Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy
Gall systemau draenio dŵr wyneb traddodiadol gynyddu'r risg o lifogydd a chreu perygl difrifol o halogi. Datblygwyd Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) i efelychu'r broses ddraenio naturiol a gwaredu'r risgiau hyn.
Gall SuDS gael eu defnyddio'n effeithiol mewn ardaloedd gwledig a threfol er mwyn cefnogi ailddatblygiadau a datblygiadau newydd a lleihau'r risg o lifogydd yn sgil dŵr wyneb a chreu cyfleoedd ar gyfer gwell ansawdd dŵr, cynefinodd bioamrywiol ffyniannus a llecynnau hamdden cymunedol newydd.
Gyda deddfu Atodlen 3 Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ym mis Ionawr 2019, rhaid i'r mwyafrif o ddatblygiadau newydd gael cymeradwyaeth ar gyfer eu rheoli dŵr wyneb, cyn dechrau ar unrhyw waith. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi creu Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB) i gyflawni'r ddyletswydd hon.
Isod mae'r gwasanaethau y mae Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy Sir Gaerfyrddin yn eu darparu.