Ceisiadau Llawn am Systemau Draenio Cynaliadwy
Diweddarwyd y dudalen ar: 18/08/2025
O 7 Ionawr 2019 ymlaen, mae angen draenio cynaliadwy ar bob datblygiad newydd o fwy nag un tŷ neu lle mae'r ardal adeiladu yn 100m2 neu fwy i reoli dŵr wyneb ar y safle.
Mae'n rhaid i systemau draenio dŵr wyneb gael eu cynllunio a'u hadeiladu yn unol â'r safonau gorfodol o ran draenio cynaliadwy a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru.
Mae copi o'r Safonau Cenedlaethol Statudol ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDs) ar gael ar y ddolen ganlynol:
Safonau cenedlaethol statudol ar gyfer systemau draenio cynaliadwy.pdf
Rhaid i'r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol sy'n gweithredu yn ei rôl Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB) cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau. Bydd gan y SAB ddyletswydd i fabwysiadu systemau cydymffurfio cyn belled â'i fod wedi'i adeiladu ac yn gweithredu yn unol â'r cynigion y gellir eu cymeradwyo, gan gynnwys unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth gymeradwyaeth.
Ni chaniateir dechrau gwaith adeiladu sydd â goblygiadau draenio oni bai bod system ddraenio ar gyfer y gwaith wedi'i chymeradwyo gan y Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy.
Mae gwaith adeiladu wedi'i ddiffinio yn y Rheoliad fel unrhyw beth a wneir drwy greu adeilad neu strwythur arall, mewn cysylltiad â neu wrth baratoi ar gyfer creu adeilad neu strwythur arall, ac mae gan waith adeiladu oblygiadau draenio os bydd yr adeilad neu'r strwythur yn effeithio ar allu tir i amsugno dŵr glaw. Dylid nodi, ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, fod unrhyw beth sy'n gorchuddio tir, fel patio neu arwyneb arall yn strwythur at ddibenion cymeradwyo.
Byddwch yn cael eich hysbysu yn unol â'r map proses isod, peidiwch â chysylltu â'r SAB na mynd ar drywydd cynnydd nes bod eich dyddiad penderfynu wedi mynd heibio.