Gofalwyr sy’n Gweithio

Mae gofalwyr yn rhoi cymorth yn ddi-dâl i aelodau o'u teulu neu i ffrindiau na fyddai'n gallu dygymod heb y cymorth hwn. Gallai hyn gynnwys gofalu am berthynas, cymar neu ffrind sy'n sâl, yn fregus, yn anabl neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu broblemau camddefnyddio sylweddau.  

Efallai eich bod yn ofalwr sydd hefyd yn gweithio, ac yn delio â'r straen sy'n gysylltiedig â'r hyn a all ymddangos fel dwy swydd – un am dâl, ac un yn ddi-dâl – ac yn diwallu anghenion y ddwy swyddogaeth.  

Pethau i'w hystyried: 

  • Pa fath o gymorth allai fod ar gael?  
  • Pa fod o gymorth a chefnogaeth allai fod eu hangen ar Bronwen?  
  • A oes gan Bronwen ffrindiau, deulu a/neu gymdogion a allai helpu?  
  • A yw Bronwen wedi ystyried troi at gefnogaeth yn ystod y gwyliau i gael cymorth o ran gofal plant?  
  • Yn y tymor byr, a fyddai modd i Bronwen gymryd seibiant byr?  
  • A ganiateir i Bronwen gael amser ychwanegol i ffwrdd o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau meddygol/ysbyty y sawl y mae hi'n gofalu amdano?  
  • A oes gan Bronwen unrhyw gynlluniau i ymdrin ag argyfwng?  
  • A oes angen cymorth ariannol a budd-daliadau ar Bronwen – efallai absenoldeb rhiant ar gyfer plant anabl?  
  • A yw Bronwen wedi siarad ag unrhyw brosiectau sy'n cynorthwyo gofalwyr?  
  • A yw Bronwen wedi siarad â'r Adran Gofal Cymdeithasol?  
  • A oes ar Bronwen angen help i deithio?  
  • Beth am ddefnyddio Technoleg Gynorthwyol ar gyfer yr un y mae’n gofalu amdano?  

A ddylech ddweud wrth eich cyflogwr? 

Chi sydd i benderfynu a ydych am ddweud wrth eich cyflogwr ai peidio. Fel gweithiwr cyflog, mae gennych hawliau statudol i weithio'n hyblyg ac i gael amser o'r gwaith pan fydd argyfwng (rhaid i'ch cyflogwr gynnig y rhain), ond mae'n bosibl hefyd y bydd eich cyflogwr yn cynnig cefnogaeth ychwanegol, er enghraifft: oriau cywasgedig, absenoldeb di-dâl, neu rannu swydd. Cyn ichi benderfynu siarad â'ch cyflogwr, dylech ddysgu rhagor am ei bolisi ynghylch cefnogi gofalwyr sydd hefyd yn weithwyr (os oes gan eich cyflogwr bolisi). Gwnewch hyn drwy edrych ar eich llawlyfr staff neu drwy gael gair â'ch:  

  • Bòs  
  • Rheolwr Llinell 
  • Adran Adnoddau Dynol/Personél 
  • Swyddog Lles/Ymgynghorydd Iechyd Galwedigaethol  
  • Cynrychiolydd undeb/staff 

Deddf Absenoldeb Gofalwyr

Yn ogystal, o ganlyniad i Ddeddf Absenoldeb Gofalwyr 2023, a ddaeth i rym ar 6 Ebrill 2024, os ydych yn gofalu am berson ag angen gofal hirdymor mae’n bosibl iawn y bydd gennych hawl i un wythnos o absenoldeb di-dâl y flwyddyn. Gellir cymryd yr absenoldeb hwn yn hyblyg (mewn hanner diwrnodau neu ddiwrnodau llawn) ar gyfer ymrwymiadau gofal a gynlluniwyd ac a ragwelir. Mae ar gael o ddiwrnod cyntaf eich cyflogaeth ac mae'n darparu'r un 3 amddiffyniadau cyflogaeth i weithwyr â mathau eraill o absenoldeb sy'n gysylltiedig â theulu, gan gynnwys amddiffyniad rhag diswyddo.

Dweud wrth eich Rheolwr a'ch Cydweithwyr  

Wrth ystyried dweud wrth eich rheolwr a'ch cydweithwyr eich bod yn ofalwr, efallai eich bod yn ofni cael eich stigmateiddio, y bydd eraill yn ystyried eich bod yn cael triniaeth ffafriol, y bydd gennych berthynas wael â'ch cydweithwyr neu y byddwch yn siomi'r tîm. Fodd bynnag, gall eich rheolwr a'ch cydweithwyr fod yn gefnogol iawn, ac efallai y gall fod o gymorth i drafod eich sefyllfa â rhywun y gallwch ymddiried ynddo/ynddi yn y gwaith. Efallai y gwelwch fod cydweithwyr hefyd yn ofalwyr, a chyda'ch gilydd, eich bod yn fwy abl i siarad â'ch cyflogwr am ffyrdd y gellid eich cynorthwyo. Efallai y gallech ofyn i'ch cyflogwr sefydlu grŵp cymorth i ganfod sut, gyda'ch gilydd, y gallwch ddod o hyd i ffyrdd gwell o gael cydbwysedd rhwng eich gwaith a gofalu. Bydd dweud wrth eich rheolwr a'ch cydweithwyr o gymorth ichi gael amrywiaeth o ddulliau cymorth gan gynnwys:  

  • Cael cydnabyddiaeth eich bod yn ofalwr (a chydnabod yr hawliau sy'n gysylltiedig â hynny)  
  • Amser o'r gwaith pan fydd argyfwng  
  • Gweithio oriau hyblyg 
  • Mynediad at grwpiau cymorth  
  • Gwybodaeth a chyfeirio 
  • Llai o straen i'r gweithiwr  
  • Gall gryfhau perthnasoedd  

Beth yw gweithio hyblyg?  

