Cost Ychwanegol mewn perthynas â Lleoliad Cartref Gofal
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/01/2025
Os ydych yn mynd i gartref gofal am lai nag 8 wythnos (e.e. seibiant, gofal tymor byr neu ofal amgen) dim ond un lleoliad cartref gofal addas ac sydd ar gael sy'n rhaid i'r cyngor ei gynnig i chi. Gallwch ddewis mynd i gartref sy'n ddrutach na'r hyn mae'r cyngor yn ei gynnig ond bydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth mewn cost rhwng y cartref gofal a gynigir gan Gyngor Sir Caerfyrddin a'r un rydych wedi'i ddewis.
Os ydych wedi cael eich asesu fel rhywun sydd angen lleoliad cartref gofal ac ar adeg disgwylir i'r arhosiad bara mwy nag 8 wythnos (h.y. lleoliad dros dro neu barhaol) (ac nad yw'r lleoliad hwnnw wedi'i ddarparu o dan Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) yna mae gan y cyngor rwymedigaeth i wneud y canlynol:
- Cynnig dewis o ddau leoliad cartref gofal addas, sydd ag argaeledd i ddiwallu'r anghenion a aseswyd.
- Trefnu i chi fynd i'r cartref gofal o'ch dewis, hyd yn oed os nad yw hwnnw'n un o'r ddau leoliad cartref gofal addas a nodwyd gan y Cyngor, ar yr amod bod y cartref gofal yn gallu diwallu eich anghenion a'i fod yn fodlon ymrwymo i gontract gyda'r Cyngor. Gallai cost ychwanegol fod yn ddyledus gennych, neu gan drydydd parti os nad yw'r cartref gofal a ddewisir gennych yn un o'r cartrefi a nodwyd gan yr awdurdod lleol. (Dim ond os oes cytundeb taliadau gohiriedig ar waith)
Mae'n bwysig bod yn ymwybodol nad yw pob cartref gofal yn codi'r un gyfradd ar gyfer lleoliad cartref gofal. Bob blwyddyn, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cwrdd â chynrychiolwyr o'r cartrefi gofal yn Sir Gaerfyrddin i gytuno ar gyfradd safonol ar gyfer lleoliadau cartref gofal a drefnir gan yr Y Cyngor.
Ceir pedair cyfradd safonol gan ddibynnu ar y math o ofal sydd ei angen ar y person. Bydd nifer o gartrefi gofal yn derbyn cyfradd contract safonol y cyngor, ond bydd eraill am godi mwy. Os nad yw'r cartref gofal yn Sir Gaerfyrddin, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn talu'r gyfradd contract safonol sy'n berthnasol yn yr ardal honno i'r cartref gofal.
Os na all Cyngor Sir Caerfyrddin gynnig lleoliad i chi mewn dau gartref gofal ar ei gyfradd safonol, pa bynnag un a ddewisir gennych o'r ddau gartref a gynigir, dim ond y gyfradd safonol berthnasol ar gyfer y math o ofal fydd ei angen arnoch fydd yn cael ei chodi.
Fodd bynnag, bydd yr union swm y byddwch yn ei gyfrannu at gost y cartref gofal yn cael ei bennu gan asesiad ariannol. Ni ddylech chi byth dalu mwy nag y gallwch ei fforddio, felly nid oes rhaid i bawb dalu cost lawn y lleoliad cartref gofal.
Os ydych am fynd i gartref gofal gwahanol i'r ddau yr ydym wedi eu cynnig i chi, gallwch fynd i unrhyw le yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban. Fodd bynnag, os yw'r cartref gofal a ddewisir gennych yn codi tâl sy'n fwy na chyfradd safonol yr ardal honno, bydd cost ychwanegol yn berthnasol. Mae'n bwysig nodi os oes cost ychwanegol y bydd yn rhaid i rywun arall ar wahân i chi dalu am hyn fel arfer. Mae'r swm hwn yn ychwanegol at yr hyn y byddwch yn ei gyfrannu at gost eich lleoliad cartref gofal yn sgil yr asesiad ariannol.
Os yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn llunio contract ar gyfer eich lleoliad cartref gofal a'i fod yn ddrutach na'r ddau a gynigir ac yn ddrutach na'r gyfradd safonol, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn llunio contract gyda'r cartref gofal ar gyfer cost lawn y lleoliad, gan gynnwys swm y gost ychwanegol. Fodd bynnag, bydd angen i chi nodi rhywun sy'n fodlon ac sy'n gallu talu'r gost ychwanegol y cyfeirir ati uchod. Mae angen i'r person hwnnw ddeall y bydd yn rhaid iddo dalu'r gost ychwanegol honno dros y cyfnod y byddwch yn byw yn y cartref gofal. O ganlyniad, bydd Cyngor Sir Caerfyrddin am weld tystiolaeth bod y person hwn yn gallu fforddio talu'r gost ychwanegol. Bydd gofyn iddo hefyd lofnodi contract cyfreithiol rwymol gyda'r cyngor sy'n cadarnhau y bydd yn talu'r swm hwn. Ni ddylai'r cartref gofal byth ofyn i'r person yr ydych yn ei nodi neu unrhyw un o'ch teulu dalu'r gost ychwanegol yn uniongyrchol iddynt.
Mae hefyd yn bwysig nodi bod cartrefi gofal yn newid eu ffioedd cartref gofal yn rheolaidd ac felly gall cyfradd safonol y cyngor newid. Os bydd y gyfradd hon yn newid, mae'n gallu golygu bod y gost ychwanegol yn cynyddu ac felly mae angen i'r person sy'n talu'r swm hwn fod yn ymwybodol o hyn.
I ddechrau, byddwn yn ceisio adennill y ddyled gan y person drwy ein proses rheoli dyledion, a allai arwain at achos llys yn y pen draw. Yn ogystal, os nad yw'r gost ychwanegol yn cael ei thalu, bydd y cyngor yn ystyried gwneud trefniadau rhatach eraill, a allai gynnwys eich bod yn gorfod symud i gartref gofal rhatach.
Mae codi tâl ariannol yn gymhleth ac felly os oes unrhyw ymholiadau gennych, mae croeso i chi siarad â'r aelod o staff gwaith cymdeithasol sy'n delio â chi, neu ein Tîm Asesu Ariannol ar:
01267 228769 / 01267 228943
E-Bost: SCHfinancialassess@sirgar.gov.uk