Asesiad Ariannol

Mae asesiad ariannol yn cyfrifo'r hyn y gallwch fforddio ei dalu tuag at eich gofal.  Gallai hyn fod ar gyfer cymorth yn y cartref neu ar gyfer gofal preswyl.  Mae asesiad ariannol fel arfer yn cael ei drefnu ar ôl i chi gael asesiad o'ch Anghenion Gofal a Chymorth ac aseswyd bod angen gofal a chymorth arnoch gan (neu ar ran) y Cyngor. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn talu rhywbeth tuag at gost eu gofal.

Mae asesiad ariannol yn brawf modd lle mae'r cyngor yn edrych ar eich incwm, eich cyfalaf a'ch eiddo i gyfrifo faint y dylech fod yn ei gyfrannu tuag at gost eich gofal a'ch cymorth.  Os oes gennych ddigon o incwm/asedau, gallech dalu cost lawn y gofal a ddarperir.  Mae uchafswm tâl wythnosol am ofal dibreswyl, sef £100.00 yr wythnos ar hyn o bryd.

Os ydych yn dewis peidio â rhoi manylion eich incwm a'ch asedau eraill i ni neu os ydych yn gwrthod darparu gwybodaeth efallai y bydd y Cyngor yn codi'r tâl llawn arnoch am y gofal a ddarperir.  Mae uchafswm tâl wythnosol am ofal dibreswyl, sef £100.00 yr wythnos ar hyn o bryd.

Os byddwch yn dewis datgan eich sefyllfa ariannol, yna gofynnir i chi lenwi a llofnodi ffurflen asesu ariannol a bydd angen i chi roi manylion eich incwm, eich cyfalaf a'ch treuliau. Bydd angen i chi hefyd roi prawf o'r wybodaeth a nodir ar y ffurflen (e.e. cyfriflenni banc, llythyrau hysbysu am fudd-daliadau); bydd hyn yn ein helpu i gyfrifo faint y gallwch chi fforddio ei dalu tuag at eich gofal.

Gallwn eich helpu i lenwi'r ffurflen os oes angen; byddai hyn fel arfer yn cael ei wneud dros y ffôn ond gallai olygu ymweld â'ch cartref neu unrhyw le cyfleus arall i lenwi'r ffurflen gyda chi a/neu eich cynrychiolydd.  Gallwch gael cymorth a chyngor yn y ganolfan HWB leol hefyd.

Os oes gennych gyfalaf ar y cyd â pherson arall, fel arfer ystyrir bod gennych chi a'r perchennog arall/perchnogion eraill fuddiant cyfartal yn y cyfalaf hwnnw.

Mae rhywfaint o gyfalaf yn cael ei ddiystyru; mae hyn yn cynnwys hyd at £50,000 cyntaf (ar gyfer 2024/25) eich asedau os byddwch yn mynd i mewn i gartref gofal a hyd at y £24,000 cyntaf (ar gyfer 2024/25) os ydych yn derbyn gofal a chymorth dibreswyl.  Mae'r swm hwn yn cael ei bennu gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.

Byddwn yn adolygu eich asesiad ariannol yn flynyddol, oni bai bod eich amgylchiadau yn newid, ac os felly byddwn yn adolygu'r asesiad ariannol yn gynt.  Dylech roi gwybod i ni os oes unrhyw newid yn eich amgylchiadau (e.e. os bydd eich cyfalaf yn mynd uwchlaw neu'n islaw'r trothwy cyfalaf, os ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau/incwm ychwanegol, neu os bydd rhywun yn gadael tŷ a ddiystyrwyd yn eich asesiad ariannol yn flaenorol) gan y gallai hyn effeithio ar y swm y byddwch yn ei dalu tuag at eich gofal a'ch cymorth.  Bydd unrhyw newid i'ch tâl yn cael ei ôl-ddyddio i'r dyddiad y digwyddodd y newid.  

Os oes angen gofal arnoch i aros yn eich cartref eich hun, ni fydd yr asesiad ariannol yn cynnwys gwerth yr eiddo rydych yn byw ynddo ond bydd yn cynnwys gwerth unrhyw dir neu unrhyw eiddo arall rydych yn berchen arno.  Bydd rhywfaint o'ch incwm yn cael ei ddiystyru i'ch galluogi i dalu'ch 'costau byw cyffredin’.  I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen uchod.

Os bydd angen i chi symud yn barhaol i gartref gofal, gall yr asesiad ariannol gynnwys gwerth eich prif breswylfa flaenorol a bydd yn cynnwys gwerth unrhyw dir neu unrhyw eiddo arall rydych yn berchen arno.  Bydd rhywfaint o'ch incwm yn cael ei ddiystyru i'ch galluogi i'w wario ar eitemau nad ydynt yn cael eu darparu gan y cartref gofal.  I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen uchod.