Cynllun Taliadau Gohiriedig

Gall taliad gohiriedig eich helpu i dalu am gost eich gofal a'ch cymorth, os ydych yn symud i gartref gofal preswyl neu nyrsio.

Cyn i chi benderfynu a yw cynllun taliadau gohiriedig yn addas, byddwn yn rhoi digon o wybodaeth a chyngor i chi fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch ai cytundeb taliadau gohiriedig yw'r dewis gorau i chi a sicrhau eich bod yn deall yn llawn beth rydych yn ymrwymo iddo.

Rydym hefyd yn argymell cael cyngor a gwybodaeth ariannol annibynnol cyn ymrwymo i gytundeb taliadau gohiriedig, gan fod ffyrdd eraill efallai o dalu am eich gofal.

Mae cynllun taliadau gohiriedig yn rhoi hyblygrwydd o ran sut a phryd rydych yn talu am eich gofal ac mae'n golygu na fyddwch yn cael eich gorfodi i werthu eich cartref yn ystod eich oes i dalu am ofal.

Mae'r Cynllun Taliadau Gohiriedig yn drefniant cyfreithiol gyda'r Cyngor i'ch galluogi i oedi cyn talu costau eich gofal neu ohirio eu talu. 

Bydd y Cyngor yn talu am eich gofal ond bydd yn sicrhau'r swm sy'n cael ei ohirio drwy osod arwystl cyfreithiol yn erbyn eich eiddo fel sicrwydd am y ddyled.   

Bydd yn rhaid ad-dalu unrhyw arian y mae'r Cyngor yn ei dalu yn yr amgylchiadau hyn pan fydd yr eiddo'n cael ei werthu neu pan nad oes angen y gofal mwyach.

Mae'r cynllun ar gael i'r bobl ganlynol:

  • Unigolyn sydd â galluedd neu drwy rywun sy'n gynrychiolydd awdurdodedig yr unigolyn yn gyfreithiol, h.y. rhywun sydd ag Atwrneiaeth Arhosol neu sy'n ddirprwy cyllid ac eiddo o dan y Llys Gwarchod
  • unigolion sy'n berchen ar eiddo
  • unigolion yr aseswyd bod angen gofal preswyl neu nyrsio arnynt mewn cartref gofal ac y mae'r cyngor wedi trefnu'r lleoliad ar eu cyfer
  • unigolion y mae eu cynilion a/neu eu hasedau eraill yn is na'r trothwy cyfalaf uchaf (llai na £50,000 2023/24)
  • unigolion nad oes ganddynt ddigon o incwm wythnosol i dalu am gost lawn eu gofal
  • unigolion sy'n methu â gwerthu eu cartrefi yn ddigon buan i dalu am eu gofal
  • y rhai sydd â buddiant llesiannol mewn eiddo y maent wedi bod yn byw ynddo, a bod y buddiant hwnnw'n werth digon i dalu'r tâl a aseswyd
  • y rhai sy'n talu cyfraniad wythnosol ar sail asesiad o'u hincwm a'u hasedau

Mae'r amodau canlynol yn berthnasol:

  • nid yw'r eiddo wedi cael ei ddiystyru fel rhan o'r broses asesu ariannol.
  • mae eich asedau cyfalaf eraill (heb gynnwys eich eiddo) yn is na'r trothwy cyfalaf uchaf ac nid oes gennych incwm wythnosol digonol i dalu'r tâl llawn.
  • rydych yn cytuno â holl delerau ac amodau'r cytundeb taliadau gohiriedig a gynigir.
  • mae unrhyw berson arall sydd â buddiant yn yr eiddo yn caniatáu'r cytundeb taliadau gohiriedig.
  • mae’r Cyngor yn gallu creu'r arwystl cyntaf ar yr eiddo fel sicrwydd ar gyfer y ddyled. Pan ydym yn cyfeirio at gôst gyntaf, rydym yn golygu y bydd cost yr awdurdod lleol yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw gostau cyfreithiol eraill, er enghraifft, yn aml bydd morgeisi'n cael eu sicrhau gan gost gyfreithiol yn erbyn yr eiddo.

