Mabwysiadu seilwaith draenio
Diweddarwyd y dudalen ar: 18/08/2025
Bydd gan y SAB ddyletswydd i fabwysiadu unrhyw system sy'n gwasanaethu mwy nag 1 eiddo ar yr amod ei bod yn system gydymffurfiol, cyn belled â'i bod wedi'i hadeiladu ac yn gweithredu yn unol â'r cynigion cymeradwy, gan gynnwys unrhyw amodau ynghlwm wrth gymeradwyaeth SAB.
Os oes gennych system a allai sbarduno'r gofynion mabwysiadu, rydym yn eich cynghori'n gryf i ddefnyddio'n canllawiau cyn cyflwyno cais a fydd yn eich helpu i:
- Cyflawni'r canlyniad gorau ar gyfer eich cais.
- Rhoi gwybodaeth i chi am ystyriaethau, risgiau a materion sy'n ymwneud â'ch cynnig a sut y gallwch eu goresgyn
- Rhoi gwybodaeth i chi am sut y bydd draenio cynaliadwy yn effeithio ar gynlluniau datblygu.
- Cyflymu'r broses ymgeisio
- Atal unrhyw wrthwynebiadau
- Darparu cyngor ar ganiatâd a chydsyniad arall
- Caniatáu trafodaethau cynnar ar bondiau, symiau cyfnewid a ffioedd a thaliadau eraill.
Bydd pob datblygiad sy'n bodloni'r meini prawf mabwysiadu yn destun ffioedd a thaliadau ychwanegol sy'n cynnwys.
- Bond nad yw'n gysylltiedig â pherfformiad;
- Swm cyfnewid ar gyfer cynnal a chadw yn y dyfodol
- Ffi proses fabwysiadu
- Ffioedd arolygu
Os hoffech drafod y ffioedd hyn, mae'r gwasanaeth hwnnw ar gael drwy ein gwasanaeth canllaw cyn cyflwyno cais