Gwasanaeth cyn cyflwyno cais ac arweiniad

Rydym yn argymell yn gryf bod datblygwyr yn ystyried ymgysylltu cynnar yn ystod y cyfnod dylunio cysyniadol / cyn cyflwyno cais - yn enwedig ar gyfer safleoedd mawr.

Mae manteision gwasanaeth cyn cyflwyno cais ac arweiniad yn cynnwys y canlynol:

  • Gall trafodaeth gynnar helpu i gyflawni'r canlyniad gorau ar gyfer eich cais.
  • Rhoi gwybodaeth i chi am ystyriaethau, risgiau a materion sy'n ymwneud â'ch cynnig a sut y gallwch eu goresgyn
  • Rhoi gwybodaeth i chi am sut y bydd draenio cynaliadwy yn effeithio ar gynlluniau datblygu
  • Cyflymu'r broses ymgeisio
  • Bydd trafodaeth ynghylch dylunio cysyniad yn darparu syniadau cychwynnol ar gyfer rheoli dŵr wyneb o fewn datblygiad, yn unol â'r Safonau Cenedlaethol.

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cytuno ar yr holl fanylion gyda'r SAB a chyrff perthnasol eraill yn ystod trafodaethau cyn cyflwyno cais. Gall trafodaeth o'r fath ddigwydd cyn prynu tir i gyfrif am gynnwys Systemau Draenio Cynaliadwy sy'n cydymffurfio.