Gall gweithio hyblyg ganiatáu i weithwyr reoli eu gwaith a'u cyfrifoldebau gofalu a gall gynnwys:  

  • Oriau cychwyn a gorffen hyblyg 
  • Oriau gwaith cywasgedig e.e. gweithio 35 awr yr wythnos dros 4 diwrnod yn lle 5  
  • Oriau gwaith Blynyddol e.e. bydd eich oriau'n cael eu cyfrifo dros flwyddyn a byddwch yn gweithio rhai sifftiau penodol, ond bydd gennych hyblygrwydd o ran rhai o'ch oriau er mwyn caniatáu ichi weithio mwy neu lai o oriau i gyd-fynd â'ch rôl ofalu ac anghenion y busnes.  
  • Gweithio yn ystod y tymor yn unig 
  • Rhannu swydd a gweithio'n rhan-amser 
  • Gweithio gartref/teleweithio 
  • Oriau dros gyfnod 
  • Gweithio sifftiau 
  • Lleihad dros dro yn yr oriau gwaith 
  • Seibiannau gyrfa 

Pwy sy'n gallu gwneud cais am Weithio Hyblyg?  

Mae gan bob gweithiwr cyflog sydd ag o leiaf 26 wythnos o wasanaeth parhaus hawl i ofyn am weithio'n hyblyg a hawl i'r cais gael ei ystyried o ddifrif gan y cyflogwr. (Mae'n bosibl y bydd rhai cyflogwyr yn cynnig y cyfle i weithio'n hyblyg i bob gweithiwr.) Yn benodol, mae hawl gan rieni plant dan chwe blwydd oed neu rieni plant anabl o dan 18 mlwydd oed i wneud cais i'w cyflogwr am gael gweithio’n fwy hyblyg. Gall y cais ymwneud ag oriau gwaith, amseroedd gweithio a man gweithio a gall gynnwys ceisiadau am batrymau gwaith gwahanol.

Sut mae gwneud cais am weithio hyblyg? 

Gall manylion polisïau cyflogaeth amrywio, ac fe'ch cynghorir i edrych ar bolisi eich cyflogwr cyn gwneud cais, ond mae'r rhan fwyaf o bolisïau'n seiliedig ar yr egwyddorion cyffredinol isod:  

Rhaid i'r cais:  

  • Cael ei gyflwyno'n ysgrifenedig, gan nodi ei fod yn cael ei wneud dan yr hawl statudol i wneud cais am weithio hyblyg  
  • Cadarnhau pa berthynas sydd rhwng y gweithiwr a'r plentyn/oedolyn  
  • Amlinellu cais y gweithiwr ac egluro'r effaith y mae'r gweithiwr yn ei gredu y bydd hyn yn ei chael ar fusnes y cyflogwr a sut y gellir ymdrin â hyn. Nodi dyddiad dechrau ar gyfer y newid arfaethedig gan roi amser rhesymol i'r cyflogwr ystyried y cais a'i weithredu. Gall hyn gymryd 12-14 wythnos. Nodi a wnaed cais blaenorol ac os felly, ar ba ddyddiad y cafodd ei wneud. 
  • Bod wedi'i ddyddio 

Ar ba sail y gellir gwrthod eich cais? 

Ni all ceisiadau am drefniadau Gweithio Hyblyg gael eu gwrthod yn afresymol, ond gellir eu gwrthod am y rhesymau canlynol:  

  • Baich y costau ychwanegol  
  • Effaith niweidiol ar y gallu i gwrdd â’r galw o du cwsmeriaid  
  • Anallu i ad-drefnu gwaith ymysg y staff presennol  
  • Anallu i recriwtio staff ychwanegol  
  • Effaith niweidiol ar ansawdd  
  • Effaith niweidiol ar berfformiad  
  • Dim digon o waith yn ystod y cyfnodau y mae’r gweithiwr yn bwriadu gweithio  
  • Newidiadau sydd yn yr arfaeth o ran y strwythur. 

Mae gan Carers UK ragor o wybodaeth am Weithio Hyblyg.  

Beth os wyf am roi'r gorau i weithio?  

Os ydych yn meddwl rhoi'r gorau i weithio, ystyriwch a ydych yn wir eisiau rhoi'r gorau iddi, ac os nad ydych, pa gymorth y mae arnoch ei angen i ddal ati i weithio? Yn gyntaf, meddyliwch am y pethau y byddech yn eu hildio, ac a ydych yn wir am eu colli. 

A fyddwch yn ymdopi â llai o arian?  

  • A ydych am ildio eich annibyniaeth a'r cyswllt cymdeithasol a gewch drwy eich gwaith?  
  • A fyddwch yn colli sgiliau gwerthfawr os byddwch yn gadael?  
  • Sut y byddai rhoi'r gorau i weithio yn effeithio ar eich hawliau pensiwn yn y dyfodol?  

Yna, ystyriwch ffyrdd o fynd i'r afael â'r broblem. A allech wneud y canlynol?    

  • Cyflwyno cais am weithio hyblyg  
  • Cael seibiant gyrfa  
  • Gofyn am gymorth ychwanegol gan y gwasanaethau cymdeithasol Mae gennych hawl i asesiad o'ch anghenion cymorth chi, yn ogystal ag anghenion yr un yr ydych yn gofalu amdano. Os ydych yn dymuno gweithio, rhaid i hyn gael ei ystyried wrth iddynt asesu a chynllunio gofal yr un yr ydych yn gofalu amdano/amdani.