Lleoliad Cartref Gofal a Drefnwyd yn Breifat
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/01/2025
Os ydych yn flaenorol wedi bod yn breswyl mewn cartref gofal o dan drefniant preifat yng Nghaerfyrddin ac yn awr eisiau i'r awdurdod lleol eich helpu gyda'r trefniadau contract, gallwch gysylltu â ni i asesu a fyddech yn bodloni ein meini prawf ar gyfer lleoliad mewn cartref gofal.
Efallai y byddwch am wneud hyn:
-
rydych yn credu y gallech yn y dyfodol golli'r gallu i gontractio'n breifat gyda'r cartref gofal, neu
-
os yw eich anwylyd eisoes wedi colli'r gallu meddyliol i gontractio gyda'r gofal ac nad oes unrhyw un arall â'r awdurdod i gontractio ar eu rhan, neu
-
rydych wedi ariannu eich lleoliad mewn cartref gofal eich hun, ac mae eich arian yn agosáu at y trothwy cyfalaf sy'n £50,000.00 ar hyn o bryd (2024/25).
Os, yn dilyn asesiad gwaith cymdeithasol, mae'n cael ei benderfynu eich bod wir angen lleoliad mewn cartref gofal, yna gall y Cyngor gymryd drosodd y trefniadau contract.
Byddwch yn parhau i fod yn atebol am unrhyw ffioedd cartref gofal sydd yn ddyledus cyn i'r cyngor gymryd drosodd y contract. Dylai unrhyw ffioedd rydych chi wedi'u talu i'r cartref gofal ar ôl i'r cyngor ddechrau contractio gael eu hadennill gennych chi oddi wrth y cartref gofal.