Ar ôl i asesiad bennu bod angen gofal preswyl neu nyrsio mewn cartref gofal, cynigir asesiad ariannol i bawb i benderfynu faint y byddant yn ei dalu tuag at gost eu gofal. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy'r Tîm Asesiadau Ariannol.

Fel rhan o'r asesiad ariannol, am y deuddeg wythnos gyntaf mae eich prif breswylfa flaenorol yn cael ei diystyru o'r cyfrifiad. Mae unrhyw eiddo neu dir arall y mae gennych fuddiant ynddo yn cael ei gynnwys yn yr asesiad ariannol o ddiwrnod cyntaf eich lleoliad cartref gofal.

O'r 13eg wythnos, caiff eich prif breswylfa flaenorol ei chynnwys yn yr asesiad ariannol ac mae'n bosibl y bydd y swm sydd angen i chi ei dalu fesul wythnos am eich gofal yn uwch na'ch incwm.

Bydd disgwyl i chi dalu elfen incwm eich tâl, h.y. y rhan o'ch tâl a fydd yn cael ei thalu gan yr incwm y byddwch yn ei dderbyn neu y mae gennych hawl i'w dderbyn (e.e. budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau, Pensiwn Galwedigaethol, incwm rhent) i'r Cyngor a bydd y swm sy'n ymwneud â'ch eiddo yn cael ei ohirio.

Yn dilyn yr asesiad ariannol bydd hyn yn rhoi'r cyfle i chi ystyried y ffordd orau o dalu cost eich gofal a gallech ddewis:

  • gwerthu eich eiddo
  • ymrwymo i gytundeb Taliadau Gohiriedig
  • talu'r tâl llawn o'ch cyfalaf hylifol a ddiystyrir (h.y. y cyfalaf hylifol sydd gennych, hyd at y trothwy cyfalaf, sef £50,000.00 ar hyn o bryd) neu'r incwm a ddiystyrir (h.y. unrhyw incwm a gewch na ellir ei ystyried wrth gyfrifo eich tâl)
  • rhentu eich eiddo i denantiaid a thalu'r taliadau o'ch incwm rhent
  • i drydydd parti gyfrannu tuag at eich costau gofal
  • cadw llai o'ch Isafswm Incwm er mwyn lleihau'r swm sy'n cael ei ohirio (D.S. mae Isafswm Incwm yn elfen o'ch incwm wythnosol y mae gennych hawl i'w gadw i'w wario ar bethau nad ydynt yn cael eu darparu gan y cartref gofal, fel trin gwallt)

Mae ymrwymo i Gytundeb Taliadau Gohiriedig yn golygu y byddwch yn cael cyfle i ohirio rhan o'r taliad am eich gofal tan yn ddiweddarach.

Er mwyn gwneud hyn, bydd y Cyngor yn trefnu prisio'r eiddo a bydd angen i chi gytuno i Gyngor Sir Caerfyrddin osod arwystl cyfreithiol ar eich eiddo fel sicrwydd am y ddyled.

Yn gyfnewid am hyn, bydd y Cyngor yn talu gweddill y costau gofal hyd at gyfradd y cytunir arni yn unol â'r swm a fyddai wedi ei dalu petaech wedi gwerthu'r eiddo. Bydd y cyfanswm y gallwch ei ohirio'n cael ei bennu gan werth eich eiddo a faint o gostau gofal sy'n cael eu gohirio.  Byddwch yn derbyn datganiad bob 6 mis yn dangos y swm a ohiriwyd.

Os ydych yn ymrwymo i drefniant taliadau gohiriedig gallech ddefnyddio'r cynllun i dalu am lety sy'n costio mwy hefyd, yn dibynnu ar werth net eich eiddo.

Mae'n bosibl y byddwch yn dymuno cael cyngor ariannol annibynnol cyn ymrwymo i gytundeb Taliadau Gohiriedig.

