Cyflenwad tir ar gyfer tai
Diweddarwyd y dudalen ar: 22/07/2026
Mae Nodyn Cyngor Technegol 1: Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai wedi cael ei ddirymu gan Lywodraeth Cymru, ac o ganlyniad nid yw'n ofynnol bellach i Awdurdodau Lleol gynhyrchu Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai (JHLAS). Bydd Awdurdodau Lleol yn awr yn adrodd am ddarparu tai yn eu Hadroddiadau Monitro Blynyddol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol. Mae'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Argraffiad 3 yn nodi'r fframwaith monitro newydd ar gyfer darparu tai. Er ei fod yn canolbwyntio ar integreiddio taflwybrau tai i mewn i Gynlluniau Datblygu Lleol Diwygiedig, darperir canllawiau hefyd ar gyfer monitro'r ddarpariaeth tai ar gyfer Awdurdodau Cynllunio Lleol gyda CDLl mabwysiedig cyn cyhoeddi'r Llawlyfr (gweler paragraff 8.15 o'r Llawlyfr).
