Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033

Mae'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn pennu cynigion a pholisïau ar gyfer y defnydd o'r holl dir yn y sir yn y dyfodol (ac eithrio'r rhan sydd wedi'i chynnwys ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) ac mae'n rhan o fframwaith y cynllun datblygu ar gyfer Cymru. Mae'r CDLl yn cwmpasu cyfnod o bymtheg mlynedd a dylai adlewyrchu'r polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru. Dechreuodd y gwaith o baratoi'r CDLl Diwygiedig ym mis Ionawr 2018. Mae amserlen fanwl o'r broses o lunio'r Cynllun wedi'i nodi yn yr Adroddiad Ymgynghori, Atodiad 1:  Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin (llyw.cymru) Yn agor mewn tab newydd

Gallwch weld rhagor o fanylion am wahanol gamau paratoi'r Cynllun uchod drwy glicio ar y blychau glas.

Cytundeb Cyflawni

Mae'r Cytundeb Cyflawni yn pennu'r amserlen ar gyfer cynhyrchu'r CDLl, a Chynllun Cynnwys Cymunedau sy'n nodi sut y gall unrhyw grwpiau, unigolion neu ddatblygwyr â diddordeb gyfrannu at baratoi'r CDLl Diwygiedig. Cytunwyd ar y Cytundeb Cyflawni gwreiddiol ar gyfer paratoi CDLl Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018 - 2033 gan Lywodraeth Cymru ym Mehefin 2018.

Mewn ymateb i nifer o faterion, ac i sicrhau bod gweithdrefnau'r Cynllun yn gadarn cyn inni ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w archwilio, cytunwyd ar Gytundeb Cyflawni diwygiedig wedi'i ddiweddaru gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2024 a gellir ei weld isod:

Cytundeb Cyflawni Diwygiedig       Gweler llythyr Llywodraeth Cymru 

Y Wybodaeth Diweddaraf - 20fed o Chwefror 2026:  

Cyhoeddi Adroddiad yr Arolygwyr a Threfniadau Trosiannol y CDLl ar gyfer Ceisiadau Cynllunio 

Cyhoeddwyd adroddiad yr Arolygwyr ar 20 Hydref 2026, a rhaid i’r Awdurdod Cynllunio fabwysiadu’r CDLl Diwygiedig o fewn wyth wythnos o’r cyhoeddiad. Yn dilyn cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd, gellir bellach roi pwys sylweddol i bolisïau’r CDLl Diwygiedig. Gellir gweld Adroddiad yr Arolygydd drwy’r ddolen isod: 

 Gellir gweld Adroddiad yr Arolygwyr yma

Ceisiadau cynllunio a ddilysir ar ôl cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd (20 Hydref 2026) 

Bydd ceisiadau cynllunio a ddilysir ar ôl cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd (20 Hydref 2026) yn parhau i gael eu hystyried yn unol â’r CDLl Mabwysiedig presennol. Fodd bynnag, bydd angen i swyddogion hefyd roi sylw dyledus i gynnwys y CDLl Diwygiedig ac Adroddiad yr Arolygydd, gyda’r pwys a roddir i’r CDLl Diwygiedig yn y broses o wneud penderfyniadau yn cynyddu. 

Bydd angen i geisiadau cynllunio sydd wedi bod yn disgwyl penderfyniad cyn cyhoeddi adroddiad yr Arolygydd (er enghraifft, sydd wedi bod yn ddarostyngedig i EoT neu sydd ar gam Adran 106) gael eu hystyried fesul achos, lle mae'r pwysau a roddir yn adlewyrchu'r ceisiadau unigol. 

Ceisiadau o'r fath yw'r rhai lle roedd disgwyliad clir y byddai'r cais fel arfer wedi cael ei benderfynu o fewn amserlen cyn cyhoeddi adroddiad yr Arolygydd. Bydd angen i swyddogion, wrth benderfynu ar gais, gyfeirio at y ddau Gynllun a chymhwyso'r pwys priodol. Dylai'r darpariaethau sylfaenol canlynol fod yn berthnasol, ond efallai y bydd amodau unigol yn gofyn am ddull achos wrth achos. 

  • Os yw cais yn cydymffurfio â'r cynllun mabwysiedig cyfredol ond yn gwrthdaro â'r Cynllun Diwygiedig newydd, dylid ystyried y Cynllun Diwygiedig newydd yn bennaf. Er ei fod yn gwbl dderbyniol pan gafodd ei gyflwyno, mae'r polisïau a'r darpariaethau newydd yn diystyru'r rhai yn yr hen gynllun. Mae mabwysiadu'r CDLl newydd yn golygu y byddai rhoi caniatâd yn tanseilio'r cyfeiriad strategol sydd newydd ei gymeradwyo gan yr Arolygydd.  
  • Os nad yw cais yn cydymffurfio â'r cynllun mabwysiedig ond yn cydymffurfio â'r Cynllun Diwygiedig, dylid ystyried y darpariaethau newydd yn bennaf.  

Bydd ceisiadau cynllunio a ddilysir ar ôl mabwysiadu'r Cynllun Diwygiedig yn cael eu hystyried yn erbyn ei ddarpariaethau—waeth beth fo'r ymgynghoriad cyn ymgeisio cyn cyhoeddi adroddiad yr Arolygydd.  

Y Diweddaraf: 20 Hydref 2026 Mae’r ymgynghoriad ar bedwar dogfen Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) bellach ar agor a bydd yn parhau tan hanner nos ar 1 Rhagfyr 2026. Gellir gweld y dogfennau ymgynghori yma:

CCA Drafft Bioamrywiaeth Ac Adferiad Natur

CCA Drafft Cilfach Tywyn

CCA Drafft Asesiad O'r Effaith Ar Iechyd

CCA Drafft Coed, Coetiroedd A Gwrychoedd

Y Wybodaeth Diweddaraf: 17 Mehefin 2026
Ar y 17 Fehefin aeth yr ymgynghoriad ar y Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar Dai Fforddiadwy a Rhwymedigaethau Cynllunio yn fyw. Bydd ar gael tan 31 Gorffennaf 2026. Gellir dod o hyd i’r dogfennau ymgynghori yma.

CCA Drafft - Tai Fforddiadwy

CCA Drafft - Rhwymedigaethau Cunllunio

Y Wybodaeth Ddiweddaraf – 11 Mai 2026

Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd (MACs) – Mae'r dogfennau ymgynghori i'w gweld yma

Y Wybodaeth Ddiweddaraf: 27ain Mawrth 2025

Ar 31 Ionawr 2025, cyflwynodd yr Arolygwyr Cynllunio sy'n cynnal yr Archwiliad lythyr at y Cyngor yn cyfarwyddo'r gofyniad i ddod o hyd i safleoedd tai ychwanegol i'w nodi yn y CDLl Diwygiedig. Mae'r Cyngor wedi cynnal yr ymarfer hwnnw ac mae modd dod o hyd i'r dogfennau isod

Safleoedd Ychwanegol