Os byddwch yn penderfynu gwerthu'ch eiddo, bydd angen i chi roi gwybod i'r Cyngor a bydd angen i chi dalu'r swm sydd wedi'i ohirio yn llawn, gan ddefnyddio elw'r gwerthiant, a bydd yn ofynnol i'r Cyngor ollwng yr arwystl cyfreithiol ar yr eiddo.

Ar hyn o bryd, nid yw'r Awdurdod yn codi ffi am brisio'r eiddo nac am drefnu'r cytundeb Taliadau Gohiriedig a hefyd nid yw'n codi llog ar unrhyw ddyled tan 91 diwrnod ar ôl y dyddiad y bu farw'r preswylydd, neu maent yn gadael y cartref gofal, fodd bynnag, bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae'r awdurdod yn codi ffi gweinyddu, ar hyn o bryd £200.00, am drefnu'r cytundeb Talu Gohiriedig.

Dylech fod yn ymwybodol, gan fod ffioedd cartrefi gofal yn cynyddu bob blwyddyn fel arfer, neu os oes newid yn eich anghenion, bydd y swm sy'n cael ei ohirio hefyd yn newid yn unol â chost lawn y lleoliad a swm yr incwm a dderbynnir (y gwahaniaeth rhwng y ddau ffigur hyn yw'r swm a fydd gohiriedig).

Mae'n rhaid ad-dalu'r swm sydd wedi'i ohirio pan fydd y cytundeb Taliadau Gohiriedig yn cael ei derfynu, sef: 

  • o fewn 91 diwrnod ar ôl eich marwolaeth
  • ar ôl i'r eiddo gael ei werthu
  • pan fyddwch yn terfynu'r cytundeb

Anfonir anfoneb am y swm sy'n ddyledus a fydd yn cynnwys manylion ynghylch sut y gellir ei dalu.  Os na thelir yr anfoneb, dilynir proses adennill dyledion y Cyngor.

Codir llog os nad ad-delir y ddyled ar ddiwedd y cyfnod a gytunwyd. Bydd y gyfradd llog 0.15% yn uwch na chyfradd y Farchnad Gilt a bydd y gyfradd hon yn cael ei hadolygu bob 6 mis.

Bydd y Cyngor yn gollwng yr arwystl cyfreithiol ar yr eiddo ar ôl i'r swm sy'n ddyledus gael ei ad-dalu.

Os ydych yn cael eich derbyn i gartref preswyl neu nyrsio yn barhaol yn dilyn asesiad gofal cymdeithasol, byddwch yn cael asesiad ariannol.  Fel rhan o'r asesiad, ac ar ôl cwblhau ffurflen 'Datgan Modd - Asesiad Ariannol', bydd Swyddog Asesiadau Ariannol yn ysgrifennu atoch i roi manylion ynghylch ymuno â'r cynllun os yw o'r farn eich bod yn gymwys i wneud hynny.

Byddwn yn trefnu prisio eich eiddo ac yn dilyn hynny, bydd llythyr contract ac amodau'r cytundeb yn cael eu hanfon atoch.  Bydd y rhain yn nodi'r taliadau wythnosol a asesir sydd i'w gwneud o dan y cynllun ac amodau'r cytundeb.

Yn unol â gofynion y Gofrestrfa Tir, bydd angen i ni wirio pwy yw'r unigolyn sy'n berchen ar yr eiddo ac y cofrestrir yr arwystl yn ei erbyn yn ogystal â gwirio pwy yw'r unigolyn sy'n gwneud cais am Gytundeb Taliadau Gohiriedig ar ran y preswylydd (e.e. Atwrneiaeth neu Ddirprwy'r preswylydd).

