Faint o hylif sydd ei angen arnom?

Argymhellir bod y rhan fwyaf o bobl yn yfed tua 6-8 cwpanaid o hylif (rhwng 1.5 a 2 litr). Ond gall hyn gynyddu yn dilyn gweithgarwch corfforol, gwres, salwch neu ffactorau eraill. Mae hydradu nid yn unig yn ymwneud ag yfed dŵr – mae diodydd di-alcohol fel te a choffi, yn ogystal â hylifau o fwydydd fel ffrwythau, cawl, a chynnyrch llaeth, yn cyfrannu at ein cymeriant dyddiol.

 
Pam mae Hydradu'n Bwysig

Dŵr yw mwy na hanner pwysau ein corff, ac mae cynnal hydradiad priodol yn helpu i sicrhau iechyd da. Gall dadhydradu, hyd yn oed ychydig, arwain at symptomau fel blinder, pennau tost, a diffyg canolbwyntio. Os nad ydym yn yfed digon o hylifau, mae ein harennau'n creu llai o wrin, ac mae hyn yn arwain at wrin tywyllach, sy'n arwydd bod angen i ni yfed mwy.

Ystyriaethau Arbennig ar gyfer Grwpiau Gwahanol

  • Plant: Efallai na fydd plant iau yn gallu cyfleu eu bod yn sychedig, felly mae'n bwysig eu hannog i yfed yn rheolaidd. 
  • Oedolion Hŷn: Mae oedolion hŷn, yn enwedig y rhai sydd â phroblemau iechyd, mewn mwy o berygl o ddadhydradu. Mae cyflyrau lle nad yw’r arennau’n gweithio’n iawn, neu achosion o golli màs y cyhyrau, a diffyg ymwybyddiaeth o syched yn cyfrannu at hyn. Mae eu helpu i yfed digon yn hanfodol. 
     

Arwyddion o Ddadhydradu

Mae dadhydradu'n digwydd pan nad yw faint o hylif sy'n cael ei yfed yn cyfateb i faint o ddŵr sy'n cael ei golli. Gall ddigwydd dros ychydig oriau neu ddyddiau ac fel arfer mae modd ei atal. Dyma rai o'r arwyddion cyffredin:

  • Teimlo'r bendro neu deimlo'n benysgafn
  • Teimlo'n sychedig
  • Wrin melyn tywyll sy'n arogli'n gryf 
  • Pi-pi yn llai aml nag arfer 
  • Ceg, gwefusau a thafod sych
  • Dryswch
  • Teimlo'n flinedig
  • Llygaid pantiog

Mewn achosion difrifol, gall dadhydradu arwain at broblemau iechyd difrifol fel deliriwm, codymau, heintiau'r llwybr wrinol (UTIs), a mynd i'r ysbyty hyd yn oed. 

Cynnal Hydradiad

Er mwyn aros wedi eich hydradu, mae yfed hylifau trwy gydol y dydd yn hanfodol. Dŵr yw'r opsiwn iachaf a rhataf, ond gallwch hefyd yfed te, coffi neu laeth, a bwyta bwydydd sy'n llawn dŵr. Os ydych chi'n egnïol, yn feichiog neu mewn amgylchedd poeth, efallai y bydd angen mwy o hylifau arnoch chi.

Gallwch ddod o hyd i'ch gorsaf ail-lenwi agosaf yma: Gorsafoedd ail-lenwi dŵr am ddim Cyngor Sir Caerfyrddin