Cerdyn Argyfwng
Mae Cerdyn Adnabod Gofalwyr / Cerdyn Argyfwng: Rwy’n Ofalwr yn gerdyn adnabod maint waled ar gyfer gofalwyr di-dâl.
Mae’r cerdyn yn cyflawni dau bwrpas:
1. Mynediad at Ostyngiadau: Gall gofalwyr gael mynediad at ostyngiadau sydd ar gael a byddant yn cael cynnig asesiad gofalwyr – naill ai ar eu pen eu hunain neu ar y cyd gyda’r unigolyn sy’n derbyn gofal.
2. Ymateb mewn Argyfwng: Gall gofalwyr gario’r cardiau hyn, ac os ydynt yn cael damwain neu’n methu dychwelyd adref i barhau â’u cyfrifoldebau gofalu, bydd gwasanaethau brys neu eraill yn gallu cysylltu â’r bobl berthnasol i roi gwybod bod rhywun gartref sy’n methu ymdopi heb gymorth. (Mae hyn yn ddewisol)
Mae’r cerdyn yn ddilys am 3 blynedd a gallwch wneud cais eto pan ddaw i ben os ydych yn dal i fod yn ofalwr di-dâl.
| Mae Busnesau Lleol yn Sir Gaerfyrddin yn cynnig gostyngiadau i ddeiliaid cerdyn. Mae busnesau sy'n cymryd rhan yn arddangos y sticer isod yn eu heiddo. | ![]() |
|
Busnes sydd wedi cofrestru i gynnig gostyngiad Cerdyn Gofalwr |
Gostyngiad sydd ar gael |
Cyfeiriad y Busnes |
Enw Cyswllt |
|
Caffi Ceirw |
10% oddi ar y cyfanswm |
Parc Gwledig Gelli Aur |
Gareth Jones |
|
Carreg Law, Llandeilo |
15% oddi ar bris ewyllys ac Atwrneiaeth ar gyfer gofalwyr a'r rhai sy'n derbyn gofal |
2 Stryd y Brenin Llandeilo |
Edward Friend |
|
Carreg Law, Llanymddyfri |
15% oddi ar bris ewyllys ac Atwrneiaeth ar gyfer gofalwyr a'r rhai sy'n derbyn gofal |
15 Heol y Brenin Llanymddyfri |
Edward Friend |
|
Phil Bernier - Hyfforddwr Ioga |
Sesiwn gyntaf am ddim |
The Studio |
Phil Bernier |
|
Michael Corcoran Heating and Plumbing |
25% oddi ar bris gwasanaeth boeler |
Cherry Tree Cottage |
Michael Corcoran |
|
Sarah Evans Photography |
10% oddi ar bris pob gwasanaeth |
29 Heol y Drindod Tre Ioan Caerfyrddin |
Sarah Evans |
|
Carmarthen Injury Clinic |
5% oddi ar bris pob gwasanaeth |
16 Heol y Sgubor Caerfyrddin |
Graham Vaughan |
|
Stitch and Go Wales |
10% oddi ar y pris |
Heol y Gât |
Jan Mosley |
|
Llogi Pebyll Cloch Nights Under Canvas |
10% (ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro) |
|
Steve |
|
Costal Cleaning |
10% oddi ar sesiwn glanhau dwys gyda thriniaeth gwrthfeirysol am ddim |
Ystafell 19b |
Leigh Hall |
|
DPA Law (Davies, Parsons & Allchurch) |
20% oddi ar bris pob gwasanaeth |
Llawr 1af |
Kathryn Devonald- Davies |
|
Balance your outlook (gwasanaethau therapi) |
25% oddi ar bris pob gwasanaeth |
48 The Highlands Castell-nedd |
Debbie Basden |
Fel gofalwr, mae gennych yr opsiwn i gymryd rhan yn yr elfen Cerdyn Argyfwng: Rwy’n Ofalwr. Mae’r elfen hon yn sicrhau, os bydd argyfwng, y bydd y bobl berthnasol yn cael gwybod er mwyn darparu cymorth i’r person rydych yn gofalu amdano.
Mae gofalwyr yn llenwi ffurflen gofrestru i roi manylion am y person y maent yn gofalu amdano, ac enwau hyd at dri pherson enwebedig a all ymateb mewn argyfwng neu amgylchiadau annisgwyl eraill.
Anfonir y ffurflen wedi’i chwblhau at Llesiant Delta, a fydd wedyn yn cyhoeddi Cerdyn Adnabod Gofalwyr/Cerdyn Argyfwng: Rwy’n Ofalwr gyda rhif unigryw i’r gofalwr.
Os bydd digwyddiad annisgwyl neu argyfwng yn codi, gellir cysylltu â Llesiant Delta, a thrwy ddyfynnu’r rhif cofrestru unigryw, gall staff drefnu cymorth drwy gysylltu â’r person(au) enwebedig. Byddant wedyn yn darparu cymorth dros dro heb dâl er mwyn osgoi perygl o ddirywiad neu argyfwng i’r person bregus gartref.
Gallwch gofrestru ar gyfer y cynllun o hyd. Os bydd argyfwng, bydd Llesiant Delta yn cysylltu’n awtomatig â’r gwasanaethau cymdeithasol, a fydd yn ymateb ac, os oes angen, yn gwneud trefniadau amgen.
Dylai’r person(au) enwebedig adnabod y person rydych yn gofalu amdano a gwybod pa gymorth sydd ei angen. Rydym yn cofnodi eu manylion fel y gellir cysylltu â nhw mewn argyfwng os na allwch ddarparu gofal eich hun. Mae’n well eu bod yn ymwybodol o hyn ac yn cytuno y gellir cysylltu â nhw. Dylent wybod sut i gael mynediad i’ch cartref a beth i’w wneud dan yr amgylchiadau hynny. Byddant wedyn yn darparu cymorth dros dro heb dâl er mwyn osgoi perygl o ddirywiad neu argyfwng i’r person bregus gartref.
Dylai’r person(au) enwebedig hefyd wybod pa feddyg teulu y mae’r person rydych yn gofalu amdano wedi’i gofrestru ag ef, ac unrhyw aelod(au) eraill o’r teulu y dylid cysylltu â nhw os bydd angen.
Gallwch wneud cais am Gerdyn Adnabod Gofalwyr / Cerdyn Argyfwng: Rwy’n Ofalwr drwy lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein: Cerdyn Adnabod Gofalwyr/Cerdyn Argyfwng Gofalwyr – Delta Wellbeing neu drwy lenwi’r ffurflen sydd ar ddiwedd y Daflen Ffeithiau 9 a’i dychwelyd i:
Llesiant Delta, Porth y Dwyrain, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YF
Cysylltwch â Llesiant Delta drwy ffonio 0300 333 2222 i roi gwybod am unrhyw newidiadau.