Mae'r Cyngor yn gallu gwrthod cytundeb taliadau gohiriedig mewn rhai amgylchiadau:

  • lle nad yw'r Cyngor yn gallu cael caniatâd unrhyw berson arall sydd â buddiant yn yr eiddo
  • lle nad yw'r Cyngor yn gallu cael yr arwystl cyntaf ar yr eiddo
  • lle mae eich cyfalaf (oni bai am eich eiddo) yn fwy na'r trothwy cyfalaf uchaf neu fod gennych incwm wythnosol digonol i dalu'r tâl llawn am y cartref gofal
  • lle nad ydych yn cytuno ar amodau a thelerau'r cytundeb Taliadau Gohiriedig

Yn ogystal gall y Cyngor roi'r gorau i ohirio costau gofal/terfynu cytundeb Taliadau Gohiriedig yn barhaol neu dros dro, mewn rhai amgylchiadau megis:

  • lle nad oes digon o ecwiti yn yr eiddo ar ôl ystyried y swm sydd eisoes wedi'i ohirio
  • lle mae'r eiddo o ganlyniad yn cael ei ddiystyru o'r broses asesu ariannol
  • lle caiff yr eiddo ei werthu a lle bo'r costau gofal sy'n ddyledus wedi'u talu'n llawn (gan gynnwys llog a ffioedd os yw'n berthnasol)
  • lle mae'r preswylydd yn marw
  • lle mae'r costau gofal sy'n ddyledus wedi'u talu'n llawn (gan gynnwys llog a ffioedd os yw'n berthnasol)
  • lle mae eich asedau cyfalaf eraill (heb gynnwys eich eiddo) yn fwy na'r trothwy cyfalaf uchaf a/neu fod gennych incwm wythnosol digonol i dalu'r tâl llawn
  • lle nad oes gennych mwyach angen a aseswyd ar gyfer gofal mewn cartref gofal
  • lle mae telerau ac amodau'r cytundeb Taliadau Gohiriedig wedi'u torri ac ni ellir llwyddo i ddatrys hyn

Yn ogystal gallwch ddewis terfynu cytundeb Taliadau Gohiriedig. Wedyn bydd angen talu'n llawn unrhyw swm sydd wedi'i ohirio (o fewn 90 diwrnod)

Os cynigir Cytundeb Taliadau Gohiriedig i chi ond eich bod yn dewis peidio ag ymuno â'r cynllun, bydd yr awdurdod yn trefnu bod Arwystl Cyfreithiol yn cael ei osod ar eich eiddo.  Bydd hyn yn sicrhau'r swm a fydd yn ddyledus i'r awdurdod pan fydd yr eiddo'n cael ei werthu. Os yw'r ddyled yn dal i fod heb ei thalu ar ôl eich marwolaeth, codir tâl llog. Bydd y gyfradd llog 0.15% yn uwch na chyfradd y Farchnad Gilt a bydd yn berthnasol o'r 91ain diwrnod ar ôl eich marwolaeth.

Os bydd arwystl cyfreithiol yn cael ei osod ar eich eiddo, rhoddir gwybod i chi, ac fe'ch cynghorir i geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun

Mae hyn yn ddarostyngedig i Adran 59 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Os ydych yn cael gofal preswyl eisoes ond newydd glywed am y Cynllun Taliadau Gohiriedig, mae'n bosibl eich bod yn dal i fod yn gymwys. Cysylltwch â'r tîm Asesiadau Ariannol i gael rhagor o wybodaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, cysylltwch ag:

Y Tîm Asesiadau Ariannol

E-bost: GCTasesiadauariannol@sirgar.gov.uk

Ffôn: 01267 228977

Fe'ch cynghorir yn gryf i ofyn am gyngor ariannol a chyfreithiol annibynnol cyn i'r trefniadau gael eu cwblhau. Dyma rai o'r rhesymau dros gael cyngor annibynnol:

  • Bod yn glir ynghylch goblygiadau cyfreithiol cael arwystl cyfreithiol ar eich cartref.
  • Cael gwybod pa gostau eraill a allai fod yn gysylltiedig â'r trefniadau.
  • Cael gwybod sut mae'n effeithio ar y budd-daliadau yr ydych yn eu cael neu y gallech eu cael.
  • Cael gwybod a oes unrhyw oblygiadau eraill.
  • Bydd angen i chi gynnal a chadw'r eiddo gwag, e.e. talu am yswiriant a biliau gwresogi i ddiogelu'r eiddo rhag lleithder a rhew.
Llwythwch mwy