn nodi'n gwbl glir bod rhan o'r adeilad rhestredig wedi'i eithrio, mae'r strwythur cyfan a'r eitemau/strwythurau sydd o fewn ei gwrtil yn rhestredig.

Cwrtil adeilad rhestredig yw'r darn o dir sydd o gwmpas adeilad rhestredig a'r strwythurau sydd ar y tir hwnnw. Wedyn mae'r strwythurau hyn o fewn y cwrtil yn destun yr un rheoliadau adeiladau rhestredig yn eu rhinwedd eu hunain ac yn dod o dan awdurdodaeth Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

Nid yw adeiladau, strwythurau ac eitemau sydd wedi'u cysylltu â'r strwythur rhestredig yn cael eu hystyried fel rhan o'r cwrtil fel arfer, ond maent yn rhestredig fel rhan o'r adeilad rhestredig ei hun.

Mae cwrtil yn bwysig oherwydd gall newidiadau iddo, neu adeiladau arno, effeithio ar safle a chymeriad y prif strwythur rhestredig o bosib.

Mae'r strwythurau a'r eitemau sy'n debygol o gael eu hystyried yn rhestredig o fewn y cwrtil yn cynnwys adeiladau, strwythurau ac eitemau a gafodd eu hadeiladu cyn 1 Gorffennaf 1948, yn ogystal ag adeiladau sy'n perthyn neu sy'n cysylltu â'r adeilad rhestredig am y rhesymau canlynol:

  • gwerth grŵp, megis ysgubor ar fferm
  • perchenogaeth yn y gorffennol a'r presennol
  • defnydd neu swyddogaeth yn y gorffennol a'r presennol, yn benodol a oedd yr adeilad wedi'i gysylltu â dibenion yr adeilad rhestredig ar y dyddiad y cafodd ei restru neu'r dyddiad y cafodd ei adeiladu.

Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth.

Ni fydd pob adeilad â chwrtil. Bydd achosion, o ran y rhai â chwrtil, pan fydd maint y cwrtil yn glir (megis ffiniau gerddi) ond efallai na fydd mor glir mewn achosion eraill.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch a yw adeilad neu strwythur yn destun rheoliadau adeiladau rhestredig o fewn cwrtil neu beidio, cysylltwch â'r tîm Treftadaeth Adeiledig.

Mae'n bwysig cofio bod angen caniatâd adeilad rhestredig ar gyfer unrhyw newidiadau sy'n cael effaith ar gymeriad a diddordeb arbennig yr ased treftadaeth. Nid oes angen caniatâd i wneud gwaith cynnal a chadw sylfaenol a mân atgyweiriadau 'tebyg am debyg'. Er enghraifft, ni fyddai angen caniatâd i ailosod llechen sydd ar goll.

Mae'r term 'tebyg am debyg' yn cael ei ddefnyddio'n aml i ddisgrifio gwaith ar adeilad rhestredig. Yn syml, mae'n golygu bod unrhyw waith atgyweirio'n union yr un fath â'r hyn sydd yno'n barod neu'r hyn a oedd yno yn y gorffennol ym mhob agwedd, gan gynnwys deunydd, lliw, gwead a'r manylion. Felly, ni fydd y gwaith yn newid cymeriad yr ased treftadaeth.

Fel arfer, nid oes angen caniatâd adeilad rhestredig arnoch ar gyfer atgyweiriadau 'tebyg am debyg', ond mae'n werth cael cyngor yn gyntaf oherwydd mae'r meini prawf ar gyfer atgyweirio 'tebyg am debyg' yn fanwl iawn. Er enghraifft, efallai fod cerrig neu lechi wedi dod o chwarel nad yw'n bodoli mwyach; efallai na fydd dod o hyd i'r hyn sy'n cyfateb orau yn 'debyg am debyg'. Fel arfer, byddai hen ffenestri codi wedi cael eu creu â phinwydd Baltig sy'n tyfu'n araf, ond nid yw'r deunydd hwn ar gael mwyach, felly mae'n debygol iawn na fydd unrhyw atgyweirio'n 'debyg am debyg'.

Fel arfer, bydd angen caniatâd adeilad rhestredig arnoch ar gyfer atgyweiriadau nad ydynt yn cyfateb i'r deunydd hanesyddol presennol yn union, neu sy'n golygu gwaredu llawer o ddeunydd hanesyddol. Os nad ydych yn siŵr, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm Treftadaeth Adeiledig.